Llanelli Coast Junior Park Run celebrate birthday / Park Run Iau Arfordir Llanelli yn dathlu pen-blwydd

0
771

Llanelli Coast Junior Park Run celebrate birthday

 

AFTER a hugely successful 12 months, a Llanelli running event is about to celebrate its first birthday.

Set up on August 5 last year, the Llanelli Coast Junior parkrun now caters for about 50 children a week, ranging from four-year-olds to teenagers.

Meeting at Pwll Pavilion every Sunday at 9am come rain or shine, the group is funded by RunWales through Sport Wales, with support from Carmarthenshire Council.

The weekly run is headed-up by event director Gill Handscomb and a team of volunteers.

Gill said: “The Llanelli Coast Junior parkrun has gone from strength to strength in the last 12 months, so everyone involved deserves enormous praise as we head towards our first birthday.

“Groups of this nature and the volunteers who selflessly give their time are the lifeblood of our communities, with 376 different young people having taken part and an average of 15 volunteers have helped out each week since August last year.

“The Llanelli Coast Junior Park Run encourages children to take part in fun, weekly exercise in a scenic location, surrounded by welcoming people with the chance to socialise and make new friends.

“We hope to benefit hundreds more children in coming years, with other volunteers also very welcome to join us at our weekly event.”

Head to www.parkrun.org.uk  for more information or to register your children.

Once you’ve registered, also be sure to print out the barcode available on the website to make sure your children are ready to run.

Park Run Iau Arfordir Llanelli yn dathlu pen-blwydd

 

AR ôl 12 mis hynod lwyddiannus, mae digwyddiad rhedeg yn Llanelli ar fin dathlu ei ben-blwydd cyntaf.

Sefydlwyd Park Run Iau Arfordir Llanelli ar Awst 5 y llynedd, a bellach mae tua 50 o blant yr wythnos yn mynd yno, gan amrywio mewn oedran o bedair oed i bobl ifanc yn eu harddegau.

Gan gyfarfod ym Mhafiliwn y Pwll bob dydd Sul am 9am boed law neu hindda, mae’r grŵp yn cael ei ariannu gan RhedegCymru, gyda chymorth Cyngor Sir Caerfyrddin.

Mae’r digwyddiad wythnosol hwn yn cael ei drefnu gan gyfarwyddwr y digwyddiad, Gill Handscomb, a thîm o wirfoddolwyr.

Dywedodd Gill: “Mae Park Run Iau Arfordir Llanelli wedi mynd o nerth i nerth yn ystod y 12 mis diwethaf, felly mae pawb yn haeddu canmoliaeth enfawr wrth i ni nesáu at ein pen-blwydd cyntaf.

“Grwpiau a gwirfoddolwyr fel hyn yw asgwrn cefn ein cymunedau; mae 376 o bobl ifanc wedi cymryd rhan ac ar gyfartaledd mae 15 o wirfoddolwyr wedi helpu bob wythnos ers mis Awst y llynedd.

“Mae Park Run Iau Arfordir Llanelli yn annog plant i ymarfer corff yn wythnosol, a chael hwyl wrth wneud hynny mewn lleoliad hyfryd, yng nghwmni pobl groesawgar lle mae cyfle i gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd.

“Rydym yn gobeithio y bydd cannoedd o blant eraill yn cael budd yn sgil y digwyddiad hwn dros y blynyddoedd i ddod, ac mae croeso i ragor o wirfoddolwyr ymuno â ni yn ein digwyddiad wythnosol.”

Ewch i www.parkrun.org.uk  er mwyn cael mwy o wybodaeth neu i gofrestru eich plant.

Pan fyddwch wedi cofrestru, sicrhewch eich bod hefyd yn printio’r côd bar sydd ar gael ar y wefan i wneud yn siŵr bod eich plant yn barod i redeg.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle