Lansio Cynllun Arfer Da Iechyd y Cyhoedd

0
610

Lansio Cynllun Arfer Da Iechyd y Cyhoedd

Mae Rhwydweithiau Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio Cynllun Arfer da Iechyd y Cyhoedd gyda chyfres o weithdai ar draws Cymru.

 
Nod y cynllun, sydd wedi bod yn cael ei ddatblygu ers dwy flynedd, yw adnabod a chefnogi arfer da mewn mentrau ym maes maeth, gweithgaredd corfforol, hybu iechyd meddwl ac iechyd rhywiol. Mae cronfa ddata wedi cael ei datblygu sy’n rhoi dull systematig o rannu gwybodaeth am fentrau er mwyn atal dyblygu, gwella dysgu a galluogi penderfyniadau ynglŷn â pha fentrau i’w mabwysiadu neu eu datblygu.
 
Bydd marc safon yn cael ei ddyfarnu i brosiectau yr ystyrir eu bod wedi cyflawni arfer da gan y Panel Cynghori ar Arfer Da wedi ei gadeirio gan Gadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Athro Syr Mansel Aylward.
 
Cafodd y cynllun ei lansio mewn cyfres o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ar draws Cymru gan y rhwydweithiau er mwyn i ymarferwyr ganfod mwy am y cynllun a sut y gallai fod o fudd i’w prosiect neu eu sefydliad. Mynychodd dros 100 o bobl ar draws ystod o sefydliadau, yn cynnwys Iechyd Cyhoeddus Cymru, i wrando ar gyflwyniadau ar gefndir y cynllun, ac astudiaeth achos i ddangos y broses ar waith. Cafwyd trafodaethau grŵp hefyd i archwilio’r hyn y byddai’r cynllun yn ei olygu i ymarferwyr ac i gysylltu â mentrau y maent yn gysylltiedig â nhw.
 
Dywedodd yr Athro Syr Mansel Aylward: “Mae’n bleser gennyf fod yn rhan o’r cynllun rhagorol hwn. Rwy’n credu bod gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ran bwysig i’w chwarae yn hyrwyddo a rhannu arfer da ac mae’r cynllun hwn yn gyfle da i wneud hynny.”
 
Dywedodd Malcolm Ward, Arbenigwr Hybu Iechyd y Cyhoedd, “Roedd y digwyddiadau yn ffordd ragorol i gydlynwyr y rhwydwaith ddod allan a chyfarfod â’r rheiny sy’n gweithio ym meysydd amrywiol iechyd y cyhoedd. Mae’r adborth yr ydym wedi ei gael ar y cynllun wedi bod yn galonogol iawn ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ymarferwyr er mwyn adnabod arfer da.”
 

Am fwy o wybodaeth ewch i Cynllun Arfer Da Iechyd y Cyhoedd.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle