Cymarfer – Pilot project in Llangefni to support Welsh learners

0
971
Aran Fish & Chips – Cymryd rhan yn y prosiect Cymarfer.

One of the biggest challenges that faces Welsh Learners is speaking to fluent Welsh speakers. For some reason first language Welsh speakers find it difficult to support Welsh learners. It’s a bit of a mystery why Welsh speakers turn to English so easily, or feel the need to correct learners, or speak so correctly that one would think that person had swallowed a dictionary!

These are only a few of the problems that were identified whilst researching into the challenges of integrating learners into Welsh communities. The result of the research was a Pilot Project called ‘Cymarfer’. The project consists of a series of videos and a digital pack funded by The National Centre for Learning Welsh including the do’s and don’ts on how to speak to Welsh learners in a supportive manner. One of the best things about this project is that the learners themselves contributed towards writing and acting in the videos with experienced Welsh Tutors and author Mared Lewis and Manon Prysor.

Each video has drawn from real experiences with real learners whilst trying to practice Welsh from day to day.

 

 

The second part of the project is trialing ‘Cymarfer’ with Llangefni businesses. This is where the project encourages learners to use Welsh on a daily basis in local businesses. Through work carried out by Menter Iaith Môn, Llangefni businesses have started to sign up to be part of the project. The businesses who have signed up to the project have agreed to speak Welsh with the learners. If the learners speak Welsh in the shop, they receive a stamp on their ‘Cymarfer’ cards. Once they collect 8 stamps and bring the card to Menter Iaith Môn, in Llangefni Town Hall they are enrolled in a competition to win a place in The Centre for Learning Welsh’ Summer School.

Angharad Mai Jones Welsh in Business Officer, Menter Iaith Môn said,

“This is a great opportunity for us here in Llangefni to lead the way with businesses supporting Welsh learners. There has been a positive response here with most of the businesses happy to take part in the Cymarfer project. It also plaits well with the Welsh in Business project that offers various support for small businesses to use more Welsh”

An official launch for the ‘Cymarfer’ project was held during a Business Breakfast at Llangefni Town Hall, and it was a pleasure to see so many learners present. Non Hughes Human Resources Officer for Isle of Anglesey County Council said,

“We are very glad to promote the Cymarfer project amongst Welsh learners within Isle of Anglesey County Council. It’s vital that we offer opportunities for learners to use Welsh outside of the classroom, be that in the workplace or socially. It’s nice to see Llangefni businesses committing to support Welsh learners. Simple things make a world of difference- speaking slowly and being patient. Hopefully the project will encourage more people to shop locally and do that by speaking Welsh. An opportunity to win a place in Learn Cymraeg GO Summer School is a great motivation to go for it!”

If you know of a business in the Llangefni area whom would like to be part of ‘Cymarfer’ get in touch with Ifor GruffyddGruffydd (i.gruffydd@bangor.ac.uk)  or there are resources available from your local Menrer Iaith (01248 725700 / iaith@mentermon.com).

Cymarfer digital pack available here: http://ybont.org/cefnogi-dysgwr/#/

Cymarfer- cynllun peilot newydd yn ardal Llangefni i gefnogi dysgwyr

Un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu dysgwyr Cymraeg ydy siarad efo Cymry Cymraeg. Am ryw reswm mae siaradwyr iaith gyntaf yn ei gweld yn anoddcefnogi dysgwyr. Mae’n ddirgelwch mawr pam bod Cymry’n newid i’r Saesneg ar ddim, neu’n teimlo’r angen i gywiro dysgwyr, neu siarad mewn Cymraeg mor safonol byddai rhywun yn meddwl i’r person hwnnw lyncu geiriadur.

Dim ond rhai o’r problemau sydd uchod a gafodd eu hamlygu gan ymchwil wnaed i’r heriau wrth geisio cymathu dysgwyr i gymunedau Cymraeg. Canlyniad yr ymchwil oedd y Cynllun Peilot Cymarfer. Drwy gyfres o fideos a phecyn digidol wedi eu hariannu gan Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae’r do’s a’r don’t’s fel petai ar sut i siarad efo dysgwyr Cymraeg mewn ffordd gefnogol. Un o’r pethau gorau am y prosiect hwn ydy mai dysgwyr sy’ wedi cyfrannu at awduro ac actio yn y fideos ar y cyd efo’r tiwtor ac awdur profiadol, Mared Lewis a Manon Prysor. Mae pob fideo wedi tynnu ar brofiadau dysgwyr go iawn wrth geisio ymarfer siarad Cymraeg o ddydd i ddydd.

 

CYMARFER CARD

Ail ran y cynllun ydy treialu ‘Cymarfer’ gyda busnesau Llangefni. Prosiect ydy hwn i annog dysgwyr ddefnyddio eu Cymraeg o ddydd i ddydd gyda busnesau a siopau lleol.  Ar y cyd gyda Menter Iaith Môn, daeth busnesau tref Llangefni yn rhan o’r prosiect. Mae busnesau lleol sydd wedi ymrwymo i’r cynllun yn fodlon siarad Cymraeg gyda dysgwyr. Os ydy’r dysgwyr yn defnyddio’r Gymraeg yn y siop, maent yn cael ‘stamp’ ar eu cerdyn Cymarfer. Ar ôl casglu 8 stamp, maent yn dychwelyd y cerdyn i swyddfa Menter Iaith Môn, yn Neuadd y Dref, Llangefni am gyfle i ennill gwobr o Ysgol Haf gyda’r Ganolfan Gymraeg Cenedlaethol.

Dywedodd Angharad Mai Jones, Swyddog Cymraeg Byd Busnes, Menter Iaith Môn,

 

Mae hwn yn gyfle gwych i ni yma yn Llangefni i arwain y ffordd gyda busnesau yn cefnogi dysgwyr Cymraeg. Mae’na ymateb cadarnhaol iawn wedi bod hyd yma, gyda mwyafrif busnesau’r dref yn hapus i fod yn rhan o’r prosiect Cymarfer. Mae hefyd yn plethu yn wych gyda ein prosiect Cymraeg Byd Busnes sy’n cynnig bob math o gymorth i fusnesau ddefnyddio Cymraeg”

Aran Fish & Chips – Cymryd rhan yn y prosiect Cymarfer.

Bu lansiad swyddogol ‘Cymarfer’ yn Neuadd y Dref Llangefni mewn Brecwast Busnes, a braf oedd gweld cymaint o ddysgwyr yn y digwyddiad. Dywedodd Non Hughes, Swyddog Adnoddau dynol, Cyngor Ynys Môn

Rydym yn falch iawn o alluhybucynllunCymarferefodysgwyrCyngor Sir Ynys Môn.  Mae’nhollbwysigein bod ni’ncynnigcyfleoeddi’ndysgwyrddefnyddio’uCymraegtuallani’rdosbarth, boedhynny yn y gweithleneu’ngymdeithasol.  Mae hi’nbrafgweldbusnesaulleol Llangefni yn ymrwymoigefnogidysgwyr.  Mae pethausyml yn gwneudbyd o wahaniaeth – siarad yn araf a bod yn amyneddgar.  Gobeithio y bydd y cynllun yn annogmwy o boblisiopa’nlleol, ac iwneudhynny yn Gymraeg.  Ac mae’rcyfleiennilllle yn Ysgol Haf DysguCymraeg GO yn gymhelliantgwychifyndamdani!”

Os dach chi’n nabod busnes neu ddysgwyr yn ardal Llangefni fyddai’n hoffi bod yn rhan o beilot ‘Cymarfer’, cysylltwch efo Ifor Gruffydd (i.gruffydd@bangor.ac.uk)  neu mae adnoddau i’w cael o swyddfa’r Fenter Iaith leol (01248 725700 / iaith@mentermon.com) ?

Mae pecyn digidol Cymarfer ar gael yma: http://ybont.org/cefnogi-dysgwr/#/

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle