Swansea Soapbox Science appeals for volunteer speakers

0
721

To mark International Women in Science Day today (Feb 11) Swansea University is appealing for female scientists and engineers to hit the streets to share their passion.

The University is preparing to host its sixth Soapbox Science event on Saturday, June 22 and is now on the lookout for volunteer speakers to take part.

The University is seeking female scientists to step on their soapboxes in the centre of Swansea and talk about their particular field as the city centre buzzes with Saturday afternoon shoppers.

Their mission is to raise the profile and challenge the public’s view of women in science, technology, engineering, maths and medicine (STEMM) in the hope of influencing girls to follow a career in science, whatever their background.

Soapbox Science is an international initiative which aims to bring science to the people and challenge gender stereotypes in science careers and 2019 promises to be bigger and better than ever.

The Swansea date is one of 44 Soapbox Science events planned in 13 countries which will see speakers from a range of backgrounds sharing their research and answering questions from the public.

Organiser Dr Geertje van Keulen, of Swansea University, said: “Swansea’s Soapbox Science will feature women at the forefront of science and technology from all over Wales and we hope they will stop people in their tracks with fascinating talks on their research.

“In the past we have heard talks on a diverse range of subjects from antibiotic resistance, volcanoes, smart materials of the future, to heart surgery and we look forward to hearing more exciting science talks this year!”

Anyone wanting to speak at event can apply here by 11am on Friday, March 1

Keep up to date with what’s going on in Swansea on Twitter at @SoapboxSciSWAN or on Instagram @soapboxscienceswansea. See our video on YouTube or you can also email the team at soapboxscienceswansea@swansea.ac.uk.

 

Gwyddoniaeth Bocs Sebon Abertawe’n apelio am siaradwyr gwadd gwirfoddol

I nodi Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Gwyddoniaeth heddiw (11 Chwefror) mae Prifysgol Abertawe’n apelio am wyddonwyr a pheirianwyr benywaidd i rannu eu hangerdd â gweddill Abertawe.

Mae’r Brifysgol yn paratoi i gynnal ei chweched digwyddiad Gwyddoniaeth Bocs Sebon ddydd Sadwrn 22 Mehefin ac erbyn hyn mae’n chwilio am siaradwyr gwadd i wirfoddoli i gymryd rhan.

Mae’r Brifysgol yn chwilio am wyddonwyr benywaidd i gamu ar eu bocsys sebon yng nghanol Abertawe ac i siarad am eu meysydd penodol wrth i siopwyr brynhawn Sadwrn lenwi canol y ddinas.

Eu cenhadaeth yw codi proffil a herio barn y cyhoedd am fenywod ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, meddygaeth a mathemateg (STEMM) yn y gobaith o ddylanwadu ar ferched i ddilyn gyrfa ym maes gwyddoniaeth, beth bynnag eu cefndir.

Mae Gwyddoniaeth Bocs Sebon yn fenter ryngwladol a’r nod yw dod â gwyddoniaeth i’r bobl a herio ystrydebau rhywedd yng ngyrfaoedd gwyddoniaeth ac mae 2019 yn addo bod yn fwy ac yn well nag erioed.

Mae’r dyddiad yn Abertawe yn un o 44 o ddigwyddiadau Gwyddoniaeth Bocs Sebon a drefnir mewn 13 o wledydd a fydd yn gweld siaradwyr o ystod o gefndiroedd yn rhannu eu hymchwil ac yn ateb cwestiynau gan y cyhoedd.

Meddai’r trefnydd Dr Geertjevan Keulen, o Brifysgol Abertawe:“Bydd Bocs Sebon Abertawe’n cynnwys menywod o bob cwr o Gymru sydd ar flaen y gad ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg a gobeithio y bydd eu sgyrsiau hynod ddiddorol am eu hymchwil yn dal sylw pobl.

“Yn y gorffennol rydym wedi clywed sgyrsiau ar ystod amrywiol o bynciau o ymwrthedd gwrthfiotig, llosgfynyddoedd, deunyddiau clyfar y dyfodol, i lawfeddygaeth ar y galon ac edrychwn ymlaen at glywed rhagor o sgyrsiau gwyddoniaeth cyffrous eleni!”

Gall unrhyw un sy’n dymuno siarad mewn digwyddiad wneud cais yma erbyn 11am ddydd Gwener 1 Mawrth

Derbyniwch y newyddion diweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yn Abertawe ar Twitter @SoapboxSciSWAN neu ar Instagram @soapboxscienceswansea. Gwyliwch ein fideo ar YouTube. Gallwch hefyd anfon e-bost at y tîm yn soapboxscienceswansea@abertawe.ac.uk

 

 

 

 

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle