Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn ennill Gwobr GIG Cymru

0
656

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn dathlu heddiw (dydd Gwener 21 Medi 2018) ar ôl ennill Gwobr GIG Cymru ar ben-blwydd y gwobrau yn unarddeg.

Enillodd prosiect ar “Datblygu model gwasanaeth adsefydlu cleifion yr ysgyfaint (VIPAR) i wella iechyd a lles, a lleihau anghydraddoldeb iechyd“ y wobr Gwella Iechyd a Lles a Lleihau Snghydraddoldeb, a noddwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, a fynychodd y seremoni, “Mae Gwobrau GIG Cymru yn llwyfan cenedlaethol ar gyfer rhagoriaeth ac yn dathlu arfer gorau o ran gwella gofal i gleifion ar draws Cymru. Mae’n gyfle gwych i ddysgu gan ein gilydd a chydnabod arloesi ysbrydoledig ein staff yn y GIG.

“Dylai pob un sydd yn y rownd derfynol fod yn falch o gyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr. Mae’n galonogol gweld cymaint o angerdd ac ymroddiad tuag at wella gwasanaethau a ddarperir ar draws Cymru. Mae hyn hyd yn oed yn fwy pwysig ac o fwy o werth yng nghyd-destun yr heriau cynyddol yr ydym yn eu hwynebu ar draws ein system iechyd a gofal cymdeithasol.”

Meddai Steve Moore, Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd: “Rwy’n falch iawn o’r tîm sy’n rhan o’r orchest ffantastig hon! Mae mentrau fel VIPAR mor llwyddiannus oherwydd gwaith caled, pendantrwydd a brwdfrydedd ein staff i wella gwasanaethau a chanlyniadau ar gyfer ein cleifion. Llongyfarchiadau i bob un sydd wedi bod yn rhan o hyn!”

Mae’r gwasanaeth adsefydlu cleifion yr ysgyfaint Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi datblygu model prif ganolfan a lloerennau gan ddefnyddio fideo-gynadledda i gysylltu’r brif ganolfan (wedi’i lleoli yn Ysbyty Cyffredinol Glangwili) â lleoliad lloeren (wedi’i leoli yn Neuadd Tregaron). Mae’r ffordd newydd hon o weithio yn mynd i’r afael â heriau staffio’r gwasanaeth, gan ddiwallu anghenion cleifion, a chynnal egwyddorion gofal iechyd darbodus.

Y nod yw ychwanegu hyd at 3 safle lleoren arall, a fydd yn cysylltu ar yr un pryd at safle’r brif ganolfan, ac yn creu rhwydwaith Adsefydlu Cleifion yr Ysgyfaint (VIPAR).

Fe wnaeth pob cyfranogwr a fynychodd y rhaglen elwa ar welliannau i’w hiechyd, gyda chanlyniadau cymaradwy rhwng cyfranogwyr y brif ganolfan a’r safle lloeren. Mae sgôr Prawf Asesu COPD (CAT) wedi lleihau ar gyfer y brif ganolfan a’r safle lloeren, ac mae sgorau pryder ac iselder ysbyty ar ôl-ymyrraeth wedi lleihau hefyd.

Dangoswyd bod VIPAR yn wasanaeth dichonadwy a diogel, sy’n boblogaidd gyda staff a chleifion, ac yn un sy’n arbed arian ac yn lleihau effaith ar yr amgylchedd.

Caiff gwobrau GIG Cymru eu trefnu gan 1000 o Fywydau – Gwasanaeth Gwella, y gwasanaeth gwelliant cenedlaethol ar gyfer GIG Cymru a ddarperir gan Iechyd Cyoeddus Cymru. Lansiwyd y gwobrau yn 2008 i ddathlu pen-blwydd y GIG yn 60 oed a chydnabod a hyrwyddo arfer da ledled Cymru.

Cafwyd ceisiadau o ystod eang o sefydliadau, gan ddatgelu safon uchel o waith arloesol ac amrywiol sy’n trawsnewid gofal i gleifion ledled Cymru.

Er mwyn darllen rhagor am yr holl enillwyr, ewch i www.nhswalesawards.wales.nhs.uk/hafan.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle