RHIENI’N CAEL EU HANNOG I SIARAD Â PHOBL IFAINC YN EU HARDDEGAU AM DDIOGELWCH AR-LEIN
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn annog rhieni i siarad â phlant a phobl ifainc yn eu harddegau am aros yn ddiogel ar-lein cyn iddynt fynd nôl i’r ysgol.
Cyn i’r gwyliau haf ddod i ben, mae’r heddlu’n annog oedolion i sgwrsio am beryglon ‘gor-rannu’ – rhannu gormod o wybodaeth am eu hunain, neu luniau o’u hunain – a beth i’w wneud os oes rhywun yn gofyn am ffotograffau cignoeth, neu’n anfon lluniau o’r fath.
Esboniodd y Ditectif Uwch-arolygydd Huw Davies:
“Mae pobl ifainc yn eu harddegau’n rhannu ffotograffau preifat heb ddeall y gallant gael eu defnyddio yn eu herbyn, neu eu rhannu ag eraill.
“Yn anffodus, rydyn ni wedi gweld achosion lle mae rhywun ifanc wedi cael ei frifo oherwydd nid oeddent yn gwybod ble i droi am help.”
“Rydyn ni yma i helpu, a byddwn ni’n trin pob dioddefydd â gwyleidd-dra, sensitifrwydd a chyfrinachedd.”
Mae gwersi am ddiogelwch ar-lein yn cael eu cyflwyno gan Swyddogion Heddlu Cymunedol Ysgolion ar draws ardal Dyfed-Powys fel rhan o’r rhaglen SchoolBeat genedlaethol. Nod yr heddlu yw sicrhau bod gan bobl ifainc ddigon o oedolion maen nhw’n medru ymddiried ynddynt i drafod eu pryderon â nhw.
Aeth y Ditectif Uwch-arolygydd Davies ymlaen i ddweud:
“Mae troseddwyr yn targedu eu dioddefwyr ac yn gwneud ffrindiau â nhw, ac unwaith mae ganddynt fideos neu ddelweddau cignoeth neu breifat, maen nhw’n ceisio llwgrwobrwyo’r dioddefwyr am arian neu ragor o luniau. Gelwir hyn yn ‘gribddeiliaeth rywiol’.
“Mae’r troseddwyr hyn yn dibynnu ar bobl yn teimlo’n ynysig. Rydyn ni’n gofyn i rieni, gofalwyr a gwarcheidwaid a phob oedolyn y mae pobl ifainc yn eu harddegau’n ymddiried ynddynt i sgwrsio â nhw fel eu bod nhw’n medru troi atoch chi os ydyn nhw’n poeni am unrhyw beth maen nhw’n gweld neu’n gwneud ar-lein.
“Dydyn ni ddim am i neb deimlo mai nhw yw’r unig un sydd wedi dioddef hyn – mae hynny’n bell o fod yn wir ac rydyn ni yma i helpu.
“Efallai ei fod yn anodd, ond ceisiwch ddod o hyd i ffordd o siarad â nhw am beryglon cyfryngau cymdeithasol.
“Anogwch nhw i stopio a meddwl os ydyn nhw’n derbyn cais gan rywun nad ydynt yn ei adnabod i fod yn ffrind – efallai nad yw’r person hwn yn dweud y gwir am bwy ydyw.”
Cyngor ar gyfer rhieni:
- Edrychwch ar safleoedd ac apiau gyda’ch plentyn a siaradwch am unrhyw bryderon.
- Gofynnwch iddynt os ydyn nhw’n gwybod sut i aros yn ddiogel ar-lein.
- Siaradwch am wybodaeth bersonol a beth i’w rannu ar-lein.
Cyngor ar gyfer pobl ifainc yn eu harddegau os ydynt yn dioddef cribddeiliaeth rywiol neu’n derbyn ffotograffau cignoeth:
- Peidiwch â phoeni.
- Tynnwch sgrinluniau o sgyrsiau.
- Dywedwch wrth oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddynt.
- Rhowch wybod am y mater i’r platfform cyfryngau cymdeithasol.
- Rhowch wybod i’r heddlu fel eu bod nhw’n medru ymchwilio i’r mater ac atal eraill rhag dioddef trosedd o’r fath.
Am ragor o ganllawiau ar gyfer rhieni ynghylch helpu pobl ifainc yn eu harddegau i aros yn ddiogel ar-lein, galwch heibio i: https://www.getsafeonline.org/safeguarding-children/13-or-over/.
Hefyd, medrwch alw heibio i wefan yr NSPCC: Or visit the NSPCC website: https://www.nspcc.org.uk/preventing-abuse/child-abuse-and-neglect/child-sexual-abuse/.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle