HERD HEALTH SUPPORT LAUNCHED FOR WELSH PIG KEEPERS/

0
542

Menter Moch Cymru has today launched a new scheme which aims to help Welsh pig farmers lift herd profitability and performance by improving herd health.
Launched at Wales’ first Pig & Poultry Event, this new initiative will provide financial assistance for pig herd health planning. Eligible pig farmers can access 80% funding towards an initial herd health plan, followed by further support in subsequent years for its review.

The Menter Moch Cymru project is funded by the Welsh Government Rural Communities – Rural Development Programme 2014 -2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.
This new initiative builds on the free training, support and information resources that the project provides for pig keepers in Wales. It delivers against the project’s commitment to helping farmers achieve on-farm efficiency and drive best practice in proactive animal health planning.

Christianne Glossop, Welsh Government Chief Veterinary Officer said “This initiative to raise disease awareness on Welsh pig farms is particularly important at this time as we face the threat of emerging diseases, such as African Swine Fever, arriving into the UK. Pig Health Planning and good biosecurity are an important part of preventing the introduction and spread of disease within the national herd.”
According to Melanie Cargill, Menter Moch Cymru Project Manager, “Herd health planning, a proactive and coordinated approach to animal health and eradicating disease, can have a significant impact on the efficiency and bottom line of a pig enterprise.”

“The launch of this new financial support initiative will help farmers to work with vets to put health plans in place and monitor their effectiveness over the years to come. This is a great opportunity for Welsh pig keepers in Wales to assess the health of their herd and, with the assistance of their vet, establish a practical, tailored health plan to improve productivity and profitability.”

In addition to this, over the past 6 months, Menter Moch Cymru, in partnership with the Wales Veterinary Science Centre, Animal Health Services and Iechyd Da, have been delivering bespoke CDP training for Welsh Vets to ensure they are confident and knowledgeable on how to carry out a herd health plan for a pig enterprise.
The primary aim of a herd health plan is to promote animal wellbeing by managing identified health problems so that they can be controlled by prevention. Better animal health leads to improved herd profitability and performance and a more sustainable business.

Visit www.mentermochcymru.co.uk to find out more.

LANSIO CYMORTH IECHYD Y GENFAINT I GEIDWAID MOCH YNG NGHYMRU

 Mae Menter Moch Cymru wedi lansio cynllun newydd heddiw sy’n bwriadu helpu ffermwyr moch yng Nghymru i wella elw a pherfformiad eu cenfeintiau drwy wella iechyd y moch.

Bydd y fenter hon, a lansiwyd yn Nigwyddiad Moch a Dofednod cyntaf Cymru, yn cynnig cymorth ariannol i gynllunio iechyd y genfaint foch. Gall ffermwyr moch cymwys dderbyn 80% o’r cyllid ar gyfer gweithredu cynllun cychwynnol i ofalu am iechyd y genfaint. Yn dilyn hynny, ceir rhagor o gefnogaeth yn y blynyddoedd dilynol ar gyfer adolygu’r cynllun.

Ariennir prosiect Menter Moch Cymru gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae’r fenter newydd hon yn adeiladu ar yr adnoddau gwybodaeth, cefnogi a hyfforddiant rhad ac am ddim y mae’r prosiect yn eu darparu i geidwaid moch yng Nghymru. Mae’r fenter yn gweithredu ymrwymiad y prosiect i helpu ffermwyr i sicrhau effeithiolrwydd ar y fferm ac i wthio arferion gorau’r dulliau rhagweithiol o gynllunio iechyd anifeiliaid.

Meddai Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Llywodraeth Cymru “Mae’r fenter hon i godi ymwybyddiaeth am afiechydon ar ffermydd moch Cymru’n arbennig o bwysig ar hyn o bryd wrth i ni wynebu’r bygythiad o afiechydon datblygol, megis Clwy Affricanaidd y Moch, sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig. Mae Cynllunio Iechyd Moch a bioddiogelwch da’n rhan bwysig o atal cyflwyniad a lledaeniad afiechydon o fewn y genfaint genedlaethol.”

Yn ôl Melanie Cargill, Rheolwr Prosiect Menter Moch Cymru, “Mae cynllunio iechyd y genfaint, dull rhagweithiol a chydlynol o ymdrin ag iechyd anifeiliaid, ynghyd â gwaredu afiechydon, yn gallu cael effaith sylweddol ar effeithiolrwydd ac elw net menter moch.”

“Bydd lansio’r fenter cymorth ariannol newydd hon yn helpu ffermwyr i weithio gyda milfeddygon i roi cynlluniau iechyd ar waith ac i fonitro eu heffeithiolrwydd dros y blynyddoedd nesaf. Mae hwn yn gyfle gwych i geidwaid moch yng Nghymru asesu iechyd eu cenfeintiau a, gyda chymorth eu milfeddygon, sefydlu cynllun iechyd ymarferol sydd wedi’i deilwra i wella cynhyrchiad a phroffidioldeb”

Yn ogystal â hynny, dros y chwe mis diwethaf, mae Menter Moch Cymru mewn partneriaeth â Chanolfan Milfeddygaeth Cymru, Gwasanaeth Iechyd Anifeiliaid ac Iechyd Da, wedi bod yn darparu hyfforddiant CPD sydd wedi’i deilwra’n benodol i Filfeddygon Cymru. Mae’r hyfforddiant hwn yn sicrhau bod y milfeddygon yn hyderus a gwybodus ynglŷn â sut i weithredu cynllun iechyd cenfaint ar gyfer menter moch.

Prif nod cynllun iechyd cenfaint yw hybu lles yr anifeiliaid drwy reoli unrhyw broblemau iechyd a ganfyddir drwy eu hatal. Mae gofalu’n well am iechyd yr anifail yn arwain at well proffidioldeb a pherfformiad gan y genfaint ynghyd â busnes sy’n fwy cynaliadwy.

Ewch i www.mentermochcymru.co.uk i ganfod rhagor.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle