Plans for new car parking arrangements at Glangwili and Prince Philip Hospitals / Cynlluniau ar gyfer trefniadau parcio newydd yn ysbytai Glangwili a’r Tywysog Philip

0
550

Plans for new car parking arrangements at Glangwili and Prince Philip Hospitals

Car parking charges for patients at Glangwili and Prince Philip hospitals are coming to an end on 31 August and the Health Board wishes to work with both staff and patients to continue to manage safe and smooth access to the hospitals. As a guiding principle parking will be prioritised for those patients, staff and visitors with the greatest of need.

From 1 September 2018 the Health Board will be putting in place a staged car park management system, based on validation of tickets to ensure car parking facilities are not abused by those who do not have a genuine reason to park at the hospitals. To ensure this, we will be engaging with our staff on how best to oversee the allocation of spaces and how we can utilise Automatic Number Plate Recognition (ANPR) technology to include the potential for maximum stays on site.

The Health Board needs to strike a balance between ensuring effective access for patients, whilst at the same time giving sufficient space to staff to enable the smooth running of hospital services. Over the next few weeks ANPR cameras will be installed at both sites and will initially be used for monitoring and data collection purposes until a process can be agreed. The health board will retain parking attendants to manage capacity and demand during the immediate period.

Joe Teape, Director of Operations and Deputy Chief Executive at Hywel Dda University Health Board, said: “Parking has long been an issue at our hospital sites and I’d firstly like to acknowledge the frustrations that this has caused our staff, patients and visitors. We will soon be coming to the end of our existing arrangements and we want to take this opportunity to put a new and improved system in place to make it easier for people to park.

“We’re engaging with staff and the public to ensure a fairer deal for everyone, by protecting designated patient and visitor car parks and improving access for emergency vehicles. We will continue to work with the Staff Partnership Forum in relation to any potential alterations to staff parking, and further updates will be communicated soon.”

Cynlluniau ar gyfer trefniadau parcio newydd yn ysbytai Glangwili a’r Tywysog Philip

Bydd y ffioedd parcio ar gyfer cleifion yn ysbytai Glangwili a Thywysog Philip yn dod i ben ar 31 Awst, ac mae’r Bwrdd Iechyd yn dymuno gweithio gyda’r staff a’r cleifion er mwyn parhau i reoli mynediad diogel a didrafferth i’r ysbytai. Fel egwyddor arweiniol, bydd parcio yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer y cleifion, y staff a’r ymwelwyr hynny y mae arnynt yr angen mwyaf.

O 1 Medi 2018 ymlaen, bydd y Bwrdd Iechyd yn cyflwyno system rheoli meysydd parcio, bob yn dipyn, yn seiliedig ar ddilysu tocynnau, er mwyn sicrhau nad yw’r cyfleusterau parcio yn cael eu camddefnyddio gan unigolion nad oes ganddynt reswm dilys dros barcio ar dir yr ysbytai. Er mwyn sicrhau hyn, byddwn yn ymgysylltu â’n staff ynghylch y ffordd orau o oruchwylio’r gwaith o ddynodi lleoedd, ynghyd â’r modd y gallwn ddefnyddio technoleg Adnabod Rhifau Cerbydau yn Awtomatig (ANPR) i gynnwys y potensial ar gyfer cyfyngu arosiadau ar y safle i gyfnod penodol.

Mae angen i’r Bwrdd Iechyd daro cydbwysedd rhwng sicrhau bod cleifion yn cael mynediad effeithiol, ac, ar yr un pryd, sicrhau bod digon o le ar gael ar gyfer y staff er mwyn galluogi i’r ysbyty gael ei redeg yn ddidrafferth. Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, byd camerâu ANPR yn cael eu gosod ar y ddau safle ac yn cael eu defnyddio, i gychwyn, i ddibenion monitro a chasglu data hyd nes y gellir cytuno ar broses. Bydd y Bwrdd Iechyd yn cadw gofalwyr y meysydd parcio i reoli capasiti a galw yn ystod y cyfnod cynnar.

Dywedodd Joe Teape, Cyfarwyddwr Gweithrediadau a Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae parcio wedi bod yn broblem ers amser maith ar safleoedd ein hysbytai, a hoffwn yn gyntaf gydnabod y rhwystredigaeth y mae hyn wedi ei hachosi i’n staff, ein cleifion a’n hymwelwyr. Bydd ein trefniadau presennol yn dod i ben cyn hir, a hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i roi system newydd, well ar waith er mwyn i bobl allu parcio’n haws.

“Rydym yn ymgysylltu â’r staff a’r cyhoedd er mwyn sicrhau gwell dêl i bawb, a hynny trwy warchod meysydd parcio dynodedig ar gyfer cleifion ac ymwelwyr, a gwella mynediad ar gyfer cerbydau argyfwng. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r Fforwm Partneriaeth Staff mewn perthynas ag unrhyw newidiadau arfaethedig i’r drefn barcio ar gyfer y staff, a byddwn yn rhoi gwybod am unrhyw ddiweddariadau yn fuan.”

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle