Prince Philip Hospitals Radio BGM wins national hospital radio award / Radio BGM Ysbyty’r Tywysog Philip yn ennill Gwobr Genedlaethol Gorsafoedd Radio Ysbytai/Cymraeg

0
577
Radio BGH Award

Many congratulations to Prince Philip Hospital’s very own Radio BGM who has been recognised recently with a national award for their coverage of the NHS 70th birthday celebrations at the hospital in July 2018.

The hospital radio station, which broadcasts online and internally 24 hours a day, 365 days a year, was presented with a silver award in the category for ‘Best Special Event’ at this year’s national Hospital Radio Awards.

During a star-studded event in Stoke-on-Trent, Radio BGM were among some of the best hospital radio stations in the UK to be nominated. The national awards are an annual celebration of the excellent standards found in hospital radio stations across the country. Organised by the Hospital Broadcasting association and open to any member-station, the awards are divided into different categories, each one recognising a specific area of excellence; some to individuals and others to stations.

Chair of Radio BGM, Dave Hurford said: “We are over the moon. This is the first time Radio BGM has won an award and I think it just goes to show how much hard work our volunteers put in for us to be recognised on a national stage. A special thank you must go to them for their tireless efforts.

“The NHS 70th Birthday was a nationwide celebration that many hospital radio stations up and down the country took part in. The bar was very high for us, but we couldn’t be happier that we have fought off some heavy competition to win a silver award for best special event.”

Speaking about Radio BGM’s entry the award judges described it as: “just a lovely entry, an uplifting, gentle, warm and well produced piece of radio that we loved”.

Dave added: “We are hoping the award and the status it carries will give us a boost as a station. The past twelve months have not been without their challenges, but we are in a great position and ready to welcome new members.

“We would encourage anyone who wishes to find out more or is interested in volunteering for Radio BGM to download our brand new mobile app or visit us online www.radiobgm.org.uk”

*********************

Llongyfarchiadau mawr i Radio BGM Ysbyty’r Tywysog Philip sydd wedi ennill gwobr genedlaethol yn ddiweddar, a hynny am ddarlledu dathliadau pen-blwydd 70 y GIG yn yr ysbyty ym mis Gorffennaf 2018.

Cyflwynwyd gwobr arian i orsaf radio’r ysbyty, sy’n darlledu ar-lein ac yn fewnol 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, a hynny yng nghategori’r ‘Digwyddiad Arbennig Gorau’ yn y Gwobrau Cenedlaethol Gorsafoedd Radio Ysbytai eleni.

Yn ystod y digwyddiad a oedd yn frith o sĂŞr yn Stoke-on-Trent, roedd Radio BGM ymhlith rhai o’r gorsafoedd radio ysbytai gorau a enwebwyd yn y Deyrnas Unedig. Mae’r gwobrau cenedlaethol yn ddathliad blynyddol o’r safonau rhagorol a geir mewn gorsafoedd radio ysbytai ledled y wlad. Rhannwyd y gwobrau, a drefnwyd gan yr Hospital Broadcasting Association, ac a oedd yn agored i unrhyw aelod-orsaf, yn gategorĂŻau gwahanol, gyda phob un yn cydnabod maes rhagoriaeth penodol; gydag ambell wobr yn cael ei rhoi i unigolion, a gwobrau eraill yn cael eu rhoi i orsafoedd.

Dywedodd Dave Hurford, Cadeirydd Radio BGM: “Rydym wrth ein boddau. Dyma’r tro cyntaf i Radio BGM ennill gwobr, ac rwy’n credu ei fod yn dangos cymaint o waith caled y mae ein gwirfoddolwyr yn ei wneud i sicrhau cydnabyddiaeth ar lwyfan cenedlaethol. Rhaid diolch yn arbennig iddynt hwy am eu hymdrechion diflino.

“Roedd Pen-blwydd y GIG yn 70 mlwydd oed yn ddathliad cenedlaethol, a bu sawl gorsaf radio ysbyty ar hyd a lled y wlad yn rhan ohono. Roedd y disgwyliadau’n fawr, ond ni allwn fod yn fwy balch ein bod wedi llwyddo i guro cystadleuwyr cryf, gan gipio’r wobr arian am y digwyddiad arbennig gorau.”

Wrth ddisgrifio’r darn a gyflwynwyd gan Radio BGM, dywedodd y beirniaid: “roedd hwn yn ddarn hyfryd, yn codi calon, yn addfwyn, ac yn gynnes – roedd yr eitem wedi cael ei chynhyrchu’n dda, ac roeddem wedi gwirioni arni.”

Ychwanegodd Dave: “Rydym yn gobeithio y bydd y wobr a’r statws sy’n gysylltiedig â hi yn rhoi hwb i ni fel gorsaf. Mae yna heriau wedi bod yn ystod y deuddeng mis diwethaf, ond rydym mewn sefyllfa dda ac yn barod i groesawu aelodau newydd.

“Hoffem annog unrhyw un sy’n dymuno cael rhagor o wybodaeth, neu sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli gyda RADIO BGM, i lawrlwytho ein ap symudol newydd sbon neu ymweld â’n gwefan: www.radiobgm.org.uk”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle