Orchids on show – Tegeirianau tlws

0
706

Outstanding orchids

Need help with your orchids? Then the National Botanic Garden of Wales is the place to be on Saturday and Sunday, September 1-2.

At the Carmarthenshire attraction’s 11th annual Orchid Festival, there are talks and tips for everyone, from beginners to experts; teenage orchid grower Archie Smith will give a talk entitled: ‘Confessions of a teenage orchid addict’; there’s a demonstration of repotting and mounting; and how to grow orchids at home from seed.

Rare and unusual specimens take centre stage in the Garden marquee with a stunning display of blooms by growers from all over the UK, along with award-winning botanical art, carnivorous plants and orchids for sale from popular nurseries and traders.

Through an information stand and a handy orchid information leaflet, you’ll have the opportunity to find out more on our orchids and how we care for them here at the National Botanic Garden.  If you’re inspired following your visit to our Orchid Festival, there’ll be a Growing the Future ‘Orchids at Home’ course at the Garden on Wednesday, September 5th, where you’ll learn how to successfully grow orchids as houseplants.

There’ll also be fab ‘Vegetable Olympics’ family activities to help mark the end of the school summer holidays in style, with activities including rhubarb javelin, putting the swede, potato throwing and welly wanging!

For more information about the event, including a timetable of two days of talks and demonstrations, head to the Garden’s website, call 01558 667149 or email info@gardenofwales.org.uk

The Garden is open from 10am to 6pm with last entry at 5pm. Admission to the Garden is £14.50 (including Gift Aid) for adults and this includes entry to the new British Birds of Prey attraction. Under 5s are free and parking is free for all.

Tegeirianau tlws

Angen cymorth gyda’ch tegeirianau? Os felly, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw’r lle i fod ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, Medi 1-2.

Yn yr Ŵyl Tegeirian flynyddol, sy’n dathlu pen-blwydd yn 11eg oed eleni yn Sir Gaerfyrddin, mae yna sgyrsiau ac awgrymiadau i bawb, o ddechreuwyr i arbenigwyr; bydd y tyfwr tegeirian, Archie Smith sydd yn ei arddegau, yn rhoi sgwrs o’r enw ‘Confessions of a teenage orchid addict’; mae yna arddangosiad o ailosod a mowntio; a sut i dyfu tegeirianau gartref o hedyn.

Mae sbesimenau prin ac anarferol yn cymryd rhan flaenllaw ym mhabell fawr yr Ardd gydag arddangosfa blodau gwych gan dyfwyr o bob cwr o’r DU, ynghyd â chelf fotanegol arobryn, planhigion cigysol a thegeirianau a werthir gan feithrinfeydd a masnachwyr poblogaidd.

Trwy stondin wybodaeth a thaflen wybodaeth tegeirianau defnyddiol, cewch gyfle i ddarganfod mwy am ein tegeirianau a sut yr ydym yn gofalu amdanynt yma yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol. Os ydych chi’n cael eich ysbrydoli yn dilyn eich ymweliad â’n Gŵyl Tegeirian, bydd cwrs Tyfu Tegeirianau ‘Tyfu’r Dyfodol’ yn yr Ardd ddydd Mercher, Medi 5ed, lle byddwch chi’n dysgu sut i dyfu tegeirianau’n llwyddiannus fel planhigion cartref.

Bydd yna weithgareddau i’r teulu ‘Gemau Olympaidd Llysiau’ hefyd i helpu i nodi diwedd gwyliau haf yr ysgol mewn steil, gyda gweithgareddau gan gynnwys gwaywffon riwbob, pytio’r swedsen, taflu tatws a wango’r welingtyn!

Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, gan gynnwys amserlen o ddau ddiwrnod o sgyrsiau ac arddangosiadau, ewch i wefan yr Ardd, ffoniwch 01558 667149 neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk

Mae’r Ardd ar agor rhwng 10yb a 6yh gyda’r mynediad olaf am 5yh. Mae mynediad i’r Ardd yn £14.50 (gan gynnwys Cymorth Rhodd) i oedolion ac mae hyn yn cynnwys mynediad i’r atyniad newydd Adar Ysglyfaethus Prydeinig. Mae plant dan 5 oed yn rhad ac am ddim ac mae parcio am ddim i bawb.

Mae’r digwyddiad hwn fel rhan o brosiect Tyfu’r Dyfodol Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.  Nod Tyfu’r Dyfodol yw hyrwyddo garddwriaeth Cymru, planhigion ar gyfer pryfed peillio, amddiffyn bywyd gwyllt a garddio ar gyfer bwyd, hwyl, iechyd a lles.  Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle