Hay meadow restoration and shoreline management

0
655

David Hughes, Pembrey Country Park

Despite much of Pembrey Country Park being dominated by manicured and manured grassland, a large area of rank and neglected grassland occurred near the ski centre, only used a few times a year by an equestrian cross country group on set fixed routes. Burnet rose had swamped large parts and sea buckthorn was was invading.

The possibility of transforming this area into a flower-rich habitat supporting a host of wildlife seemed an attractive option. Previously butterfly surveys at the Park in the early 1980s showed that this was the most diverse area – hopefully this was a sign for the future!

Despite limited funding, a very late cut was carried out in 2008, producing 32 large round bales. These bales could not serve any useful agricultural purpose due to the vast content of Burnet rose. However I thought a useful option for the bales could be on our very doorstep – the strandline/embryo dune zone.

Choosing a day nearly at the top of a run of rising tides, the bales were transported onto the foreshore using the park’s tractor and trailer. After unrolling the large round bales time and tide carried out its work. The end result was a thick, well dispersed length of organic matter along the high tide line.

Observing the tide line over the next few days, it was amazing to see the magnetic effect of the hay to the birdlife of the area. Finch and tit species could be observed searching the wave-washed debris, as well as ringed plover, turnstone, wagtails and linnets.

Thriving amongst damp and rotting organic matter, invertebrates are, of course, the main food items for birds we would normally expect to see along the strandline. Hopefully we have benefited the invertebrates that frequent this habitat such as various spiders, ground beetles, and of course the prolific sand hopper.

Another unseen benefit could possibly be to the flora of the embryo dune system. Consisting mostly of annual specialist species, the debris helps protect the seed bank from excessive evaporation and temperature extremes until germination.

Back to the meadow! After a severe harrowing of the area, we waited for nature to take its course. The following spring showed us what germinated naturally in the soil and everything looked very promising. Then a major setback! The campsite manager of our first Beach Break Live student music festival thought the meadow was part of the student camping area! Not only did the site at its most sensitive time of year receive “footfall” on a massive scale, it also suffered “tent fall” on a huge scale. Fortunately, this did not occur again, and the only disturbance a few times a year is by event horses following set routes. These areas form part of the “dynamic” aspect of meadow conservation. ‘Desire lines’ are formed by walkers but this is not problematic and it’s good to see people utilising the area for that purpose, hopefully appreciating the regenerating meadow.

Despite no funding for the restoration project, the park is fortunate to be able to access and use the authority’s Trackmaster power unit with its reciprocal scythe cutter bar and also its hay-rake attachment. As Burnet rose is still present, though on a much smaller scale, we now rake up the cut rows with our tractor’s log grab/rake and deposit the cut grass on the foreshore.

Survey of this meadow/wild flower area showed 71 different flowering plant species. Grazing is not an option in this area so vegetation is removed quickly by cutting, not slowly by livestock. This may mean an impact on the invertebrate population but due to our very late cutting regime, perhaps the impact is not quite so disastrous. On a walk I led there last year (on one of our very few fine summer evenings!) the numbers of colourful invertebrates on the wing really impressed the group.

Hopefully, the meadow will exist for the foreseeable future. The uses of Pembrey Country Park will likely have to change but one would hope that any ‘development’ could sit alongside the meadow, which will remain to embrace and enhance the biodiversity alongside its adjoining coppice and three dune slacks which we hope to reclaim in the near future.

Adfer gweirgloddiau … a rheoli traethlinau

David Hughes, Parc Gwledig Pen-bre

Er bod darnau helaeth o Barc Gwledig Pen-bre yn laswelltir sy’n cael ei dorri a’i fwydo’n rheolaidd, roedd darn mawr o laswelltir drewllyd wedi’i esgeuluso ger y ganolfan sgïo nad oedd ond yn cael ei ddefnyddio ychydig o weithiau’r flwyddyn gan grŵp o farchogion ceffylau traws gwlad. Roedd rhosyn Sherard wedi boddi darnau helaeth ac roedd helyg y môr yn ymledu i bob cyfeiriad.

Roedd y posibilrwydd o drawsnewid y llecyn hwn yn gynefin llawn blodau fyddai’n cynnal bywyd gwyllt o bob math yn edrych yn ddewis deniadol. Roedd arolygon blaenorol ar loÿnnod byw yn y Parc ar ddechrau’r 1980au wedi dangos mai hwn oedd y llecyn mwyaf amrywiol o ran bywyd gwyllt – roedd hynny gobeithio’n arwydd o obaith i’r dyfodol!

Er bod y cyllid yn gyfyngedig, gwnaed toriad hwyr iawn yn 2008, ac fe gynhyrchwyd 32 o fyrnau crwn mawr. Ni ellid gwneud unrhyw ddefnydd amaethyddol o werth o’r byrnau hyn oherwydd eu bod yn cynnwys cymaint o rosod Sherard. Fodd bynnag, roeddwn yn credu y gallem wneud defnydd da o’r byrnau ar ein trothwy ein hunain – y parth traethlin / twyni embryo.

Gan ddewis diwrnod oedd bron ar frig rhediad o lanwau’n codi, cludwyd y byrnau i’r blaendraeth gan ddefnyddio tractor a threilyr y parc. Ar ôl dadrolio’r byrnau crwn mawr gwnaeth amser a’r llanw eu gwaith. Penllanw’r cyfan oedd strimyn trwchus o ddeunydd organig wedi’i wasgaru’n dda ar hyd llinell y llanw mawr.

Wrth wylio’r llinell lanw dros yr ychydig ddyddiau nesaf, roedd yn rhyfeddol gweld effaith fagnetig y gwair ar adar y cylch. Gellid gweld rhywogaethau pilaon a thitwod yn chwilio’r malurion a olchwyd gan y tonnau, ynghyd â chwtiaid torchog, hutanod y môr, sigl-i-gwt a llinosiaid.

A hwythau’n ffynnu ymhlith deunydd organig llaith a phydredig, mae’n naturiol mai anifeiliaid di-asgwrn-cefn yw prif borthiant yr adar y byddem yn disgwyl eu gweld ar hyd y traethlin. Y gobaith yw ein bod wedi elwa’r anifeiliaid di-asgwrn-cefn sydd i’w gweld yn y cynefin hwn, fel gwahanol gorynnod, chwilod y llawr, heb anghofio’r chwannen draeth doreithiog.

Math arall o fywyd gwyllt yr ardal allai elwa yw planhigion y system twyni embryo. A hwythau’n bennaf yn rhywogaethau arbenigol blynyddol, mae’r malurion yn helpu gwarchod y bryncyn hadau rhag anweddu gormodol ac eithafion tymheredd nes iddynt egino.

Yn ôl i’r weirglodd! Ar ôl ogedu’r ardal yn drylwyr, dyma aros i natur wneud ei waith. Gwelsom y gwanwyn canlynol beth oedd wedi egino’n naturiol yn y pridd ac roedd popeth yn edrych yn addawol iawn. Yna cawsom ergyd fawr! Roedd rheolwr safle gwersylla gŵyl gerddoriaeth gyntaf Beach Break Live i fyfyrwyr yn credu fod y weirglodd yn rhan o safle gwersylla’r myfyrwyr! Canlyniad hyn oedd bod y safle wedi cael ei wasgu a’i sathru ar adeg fwyaf sensitif y flwyddyn a’i fod hefyd wedi cael ei gorchuddio gan gasgliad enfawr o bebyll. Yn ffodus, ni ddigwyddodd hynny wedyn, a’r unig beth sy’n tarfu ar y safle erbyn hyn yw ceffylau cystadlu sy’n tramwyo’r ardal ychydig weithiau bob blwyddyn. Mae’r ardaloedd hyn yn rhan o agwedd “ddeinamig” gwaith cadwraeth ar weirgloddiau. Caiff ‘llinellau dyheu’ eu creu gan gerddwyr, ond nid yw hyn yn creu problem, ac mae’n dda gweld pobl yn defnyddio’r ardal i’r perwyl hwnnw a’u bod gobeithio’n mwynhau gweld y weirglodd yn adfer ei hun.

Er nad oes unrhyw arian ar gyfer y prosiect adfer, mae’r parc yn ffodus i allu defnyddio uned bŵer Trackmaster yr awdurdod a’i dorrwr pladur a’r atodyn rhaca gwair. Gan fod rhosyn Sherard yn dal i dyfu yno, er ar raddfa lawer llai, rydym yn casglu’r gwair a
dorrwyd gyda rhaca’r tractor ac yn ei daenu ar y blaendraeth.

Dangosodd arolwg o’r weirglodd/llecyn blodau gwyllt hwn fod 71 o rywogaethau o flodau yn tyfu yno. Nid yw pori yn ddewis yn yr ardal hon, ac felly caiff llystyfiant ei glirio’n gyflym trwy ei dorri, ac nid yn araf gan dda byw. Gallai hynny olygu effaith ar boblogaeth yr anifeiliaid di-asgwrn-cefn, ond oherwydd ein trefniadau torri hwyr iawn, efallai nad yw’r effaith mor ddifrifol. Ar daith gerdded a arweiniais yno’r llynedd (ar un o’r ychydig nosweithiau haf braf a gawsom!), gwnaeth y nifer fawr o anifeiliaid di-asgwrn-cefn lliwgar oedd i’w gweld yn hedfan argraff fawr ar y grŵp.

Ein gobaith yw y bydd y weirglodd yn parhau i’r dyfodol rhagweladwy. Mae’n debyg y bydd y defnydd a wneir o Barc Gwledig Penbre yn gorfod newid, ond gobeithiwn y gallai unrhyw ‘ddatblygiad’ gydfyw â’r weirglodd, a fydd yn parhau i gynnal a chyfoethogi’r fioamrywiaeth ochr yn ochr â’i choedlan gyfagos a thri thwyn yr ydym yn gobeithio eu hadfer cyn bo hir.

Source, Carmarthenshire Biodiversity Partnership Newsletter Jan/March 2013, click here to visit their website.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle