Views sought on three consultations/ Ceisio barn am dri ymgynghoriad  

0
395

Views sought on three consultations

 

Local residentsand groupsare being asked to give their views on three consultations.

 

The consultation reports include Neath Port Talbot Council’s draft homelessness strategy for 2018 to 2022, its draft plan for adult social care for 2019 to 2022 and its draft plan for children and young people services for 2019 to 2022. Each report will undertake a set consultation period where local residents and other interested parties will be able to have their say.

 

The draft homelessness strategy sets out the Council’s proposals for preventing homelessness wherever possible and effectively supporting people when it occurs.

 

The draft plan for adult social care outlines the importance of people remaining independent in their own communities for as long as possible, placing greater emphasis on people’s strengths and ensuring early intervention is in place to prevent needs from escalating.

 

The draft plan for children and young people focuses on ensuring children are safe and living in families where they can achieve their full potential while having their health, well being and life chances improved.

 

All of the consultations reflect the increasing demand for Council services and pressures to make budget savings. The reports also reflect how the Council plans to utilise resources that are already available in the community to meet people’s needs.

 

Councillor Anthony Taylor, Deputy Leader of Neath Port Talbot Council, said:

 

“The reports outline how the Council plans to deliver on each priority area up to 2022.

 

“We are keen to receive feedback from residents and other local groups and organisations on what people think of the proposals, how the proposals might affect people if they go ahead and any suggestions for alternative ways of doing things.It is important for the Council to be fully informed before making any final decisions.”

 

Comments on each consultation can be made online through the Council’s website,www.npt.gov.uk/haveyoursay. Printed copies of the consultation and feedback forms can be found at Neath Civic Centre and Port Talbot Civic Centre. Feedback can also be emailed directly to CCU@npt.gov.uk.

 

Ceisio barn am dri ymgynghoriad

 

Gofynnir i breswylwyr a grwpiau lleol roi eu barn am dri ymgynghoriad gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

 

Mae’r adroddiadau ymgynghori’n cynnwys Strategaeth Digartrefedd ddrafft y cyngor ar gyfer 2018-2022, ei gynllun drafft ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion ar gyfer 2019-2022 a’i gynllun drafft ar gyfer y Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc ar gyfer 2019-2022. Bydd pob adroddiad yn ymgymryd â chyfnod ymgynghori penodol lle gall aelodau’r cyhoedd a phartïon eraill â diddordeb ddweud eu dweud.

 

Mae’r Strategaeth Digartrefedd ddrafft yn nodi cynigion y cyngor ar gyfer atal digartrefedd lle bynnag y bo modd a chefnogi pobl yn effeithiol pan fydd yn digwydd.

 

Mae’r cynllun drafft ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn amlinellu pwysigrwydd annog pobl i barhau i fod yn annibynnol yn eu cymunedau eu hunain am gyhyd â phosib, gan roi mwy o bwyslais ar gryfderau pobl a sicrhau y defnyddir ymyriadau cynnar er mwyn atal anghenion rhag gwaethygu.

 

Mae’r cynllun drafft ar gyfer plant a phobl ifanc yn canolbwyntio ar sicrhau bod plant yn ddiogel ac yn byw gyda theuluoedd lle gallant gyflawni eu potensial llawn wrth wella eu hiechyd, eu lles a’u cyfleoedd mewn bywyd.

 

Mae pob ymgynghoriad yn adlewyrchu’r galw cynyddol am wasanaethau a reolir gan y cyngor a’r pwysau i wneud arbedion cyllidebol. Mae’r adroddiadau hefyd yn adlewyrchu sut mae’r cyngor yn bwriadu defnyddio adnoddau sydd eisoes ar gael yn y gymuned er mwyn diwallu anghenion pobl.

 

Meddai’r Cynghorydd Anthony Taylor, Dirprwy Arweinydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot,

 

“Mae pob adroddiad yn adlewyrchu sut mae’r cyngor yn bwriadu cyflwyno ei feysydd blaenoriaeth allweddol tan 2022.

 

“Rydym yn awyddus i dderbyn adborth gan breswylwyr a grwpiau a sefydliadau lleol eraill am yr hyn y mae pobl yn ei feddwl am y cynigion, sut y gallai’r cynigion effeithio ar bobl os cânt eu cymeradwyo ac unrhyw awgrymiadau ar gyfer ffyrdd eraill o wneud pethau.Mae’n bwysig bod y cyngor yn cael yr holl wybodaeth cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol.”

 

Gellir gwneud sylwadau ar bob ymgynghoriad ar-lein drwy wefan y cyngor, www.npt.gov.uk/haveyoursay. Gellir dod o hyd i gopïau papur o’r ymgynghoriadau a ffurflen adborth yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd a Chanolfan Ddinesig Port Talbot. Gellir hefyd e-bostio adborth yn uniongyrchol i CCU@npt.gov.uk.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle