Ffermwr ifanc yn gwneud apêl am loches i’w wartheg dros y gaeaf

0
508

Mae tîm Mentro Cyswllt Ffermio yn cynorthwyo ffermwr ifanc llaeth a bîff sy’n edrych yn daer am lochesar gyfer ei fuchesdros y gaeaf ar ôl gorfod gadael ei ddaliad presennol.

 

Mae’n rhaid i James Davies adael ei fferm yn Sir Benfro lle mae’n rhedeg ei fuches o 170 o wartheg a heffrodcyflo a 100 o wartheg bîff oherwydd newid annisgwylynamgylchiadauperchennog y fferm.

 

Os nad yw’n dod o hyd i lety arall yn fuan, bydd rhaid iddo werthu’r stoc.

 

Caiff ei sefyllfa ei gymlethuymhellach gan statws TB y fuches – mae’n destun i waharddiad symud ar hyn o bryd.

 

“Byddwn yn cynnal prawf ar y 5ed o Dachwedd ac yn gobeithio y bydd yn glir,” meddai James. “Rwyf ar ddeall y gellir symud y gwartheg i loches dros y gaeaf gyda thrwyddedsymud, asesiad risg filfeddygol gan APHA ac os nad oes gwartheg arall yn bresennol ar y fferm.”

 

Mae’n awyddus i sicrhau dyfodol ar gyfer ei fusnes.

 

Symudodd James, sy’n 29, ei fuches i Sir Benfro o Gernyw ym mis Mawrth gan odro’r gwartheg ar fferm laeth ger Hwlffordd.

 

Cafodd ei fagu ar fferm laeth yng Nghei Newydd, Ceredigion, ac mae wastad wedi bod eisiau ffermio ar eiliwt eu hun.

 

Mae James yn derbyn cefnogaeth gan raglen Mentro Cyswllt Ffermio sydd wedi’i lunioi baru ffermwyr a thirfeddianwyr sy’n barod i gamu’n ôl o’r diwydiant gyda newydd ddyfodiaid sy’n chwilio am gyfle i gychwyn ffermio

 

Nid yw James wedi canfod cyfle addas dan y rhaglen hyd yma ac oherwydd ei sefyllfa anodd bresennol, mae’ncychwyn rhedeg allan o opsiynau.

 

“Rwy’n gobeithio bod rhywun allan yno a all fy helpu. Rwyf wedi mentro er mwyn cyrraedd lle ydw i heddiw a ‘dw i ddim eisiau rhoi’r gorau nawr. ‘Dw i ddim eisiau rhoi’r gorau i odro.”

 

Mae’r pecyn o gefnogaeth a gynigir gan Cyswllt Ffermio yn cynnwys mentora un i un ac mae ei fentor dynodedig, LilwenJoynson, wedi bod yn rhan allweddol o gefnogi James i ystyried ei opsiynau a gosod pwyntiaugweithredu. Dywedodd Einir Davies, sy’n rheoli rhaglenni Mentro a Mentora Cyswllt Ffermio, “Mae penderfynoldeb James i oresgyn y sefyllfa anodd hon er gwaethafpopeth yn ysbrydoledig a dylid edmygu ei frwdfrydedd a’i ymrwymiad i lwyddo.”

 

Gall unrhywun sydd mewn sefyllfa i helpu James gysylltu ag ef ar 07809 183208 neudaviespenyrallt@hotmail.co.uk. Fel arall, cysylltwch â tîm Mentro Cyswllt Ffermio trwy edrych ar ein gwefan www.gov.wales/farmingconnect neu ffonio 08456 000813.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle