Dechreuodd y gwaith yr wythnos diwethaf ar gyfleusterau obstetreg a’r newydd-anedig ar safle Ysbyty Glangwili, yn dilyn y buddsoddiad o £25.2 miliwn.
Bydd yr ail ran hwn o’r gwaith ailddatblygu yn cynyddu gallu cyfleusterau’r ysbyty. Bydd hyn yn cynnwys crudiau dibyniaeth uchel, crudiau gofal arbennig ac ystafelloedd dros nos i rieni, yn ogystal â chynnydd yn y nifer o ystafelloedd esgor, theatrau a baeau dadebru. Mae cynlluniau hefyd ar waith ar gyfer 45 o fannau parcio car ychwanegol.
Bydd y cynlluniau yn cynnwys amgylchedd modern ar gyfer darparu gwasanaethau obstetreg a’r newydd-anedig yng Nglangwili, ac yn mynd i’r afael â’r meysydd o bryder dybryd a amlygwyd yn adroddiad y Coleg Brenhinol i wasanaethau mamolaeth, y newydd-anedig a paediatrig y Bwrdd Iechyd.
Gwnaed y cyhoeddiad am yr arian gan Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ar ei ymweliad â Glangwili ym mis Ebrill.
Bydd y datblygiad yn gwella profiad y cleifion a’u teuluoedd.
Meddai Steve Moore, Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd: “Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi bod y gwaith wedi dechrau ar y prosiect hwn i wella’r amgylchedd a’r cyfleusterau i fenywod, babanod a’u teuluoedd.
“Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn rhoi hyder i’n poblogaeth y byddwn nawr yn bwrw ymlaen i wneud y gwelliannau hyn.”
Mae ail ran y gwaith ailddatblygu yn cynnwys:
• Uned y newydd-anedig – 4 crud dibyniaeth uchel, 1 crud sefydlogi, lle ar gyfer 2 grud meithrin sengl, 1 cyntedd arwahanu, 8 crud gofal arbennig a 2 ystafell ddwbl dros nos i rieni
• Ward esgor – 5 ystafell esgor safonol, 1 ystafell esgor gyda phwll sefydlog, 1 ystafell esgor â’r cyfarpar i ddelio â genedigaethau lluosog neu gymhleth ac ardal dibyniaeth uchel 6 gwely
• Un ystafell brofedigaeth
• Theatrau obstetreg – 2 theatr
• Maes parcio – 45 lle parcio ychwanegol
• Cyfleusterau ystafell hyfforddiant ar gyfer gweithio fel tîm aml-ddisgyblaethol, a gellir ei defnyddio ar gyfer dosbarthiadau magu plant
Gwneir pob ymdrech i darfu cyn lleied â phosibl ar staff, ac ni fydd y gwaith adeiladu yn effeithio ar wasanaethau i gleifion a’u teuluoedd.
Mae disgwyl i’r cynllun ddod i ben erbyn 2020, a byddwn yn rhannu diweddariadau trwy gydol y prosiect.
Am y newyddion diweddaraf o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, trowch at www.bihyweldda.wales.nhs.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle