First national event at Pembrey’s new cycling circuit/Digwyddiad cenedlaethol cyntaf ar gwrs beicio newydd Pen-bre

0
629

First national event at Pembrey’s new cycling circuit

 

THE new closed road circuit in Pembrey Country Park held its first national event on the weekend (Sunday, September 9).

The penultimate round of the National Youth Series 2018 was held on the circuit – just a week after it hosted the opening stage of the OVO Tour of Britain.

A total of 191 riders competed on the purpose-built 1.7km circuit.

Four elite youth races took place, with cyclists from all over the UK competing at under 14 and under 16 categories.

The circuit provides a safe, traffic-free environment for coaching and training as well as competitive cycling events and public recreation.

It has been designed and built to British cycling standard, with a 6m wide tarmac surface of varying gradients and bends, to attract local, regional and national events, races and training camp.

Carmarthenshire County Council contributed £500,000 capital funding towards the circuit, with support from Welsh Cycling and Sport Wales.

Executive Board Member for Culture, Sport and Tourism, Cllr Peter Hughes-Griffiths, said: “Our aim is that this will be the best off-road cycling circuit in Wales, if not the UK, as part of our ambition for Carmarthenshire to become the cycling hub of Wales. It was great to see young riders from across the UK coming to race at Pembrey on the weekend, just days after hosting some of the world’s best cyclists for the grand depart of the OVO Tour of Britain.”

The circuit is open to the public day to day and free to use, but is also available for exclusive bookings. It is managed by Welsh Cycling.

For more information please visit pembreycountrypark.wales or to book the track please see the British Cycling website

Digwyddiad cenedlaethol cyntaf ar gwrs beicio newydd Pen-bre

 

DROS y penwythnos, cynhaliwyd digwyddiad cenedlaethol cyntaf ar gwrs beicio ffordd gaeëdig newydd Parc Gwledig Pen-bre (dydd Sul, Medi 9).

Cafodd rownd gynderfynol Ras Feicio Ieuenctid Genedlaethol 2018 ei gynnal ar y cwrs beicio – wythnos yn unig ar ôl iddo gynnal cymal cyntaf Taith Prydain OVO.

Roedd cyfanswm o 191 o feicwyr wedi cystadlu ar y cwrs beicio pwrpasol, 1.7km o hyd.

Cynhaliwyd 4 ras ieuenctid ar y lefel uchaf, wrth i feicwyr o bob cwr o’r DU gystadlu yn y categorïau dan 14 oed a dan 16 oed.

Mae’r cwrs yn darparu amgylchedd diogel, di-draffig ar gyfer sesiynau hyfforddi yn ogystal â digwyddiadau beicio cystadleuol a chyfleuster hamdden i’r cyhoedd.

Mae’r cwrs wedi’i dylunio a’i adeiladu yn unol â safon beicio Prydain, ac mae ganddo wyneb tarmac 6 metr o led â graddiannau a throeon amrywiol, er mwyn denu digwyddiadau, rasys a gwersylloedd hyfforddiant lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyfrannu £500,000 o gyllid cyfalaf tuag at y cwrs, gyda chefnogaeth gan Beicio Cymru a Chwaraeon Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Ein nod yw sicrhau mai hwn fydd y cwrs beicio ffordd gaeedig gorau yng Nghymru, os nad yn y DU, fel rhan o’n huchelgais i Sir Gaerfyrddin fod yn ganolbwynt beicio Cymru. Roedd yn braf gweld beicwyr ifanc o bob rhan o’r DU yn dod i Ben-bre i gystadlu dros y penwythnos, diwrnodau yn unig ar ôl croesawu rhai o feicwyr gorau’r byd i gymal cyntaf Taith Prydain OVO.”

Mae’r cwrs yn agored i’r cyhoedd o ddydd i ddydd ac am ddim i’w ddefnyddio, ac mae hefyd ar gael ar gyfer archebion unigryw. Mae’n cael ei reoli gan Beicio Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i parcgwledigpenbre.cymru neu i archebu’r trac, ewch i wefan Beicio Prydain.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle