Public invited to drop-in events in the Gwendraeth Valley/Gwahodd y cyhoedd i ddigwyddiadau galw-heibio yng Nghwm Gwendraeth

0
541

Residents in the Gwendraeth Valley are invited to take part in three public drop-in events to share their thoughts on the health board’s plans for a new health and wellbeing centre at Cross Hands.

As part of our commitment to continuous engagement with our local communities, residents will have the opportunity to come and speak with health officials on the following dates:

  • Penygroes Memorial Hall, Waterloo Road, Penygroes SA14 7NP / 4pm-6pm on Tuesday, 2 July 2019
  • Tumble Hall, Heol Y Neuadd, Tumble SA14 7DJ / 4pm-6pm on Monday, 8 July 2019
  • Cross Hands Working Mens’ Club, 41 Llandeilo Road, Cross Hands SA14 6RD / 4pm-6pm on Tuesday 9 July 2019

Rhian Dawson, Interim County Director and Commissioner for Carmarthenshire, said: “Following a number of similar discussions at the start of the year, our local communities in the Gwendraeth Valley have told us that they would like to have further opportunities to talk about our plans for local health and care provision and to see our designs for the new Cross Hands Health and Wellbeing Centre.

“So we’re pleased to once again extend an invitation to anyone who would like to drop in at one of these three events and speak with us about the healthcare issues that matter the most to them. We will continue to reach out to people including our staff, patients, stakeholders, the organisations we work with and the wider population in line with our commitment to continuous engagement.”

Further events will be held across each of the health board’s three counties soon to continuously engage with our population.

Gwahodd y cyhoedd i ddigwyddiadau galw-heibio yng Nghwm Gwendraeth

Gwahoddir preswylwyr yng Nghwm Gwendraeth i gymryd rhan mewn tri digwyddiad galw heibio cyhoeddus i rannu eu barn ynghylch cynlluniau’r bwrdd iechyd ar gyfer canolfan iechyd a lles newydd yn Cross Hands.

Yn rhan o’n hymrwymiad i ymgysylltu’n barhaus â’n cymunedau lleol, bydd gan breswylwyr gyfle ar y dyddiadau canlynol i ddod i siarad â swyddogion iechyd:

  • Neuadd Goffa Pen-y-groes, Heol Waterloo, Pen-y-groes SA14 7NP / 4 pm-6pm ddydd Mawrth 2 Gorffennaf 2019
  • Neuadd y Tymbl, Heol y Neuadd, Y Tymbl SA14 7DJ / 4 pm-6pm ddydd Llun 8 Gorffennaf 2019
  • Clwb Gweithwyr Cross Hands, 41 Heol Llandeilo, Cross Hands SA14 6RD / 4 pm-6pm ddydd Mawrth 9 Gorffennaf 2019

Dywedodd Rhian Dawson, Cyfarwyddwr a Chomisiynydd Dros Dro Sir Gaerfyrddin: “Yn dilyn nifer o drafodaethau tebyg ddechrau’r flwyddyn, mae ein cymunedau lleol yng Nghwm Gwendraeth wedi dweud wrthym y byddent yn hoffi cael rhagor o gyfleoedd i siarad am ein cynlluniau ar gyfer darparu iechyd a gofal lleol, ynghyd â gweld ein dyluniadau ar gyfer Canolfan Iechyd a Lles newydd Cross Hands.

“Felly, rydym yn falch, unwaith eto, o allu estyn gwahoddiad i unrhyw un a hoffai alw heibio i un o’r tri digwyddiad hyn, a siarad â ni am y materion gofal iechyd sydd bwysicaf iddynt. Byddwn yn parhau i estyn allan at bobl, gan gynnwys ein staff, ein cleifion, ein rhanddeiliaid, y sefydliadau yr ydym yn gweithio gyda nhw a’r boblogaeth ehangach, yn unol â’n hymrwymiad i ymgysylltu’n barhaus.”

Cynhelir rhagor o ddigwyddiadau yn fuan, ledled pob un o dair sir y bwrdd iechyd, er mwyn ymgysylltu’n barhaus â’n poblogaeth.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle