Yn galw ar bob myfyriwr!

0
440
Wednesday 28 September 2014 Pictured: Re: Student lock-in Takes place in Carmarthen Town Centre

MAE Digwyddiad Siopa Mwyaf Caerfyrddin i Fyfyrwyr yn dychwelyd i Gaerfyrddin ddydd Iau nesaf (27 Medi).

Disgwylir i dros 1,000 o fyfyrwyr heidio i ganol y dref er mwyn manteisio ar ostyngiadau arbennig o hyd at 30% mewn dros 40 o siopau mwyaf poblogaidd y dref, rhwng 6-9pm, yn y Sbri Siopa.

Dyma’r drydedd flwyddyn y mae’r digwyddiad wedi cael ei gynnal yn y dref. Caiff y digwyddiad ei drefni gan bartneriaeth o fusnesau lleol, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Tref Caerfyrddin, gwasanaethau cyhoeddus lleol, Undeb Myfyrwyr y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Yn ogystal â’r siopa, bydd cerddoriaeth fyw gan fandiau lleol, adloniant gan gynnwys wal ddringo, ali fowlio a reid tarw rodeo; busnesau bwyd stryd a chynigion bar mewn amrywiaeth o leoliadau ledled y dref.

Gall myfyrwyr gasglu eu bandiau arddwrn o’r babell gofrestru ar yr Heol Goch o 5pm.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Emlyn Dole: “Unwaith eto, bydd hwn yn ddigwyddiad gwych. Mae’n gyfle gwych i’r myfyrwyr hynny efallai nad ydynt erioed wedi dod i’r dref o’r blaen i weld y cymysgedd gwych o siopau’r stryd fawr a siopau annibynnol sydd ar gael yn y dref yn ogystal â chael bargenion drwy ddefnyddio’r cynigion arbennig sydd ar gael ar gyfer y noson hon yn unig.  Mae digwyddiadau blaenorol wedi bod yn llwyddiannus iawn ac ni fydd eleni’n eithriad. Carwn ddiolch i’r holl fusnesau sydd wedi cefnogi’r digwyddiad.”

Gall pob myfyriwr gofrestru ymlaen llaw i gael band arddwrn am ddim – ewch ar-lein i gofrestru.

Hyd yn oed os nad ydych wedi cofrestru o ymlaen llaw mae pob croeso ichi fynd i’r digwyddiad. Chwiliwch am y ddesg ‘Cofrestru Nawr’ ar yr Heol Goch. Cofiwch ddod â charden ddilys Undeb y Myfyrwyr neu Garden Adnabod Myfyriwr gyda chi – hebddi ni allwch gael band arddwrn sy’n rhoi mynediad ichi i’r digwyddiad a chynigion arbennig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle