Autumn arrival for commencement of multi-million maternity scheme / Disgwyl dechrau ar gynllun mamolaeth gwerth miliynau yn yr Hydref

0
462

Following the Welsh Government announcement of £25.2 million investment for Glangwili Hospital’s obstetric and neonatal facilities, Hywel Dda University Health Board is delighted to confirm that work will start on site this October.

This second phase of redevelopment will increase the capacity of the facilities at the hospital. This will include high dependency cots, special care cots and parent overnight stay rooms, as well as increase the number of birthing rooms, operating theatres and resuscitation bays. Plans are also in place for an additional 45 car parking spaces.

The plans will provide a modern environment for the delivery of obstetric and neonatal services at Glangwili, and address the urgent areas of concern highlighted in the Royal Colleges’ report into the maternity, neonatal and paediatric services provided by the Health Board.

The Cabinet Secretary for Health and Social Services, Vaughan Gething, announced the funding during a visit to Glangwili in April.

The development will significantly improve the patient experience and accommodation for families.

Health Board Chief Executive Steve Moore said: “We are delighted to announce that work will commence this autumn to improve accommodation and facilities for women, babies and their families.

“We hope this provides our population with confidence that we will now proceed with pace to make these improvements.”

The second phase redevelopments will include:

  • Neonatal Unit – 4 high dependency cots plus 1 stabilisation cot, 2 single cot nursery spaces plus 1 isolation lobby, 8 special care cots and 2 double parent overnight stay rooms
  • Labour Ward – 5 standard birthing rooms, 1 birthing room with a fixed pool, 1 birthing room equipped to deal with multiple or complex births, and 6 bedded higher dependency area
  • A bereavement room
  • Obstetric Theatres – 2 operating theatres
  • Car Parking – additional 45 car parking spaces
  • Training room facilities for multi-disciplinary team working which can also be used for parentcraft classes

Disruption for staff will be kept to a minimum, and services for patients and their families will remain unaffected during the building work.

The scheme is due to be completed by 2020 and updates will be communicated throughout the project.

For the latest news and updates from Hywel Dda University Health Board visit www.hywelddahb.wales.nhs.uk

Disgwyl dechrau ar gynllun mamolaeth gwerth miliynau yn yr Hydref

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wrth ei fodd yn cyhoeddi y bydd gwaith yn dechrau ar gyfleusterau obstetreg a’r newydd-anedig ar safle Ysbyty Glangwili ym mis Hydref, yn dilyn y buddsoddiad £25.2 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Bydd yr ail ran hwn o’r gwaith ailddatblygu yn cynyddu gallu cyfleusterau’r ysbyty. Bydd hyn yn cynnwys crudiau dibyniaeth uchel, crudiau gofal arbennig ac ystafelloedd dros nos i rieni, yn ogystal â chynnydd yn y nifer o ystafelloedd esgor, theatrau a baeau dadebru. Mae cynlluniau hefyd ar waith ar gyfer 45 o fannau parcio car ychwanegol.

Bydd y cynlluniau yn cynnwys amgylchedd modern ar gyfer darparu gwasanaethau obstetreg a’r newydd-anedig yng Nglangwili, ac yn mynd i’r afael â’r meysydd o bryder dybryd a amlygwyd yn adroddiad y Coleg Brenhinol i wasanaethau mamolaeth, y newydd-anedig a paediatrig y Bwrdd Iechyd.

Gwnaed y cyhoeddiad am yr arian gan Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ar ei ymweliad â Glangwili ym mis Ebrill.

Bydd y datblygiad yn gwella profiad y cleifion a’u teuluoedd.

Meddai Steve Moore, Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd: “Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi y bydd y gwaith yn dechrau yn yr hydref i wella’r amgylchedd a’r cyfleusterau i fenywod, babanod a’u teuluoedd.

“Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn rhoi hyder i’n poblogaeth y byddwn nawr yn bwrw ymlaen i wneud y gwelliannau hyn.”

Mae ail ran y gwaith ailddatblygu yn cynnwys:

  • Uned y newydd-anedig – 4 crud dibyniaeth uchel, 1 crud sefydlogi, lle ar gyfer 2 grud meithrin sengl, 1 cyntedd arwahanu, 8 crud gofal arbennig a 2 ystafell ddwbl dros nos i rieni
  • Ward esgor – 5 ystafell esgor safonol, 1 ystafell esgor gyda phwll sefydlog, 1 ystafell esgor â’r cyfarpar i ddelio â genedigaethau lluosog neu gymhleth ac ardal dibyniaeth uchel 6 gwely
  • Un ystafell brofedigaeth
  • Theatrau obstetreg – 2 theatr
  • Maes parcio – 45 lle parcio ychwanegol
  •  Cyfleusterau ystafell hyfforddiant ar gyfer gweithio fel tîm aml-ddisgyblaethol, a gellir ei defnyddio ar gyfer dosbarthiadau magu plant

Gwneir pob ymdrech i darfu cyn lleied â phosibl ar staff, ac ni fydd y gwaith adeiladu yn effeithio ar wasanaethau i gleifion a’u teuluoedd.

Mae disgwyl i’r cynllun ddod i ben erbyn 2020, a byddwn yn rhannu diweddariadau trwy gydol y prosiect.

Am y newyddion diweddaraf o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, trowch at www.bihyweldda.wales.nhs.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle