Vigilance call on illegal raves | Galw am fod yn wyliadwrus o rêfs anghyfreithlon

0
504

Vigilance call on illegal raves

 

CARMARTHENSHIRE County Council and Dyfed-Powys Police are asking farmers, local landowners and community councils to be on alert over the forthcoming Bank Holiday weekend for warning signs of any illegal raves planned for their land.

While there is no specific evidence of an event being planned for the County, social networking has made it easier for organisers to spread the word of events and rave attendance numbers can grow quickly.

Farmers, landowners and local communities are encouraged to report any suspicious activity immediately to the police, especially if there are unusual numbers of vehicles – especially camper vans, vans or trucks – seen in the locality.

Illegal trespassers may recce sites in advance of any rave, or people may approach landowners and ask around for land, in the guise of hiring it for acceptable activities such as gymkhanas or scout camps.

Raves can cause anxiety to the community they are held in and, if not dealt with swiftly, are difficult to stop due to the sheer numbers of people involved. There is also a safety concern involved in breaking-up such events.

Anyone with concerns should call Dyfed Powys Police by dialling 101.

Galw am fod yn wyliadwrus o rêfs anghyfreithlon

 

MAE Cyngor Sir Gaerfyrddin a Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i ffermwyr, tirfeddianwyr lleol a chynghorau cymuned fod yn ymwybodol dros y penwythnos Gŵyl Banc o arwyddion rhybudd am unrhyw rêfs anghyfreithlon sy’n cael eu cynllunio ar eu tir.

Er nad oes tystiolaeth benodol bod digwyddiad wedi’i gynllunio ar gyfer y Sir, mae rhwydweithio cymdeithasol wedi’i gwneud yn haws i drefnwyr ledaenu’r neges am ddigwyddiadau a gall y niferoedd sy’n mynd i rêf dyfu’n gyflym.

Caiff ffermwyr, tirfeddianwyr a chymunedau lleol eu hannog i roi gwybod i’r heddlu am unrhyw weithgarwch amheus ar unwaith, yn enwedig os gwelir niferoedd anarferol o gerbydau – yn enwedig faniau gwersylla, faniau neu dryciau – yn yr ardal.

Efallai y bydd tresmaswyr anghyfreithlon yn ymweld â safleoedd cyn rêf, neu efallai y bydd pobl yn holi tirfeddianwyr am dir, yn y gobaith o’i logi ar gyfer gweithgareddau derbyniol megis gymkhanas neu wersylloedd sgowtiaid.

Gall rêfs achosi pryder i’r cymunedau y cânt eu cynnal ynddynt ac, os nad ymdrinnir â nhw’n gyflym, gall fod yn anodd iawn eu stopio oherwydd y nifer o bobl dan sylw.  Mae dod â digwyddiadau o’r fath i ben hefyd yn achosi pryder diogelwch.

Dylai unrhyw un sydd â phryderon ffonio Heddlu Dyfed Powys ar: 101.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle