Local rider Scott Davies named in Tour of Britain line up
THEREâLL be a home crowd for more than one rider in this weekendâs Tour of Britain with the announcement that a Carmarthen cyclist will be amongst those taking part.
Spectators are already gearing up to give a warm Welsh welcome to Tour de France winner Geraint Thomas, whose family is from Bancyfelin, but they are also being asked to give an extra cheer to local boy Scott Davies, who has just been confirmed for the race.
Scott, a former pupil of Ysgol Bro Myrddin, will be riding with Team Dimension Data, and said he is looking forward to returning to his old training grounds.
âI’m especially looking forward to this year’s edition of the OVO Energy Tour of Britain, with Stage One starting in my home county of Carmarthenshire,â the 23-year-old said. âIt’s going to be pretty special to race on the same roads I’ve grown-up riding on.â
Scott is no stranger to road racing, having started out with the Carmarthen Towy Riders cycling club.
In 2014 he represented Wales at the Commonwealth Games in Glasgow, before being snapped up by Team Wiggins for the 2016 season.
He has since raced across France, Croatia and Austria, and won the National U23 Road Championships time trials in four consecutive years between 2014 and 2017.
Carmarthenshire hosts Stage One of the OVO Energy Tour of Britain on Sunday, September 2.
It will depart from Pembrey Country Park at 11am before travelling north through Kidwelly, Carmarthen, Nantgaredig, Llandeilo and Llandovery.
Thousands of people will line the route with several communities putting on events and giant land art sculptures for the helicopter cameras that are capturing the action live on ITV4.
Cllr Peter Hughes Griffiths, Carmarthenshire County Councilâs Executive Board Member for Culture, Sport and Tourism, said: âWe hope everyone will give Scott Davies and Geraint Thomas a fantastic welcome home to Carmarthenshire. The atmosphere is really building across the county for what promises to be a great day and a wonderful advertisement of Carmarthenshire as host of a major sporting event.â
- Team Dimension Data has linked up with SPAR stores to celebrate the Tour of Britain. Carmarthenshireâs Scott Davies will be making an appearance at the Johnstown store, Llansteffan Road, Carmarthen, at 10am on Saturday September 1.Find everything you need to know about the Tour of Britain in Carmarthenshire at newsroom.carmarthenshire.gov.wales
Scott Davies, y beiciwr lleol, yn cymryd rhan yn Nhaith Prydain
BYDD torfeydd o bobl leol yn cefnogi mwy nag un o’r beicwyr yn ystod Taith Prydain dros y penwythnos, gan y bydd beiciwr o Gaerfyrddin ymhlith y rheiny sy’n cymryd rhan.
Mae’r gwylwyr eisoes yn paratoi i roi croeso cynnes Cymreig i Geraint Thomas, enillydd Tour de France, sydd â chysylltiadau teuluol ym Mancyfelin. Fodd bynnag, gofynnir i’r gwylwyr gefnogi Scott Davies, bachgen lleol, a fydd yn cymryd rhan yn y ras hefyd.
Bydd Scott, sy’n gyn-ddisgybl Ysgol Bro Myrddin, yn beicio gyda Team Dimension Data, a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at ddychwelyd i’w hen safle hyfforddi.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at Daith Prydain OVO Energy eleni yn arbennig, gan y bydd Cymal Un yn dechrau yn fy sir enedigol, sef Sir Gaerfyrddin,” dywedodd y beiciwr 23 oed. “Mae’n mynd i fod yn ras arbennig iawn ar yr un ffyrdd rwyf wedi beicio arnynt erioed.”
Mae Scott yn gyfarwydd â rasio ar y ffyrdd, ar ôl iddo ddechrau gwneud hynny gyda chlwb beicio Towy Riders yng Nghaerfyrddin.
Yn 2014, cynrychiolodd Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow, cyn gael ei ddewis gan Team Wiggins ar gyfer tymor 2016.
Ers hynny, mae wedi rasio ar draws Ffrainc, Croatia ac Awstria, yn ogystal ag ennill y prawf amser mewn Rasys ar y Ffordd yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol ar gyfer pobl o dan 23 oed am bedair blynedd yn olynol rhwng 2014 a 2017.
Bydd Sir Gaerfyrddin yn cynnal Cymal Un Taith Prydain OVO Energy ddydd Sul, 2 Medi.
Bydd yn gadael Parc Gwledig Pen-bre am 11am cyn teithio tua’r gogledd drwy Gydweli, Caerfyrddin, Nantgaredig, Llandeilo a Llanymddyfri.
Bydd miloedd o bobl yn dod i wylio’r ras, a bydd sawl cymuned yn cynnal digwyddiad a chreu cerfluniau celf tir enfawr a fydd yn cael eu ffilmio’n fyw o hofrennydd ar gyfer ITV4.
Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Rydym yn gobeithio y bydd pawb yn mynd ati i groesawu Scott Davies a Geraint Thomas yn Ă´l i Sir Gaerfyrddin. Mae’r sir gyfan yn llawn cyffro ar gyfer diwrnod sy’n argoeli i fod yn un gwych, ac mae’n rhoi cyhoeddusrwydd gwych i Sir Gaerfyrddin gan ei bod yn cynnal digwyddiad pwysig ym myd chwaraeon.”
- Mae Team Dimension Data yn cydweithio â siopau SPAR i ddathlu Taith Prydain. Bydd Scott Davies o Sir Gaerfyrddin yn dod i’r siop yn Nhre Ioan, Heol Llansteffan, Caerfyrddin, am 10am ddydd Sadwrn, 1 Medi.
Gallwch ddod o hyd i bopeth yr ydych eisiau ei wybod am Daith Prydain yn Sir Gaerfyrddin drwy fynd i newyddion.sirgar.llyw.cymru
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle