County’s rural communities at forefront of conference
THE OPPORTUNITIES and challenges faced by Carmarthenshire’s rural areas were highlighted at a special conference.
More than 170 delegates attended the Carmarthenshire Rural Affairs Conference, held at the Halliwell Centre in the University of Wales Trinity Saint David.
The event was a chance for people to have their say in shaping the Carmarthenshire Rural Affairs Task Group’s future recommendations.
The conference was sponsored by the University of Wales Trinity Saint David, Coleg Sir Gâr and LHP Chartered Accountants.
Topics discussed included the implications of Brexit for agriculture and rural areas as well as approaches to rural development and regeneration.
Speakers at the conference included Cllr Cefin Campbell, Carmarthenshire County Council Executive Board Member for Rural Affairs and Communities; Professor Janet Dwyer, University of Gloucestershire; Gerallt Llewelyn Jones, former Managing Director of Menter Môn and MC for the day was Aled Rhys Jones, Chartered Surveyor, Nuffield Farming Scholar and radio presenter.
A question and answer session was held with Cllr Cefin Campbell, Professor Janet Dwyer, Gerallt Llywelyn Jones, and local businessman Simon Wright.
Discussion sessions covered a number of topics, including the challenges facing entrepreneurs in rural areas; Brexit and what are likely to be the biggest challenges in the agricultural sector, supporting and developing infrastructure and services in rural areas, the environmental challenges and opportunities facing Carmarthenshire and the opportunities for the tourism and leisure sector in the county.
More than 300 responses have been received to the consultation, with the top issues including jobs, broadband, public transport and public services. Contributions from the conference will be fed into the Rural Affairs Task Group’s work with a report and recommendations for action due to be published in April 2019.
Closing the conference, Cllr Cefin Campbell, executive board member responsible for Rural Affairs and Communities, said: “A big thank you to all for cooperating with the wide range of topics here at the conference. There are various factors on how to develop the economic impact in the rural areas of Carmarthenshire. In a time of uncertainties and cuts, I felt that today has proven that there is a positive future in front of us and I’d like to capture this enthusiasm and see Carmarthenshire’s rural areas succeed as we all work together to respond to the challenges and opportunities we face.”
Cymunedau gwledig y Sir yn cael cyfle i ddweud eu dweud
RHODDWYD sylw i’r cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin mewn cynhadledd arbennig a gynhaliwyd yn ddiweddar.
Daeth mwy na 170 o bobl i Gynhadledd Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd yng Nghanolfan yr Halliwell ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i bobl gael dweud eu dweud o ran llywio argymhellion Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol.
Cafodd y gynhadledd ei noddi gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Coleg Sir Gâr a Chyfrifyddion Siartredig LHP.
Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys goblygiadau Brexit ar gyfer amaethyddiaeth ac ardaloedd gwledig yn ogystal â dulliau o fynd i’r afael ag adfywio a datblygu gwledig.
Roedd siaradwyr y gynhadledd yn cynnwys y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Faterion Gwledig a Chymunedau; yr Athro Janet Dwyer, Prifysgol Swydd Gaerloyw; Gerallt Llewelyn Jones, Rheolwr-gyfarwyddwr (gynt) Menter Môn a’r cyflwynydd ar gyfer y dydd oedd Aled Rhys Jones, Syrfëwr Siartredig, Ysgolhaig Ffermio Nuffield a chyflwynydd radio.
Cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb gyda’r Cynghorydd Cefin Campbell; Yr Athro Janet Dwyer; Gerallt Llywelyn Jones; a Simon Wright, dyn busnes lleol.
Roedd y sesiynau trafod yn cynnwys nifer o bynciau, gan gynnwys yr heriau sy’n wynebu entrepreneuriaid mewn ardaloedd gwledig; Brexit; yr heriau mwyaf yn y sector amaethyddol; cefnogi a datblygu seilwaith a gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig; y cyfleoedd a’r heriau amgylcheddol sy’n wynebu Sir Gaerfyrddin a’r cyfleoedd ar gyfer y sector hamdden a thwristiaeth yn y sir.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, mae mwy na 300 o ymatebion wedi dod i law a’r prif faterion sy’n cael sylw yw swyddi, band eang, trafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus. Bydd cyfraniadau o’r gynhadledd yn cael eu bwydo i waith y Grŵp Gorchwyl Materion Gwledig a bwriedir cyhoeddi adroddiad ac argymhellion i’w gweithredu ym mis Ebrill 2019.
Wrth gau’r gynhadledd, dywedodd y Cynghorydd Cefin Campbell, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Faterion Gwledig a Chymunedau: “Diolch yn fawr iawn i bawb am gyfrannu at yr ystod eang o bynciau a drafodwyd yma yn y gynhadledd. Mae amrywiol ffactorau’n cael effaith economaidd yn ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin. Mewn adeg o ansicrwydd a thoriadau, roeddwn yn teimlo bod heddiw wedi profi bod dyfodol positif o’n blaenau a hoffwn weld y brwdfrydedd yn parhau ac ardaloedd gwledig Sir Gaerfyrddin yn llwyddo wrth i ni gyd weithio gyda’n gilydd i ymateb i’r heriau a’r cyfleoedd sy’n ein hwynebu ni.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle