Wales Farm Safety Partnership and Farming Connect Challenging and changing the attitudes of farmers in Wales/ Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru a Cyswllt Ffermio yn herio a newid agweddau ffermwyr Cymru

0
851
The cover of the new booklet shows a powerful image of Abergavenny farmer Robin Foord, who ten years ago lost his leg in a horrendous combine harvester accident and who is lending his support to the new campaign.

The shocking headline ‘You are looking at the person responsible for your own health and safety’ next to a mirror which reflects your own image…  a new farm safety ‘top tips’ booklet that contains a powerful image of an Abergavenny farmer who lost his leg in a combine harvester accident… and a team of trained farm safety mentors who will visit your farm and enable you to make your farm a safer place to work. 

These are some of the hard-hitting tactics and tools which the Wales Farm Safety Partnership, a collaboration of all the key agricultural stakeholders in Wales, hope will challenge attitudes to farm safety and drive behaviour change. The new awareness campaign, supported by Farming Connect, will begin during this year’s ‘Farm Safety Week’ (16- 20 July) when the Farm Safety Foundation will lead key organisations in the industry across the UK and Ireland to rethink their attitude to safety and remind the farmer that farming safely is your health, your safety, your choice!

 

The recent Health &Safety Executive Workplace Fatal Injuries in GB report 2017/2018 notes 33 fatalities, of which 29 were farm worker fatalities. Their statistics show a farm worker is now six times more likely to be killed on a farm than a building site.  But unlike the UK construction industry, which has significantly reduced workforce casualty rates by making building sites safer places to work, farming has yet to catch up.

 

WFSP members are participating in the Farm Safety Week campaign and are determined to drive home the message that if you don’t take responsibility for your own farm safety, you could be risking your own life and the lives and wellbeing of others.  And as chair of the WFSP, mid Wales farmer and H&S expert Brian Rees emphasises, it’s not just the victims who suffer, it’s their distraught families whose lives change irrevocably too.

 

““There are an average 32 deaths a year on British farms.  A tragic 32 lives are over too soon, and 32 families are living with the consequences every day.   Hundreds more individuals have life-changing injuries year on year.

“This new campaign will help persuade farmers to face up to their responsibilities, to consider not just their own safety, but that of their families and workers too.

“We must encourage all farmers to Stop, Think, Stay Safe and to take steps which will ensure their farms are safe places to work,” says Mr. Rees.

Helping farmers put this advice into practice, will be Farming Connect’s team of newly appointed Health & Safety Mentors. Part of Farming Connect’s popular mentoring programme, they will provide up to 22.5 hours of fully-funded, confidential, on-farm guidance to help farmers identify risks and eliminate hazards.  Eligible farmers will be able to browse the profiles of the new mentors on Farming Connect’s online mentor directory (www.gov.wales/farmingconnect) with a filter enabling them to identify those with specialist H&S expertise.

The campaign will also be promoted by all WFSP partners attending this year’s Royal Welsh Show.  In the Welsh Government  pavilion, a hard-hitting message and mirror display will ask farmers to ‘look yourself in the face’ and be honest about whether they’re actually doing all they should to preserve life and limb.

Visitors will also be encouraged to pick up a free copy of WFSP’s ‘Top tips to make your farm a safer place to work’.  Published by Farming Connect, the cover of this handy pocket-sized booklet shows a powerful image of Abergavenny farmer Robin Foord, who ten years ago lost his leg in a horrendous combine harvester accident and who is lending his support to the new campaign.

“It’s essential to do all we can to raise awareness of the devastating consequences of what can happen if you don’t adopt safe on-farm practices.

“I wasn’t complacent, I did practise the Safe Stop procedure set out in WFSP’s new booklet, twice, in trying to clear a blockage on an unfamiliar machine.
Unfortunately I then took a calculated risk, left the combine running and consequently got my leg trapped, resulting in a through hip amputation.”

“For me, saving a few minutes by not switching off the combine to carry out a standard procedure on an unfamiliar machine changed not only my life but that of my wife and family irrevocably,” said Mr.Foord.

“Life cannot be the same after a major life-changing accident, so I urge you to put your family first, leave the WFSP booklet on your kitchen table and seek free advice from one of Farming Connect’s mentors to make sure you are running a safe farm business.”

Herio a newid agweddau ffermwyr Cymru – ymgyrch newydd i leihau’r risg o ddamweiniau ar y fferm all ddod a bywyd i ben neu newid bywyd

Y pennawd brawychus ‘Rydych yn edrych ar y person sy’n gyfrifol am eich iechyd a diogelwch chi’ wrth ochr drych sy’n eich dangos chi eich hun… llyfryn ‘arferion da’ diogelwch fferm sy’n cynnwys delwedd rymus o ffermwr o’r Fenni a gollodd ei goes mewn damwain gyda chombein… a thĂŽm o fentoriaid diogelwch fferm hyfforddedig fydd yn ymweld â’ch fferm i’ch galluogi i wneud eich fferm yn lle mwy diogel i weithio. 

Dyma rai o’r tactegau grymus a’r offer y mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, corff ar y cyd sy’n cynnwys yr holl randdeiliaid amaethyddol allweddol yng Nghymru, yn gobeithio y byddant yn herio agweddau at ddiogelwch fferm ac yn ysgogi newid mewn ymddygiad. Bydd yr ymgyrch ymwybyddiaeth newydd, a gefnogir gan Cyswllt Ffermio, yn cychwyn yn ystod ‘Wythnos Diogelwch Fferm’ eleni (16-20 Gorffennaf) pan fydd y Sefydliad Diogelwch Fferm yn arwain sefydliadau allweddol yn y diwydiant ar draws y Deyrnas Unedig ac Iwerddon i ail feddwl am eu hagwedd at ddiogelwch ac yn atgoffa’r ffermwr bod ffermio yn ddiogel yn gyfystyr a’ch iechyd, eich diogelwch, a’ch dewis chi!

 

Yn adroddiad 2017/2018 y Pwyllgor Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar Anafiadau Angheuol ym Mhrydain, nodir bod 33 o farwolaethau, ac o’r rhain roedd 29 yn weithwyr fferm. Dengys eu hystadegau bod gweithiwr fferm erbyn hyn chwe gwaith yn fwy tebygol o gael ei ladd ar fferm nag ar safle adeiladu. Ond yn wahanol i ddiwydiant adeiladu’r Deyrnas Unedig, sydd wedi lleihau’r cyfraddau anafiadau yn y gweithlu yn sylweddol, trwy wneud safleoedd adeiladu yn llefydd mwy diogel i weithio, nid yw ffermio wedi mynd ati i’r un graddau.

 

Mae aelodau Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn cymryd rhan yn yr ymgyrch Wythnos Diogelwch Fferm ac maent yn benderfynol o gyfleu’r neges, os na fyddwch chi’n cymryd cyfrifoldeb am eich diogelwch eich hun ar y fferm, y gallech fod mewn perygl o beryglu eich bywyd eich hun a bywydau a lles pobl eraill.  Fel cadeirydd y Bartneriaeth, mae’r ffermwr o ganolbarth Cymru a’r arbenigwr iechyd a diogelwch, Brian Rees, yn pwysleisio, nad y dioddefwyr yn unig sy’n dioddef, ond mae bywydau eu teuluoedd hefyd yn newid am byth.

 

“Mae cyfartaledd o 32 o farwolaethau’r flwyddyn ar ffermydd Prydain.  Mae 32 o fywydau, yn drasig, yn dod i ben yn rhy fuan, ac mae 32 o deuluoedd yn byw hefo’r canlyniadau bob dydd.  Mae cannoedd yn fwy o unigolion yn dioddef anafiadau sy’n newid eu bywyd o flwyddyn i flwyddyn.

 

 

“Bydd yr ymgyrch newydd yma yn helpu i ddarbwyllo ffermwyr y dylent wynebu eu cyfrifoldebau, ystyried, nid eu diogelwch eu hunain yn unig, ond diogelwch eu teuluoedd a’u gweithwyr hefyd.

“Rhaid i ni annog y ffermwyr i gyd i Stopio, Meddwl, Cadw’n Ddiogel ac i gymryd camau a fydd yn sicrhau bod eu ffermydd yn lleoedd diogel i weithio,” dywedodd Mr Rees.

Bydd tîm newydd Cyswllt Ffermio o Fentoriaid Iechyd a Diogelwch yn helpu’r ffermwyr i roi’r cyngor hwn ar waith. Yn rhan o raglen fentora boblogaidd Cyswllt Ffermio, byddant yn darparu hyd at 22.5 awr o gyfarwyddyd cyfrinachol ar y fferm sydd wedi ei ariannu’n llawn, l er mwyn helpu ffermwyr i ddynodi risgiau a dileu peryglon.  Bydd ffermwyr cymwys yn gallu pori trwy broffiliau’r mentoriaid newydd ar gyfarwyddiadur mentoriaid ar-lein Cyswllt Ffermio (www.gov.wales/cyswlltffermio <http://www.gov.wales/cyswlltffermio>) y gellid ei hidlo er mwyn dangos y rhai sydd ag arbenigedd Iechyd a Diogelwch.

 

Bydd yr ymgyrch hefyd yn cael ei hyrwyddo gan holl bartneriaid y Bartneriaeth fydd yn mynychu’r Sioe Frenhinol.  Ym mhafiliwn Llywodraeth Cymru, bydd neges ddidostur ac arddangosfa drych yn gofyn i ffermwyr ‘edrych wyneb yn wyneb â chi eich hun’ a bod yn onest ynglŷn ag a ydynt yn gwneud popeth a ddylent i ddiogelu bywyd ac atal anafiadau.

Bydd ymwelwyr hefyd yn cael eu hannog i nôl copi am ddim o ‘Arferion da i wneud eich fferm yn lle mwy diogel i weithio’ y Bartneriaeth.  Wedi ei gyhoeddi gan Cyswllt Ffermio, mae clawr y llyfryn cyfleus, maint poced hwn yn dangos delwedd rymus o Robin Foord, y ffermwr o’r Fenni a gollodd ei goes ddeng mlynedd yn ôl mewn damwain erchyll gyda chombein ac sy’n cefnogi’r ymgyrch newydd.

“Mae’n hanfodol gwneud popeth allwn ni i godi ymwybyddiaeth o ganlyniadau trychinebus yr hyn all ddigwydd os na fyddwch yn mabwysiadu arferion diogel ar y fferm.

 

“Doeddwniddimynhunanfodlon, fewnesiarfer y weithdrefn ‘StopioDiogel’ syddynllyfryn WFSP ddwywaith, wrthgeisiocliriorhwystrmewnpeiriantanghyfarwydd.

Ynanffodus, fewnesifentro’nofaluswedyn a gadael y combeinhebeiddiffodd ac o ganlyniadcafoddfynghoeseiddalynddo ac roeddynrhaideidorriiffwrddyn y glun.”

 

“I mi, fe wnaeth arbed ychydig funudau trwy beidio â diffodd y combein i wneud rhywbeth arferol ar beiriant anghyfarwydd newid fy mywyd i a bywyd fy ngwraig a’m plant hefyd am byth,” dywedodd Mr Foord.

“All bywyd ddim bod yr un fath ar ôl damwain fawr sy’n newid bywyd, felly rwyf yn eich annog i roi eich teulu yn gyntaf, gadael llyfryn y Bartneriaeth ar y bwrdd yn y gegin a gofyn am gyngor am ddim gan un o fentoriaid Cyswllt Ffermio i wneud yn siŵr eich bod yn rhedeg busnes fferm ddiogel.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle