Cynllun Rhoi’n Gall i’w lansio yng Nghastell-nedd Port Talbot

0
421

I’W RYDDHAU AR UNWAITH

 

Cynllun Rhoi’n Gall i’w lansio yng Nghastell-nedd Port Talbot

 

Cyn bo hir gofynnir i bobl yng Nghastell-nedd Port Talbot ddilyn y cyngor ‘Rhowch yn Gall – Gwnewch fel Arall’ a chefnogi pobl ddiamddiffyn a’r rheiny sy’n cysgu ar y stryd yn y fwrdeistref sirol.

 

Mae Partneriaeth Castell-nedd Port Talbot Mwy Diogel wedi ymuno â’r cynllun llwyddiannus hwn sydd wedi bod yn gweithredu yn Abertawe ers mis Ionawr.

 

Bydd Castell-nedd Port Talbot yn lansio’r cynllun yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd Port Talbot am 10am ddydd Gwener 21 Medi 2018.

 

Meddai’r Cynghorydd Des Davies, Aelod y Cabinet dros Ddiogelwch Cymunedol a Diogelu’r Cyhoedd,

 

“Gall rhoi arian i bobl sy’n cardota eu hannog i beidio â cheisio’r cymorth proffesiynol y mae gwir ei angen arnynt.

 

“Mae’r cynllun rhoi’n gall yn gweithio drwy ofyn i bobl roi arian i elusennau lleol i’r digartref drwy flychau casglu swyddogol, yn hytrach na rhoi arian yn uniongyrchol i bobl sy’n cardota ar y strydoedd. Bydd yr holl arian a dderbynnir yn cael ei ddefnyddio mor effeithiol â phosib i helpu pobl yn yr ardal. Gallai’r cymorth hwn gael ei ddarparu gan grwpiau statudol, gwirfoddol, rhai sy’n seiliedig ar ffydd, busnesau a grwpiau cymunedol eraill sy’n helpu pobl i oresgyn dibyniaeth a’r problemau eraill sy’n arwain at gardota.”

 

Meddai Arolygydd Heddlu De Cymru, Roy Portlock,

 

“Mae’n swyddogion yn cefnogi cymuned ddigartref a diamddiffyn y fwrdeistref sirol yn ddyddiol.

 

“Mae pobl yng Nghastell-nedd Port Talbot yn hael a gallwn ddeall eu bod am helpu eraill, ond yn aml gall caredigrwydd o’r fath gael ei gamddefnyddio ac ni chaiff cyfraniadau eu defnyddio fel y dylent bob amser.

 

“Bydd yr ymgyrch Rhowch yn Gall – Gwnewch fel Arall yn sicrhau bod unrhyw arian a gesglir yn cael ei ddefnyddio at ddibenion dilys i roi cefnogaeth uniongyrchol i’r rheiny sydd mewn angen go iawn. Gofynnir i chi gefnogi’r gwaith hanfodol hwn drwy gyfrannu mewn pwynt casglu swyddogol yn hytrach na rhoi arian yn uniongyrchol i bobl sy’n cardota.”

 

Mae llawer o fusnesau yn y fwrdeistref sirol eisoes wedi cytuno i gefnogi’r cynllun drwy weithredu fel mannau cyfrannu.

 

Bydd ymgyrch i gynyddu ymwybyddiaeth yn cyd-fynd â’r cynllun i hyrwyddo’r mannau cyfrannu swyddogol ac i roi gwybod i bobl am fuddion rhoi’n gall. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.safernpt.org.

 

Bydd y cynllun ledled y sir hefyd yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi’r ymgyrch Castell-nedd ar y Cyd, sy’n gwneud cynnydd wrth ddarparu’r mynediad at wasanaethau y mae eu hangen ar bobl ddigartref.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle