Gwasgu’r Ddynad

0
486

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn eich hannog i ‘Fod yn Garedig i’r Ddynad’ fel rhan o’i hwythnos o ddathlu planhigion a iechyd.

Mae ‘Meddyginiaethau Mis Mai’ yn ddigwyddiad blynyddol yng nghalendr yr Ardd, ac eleni mae’n canolbwyntio ar sut y gwnaeth ein cyndadau ddefnyddio planhigion meddyginiaethol – yn ôl yn y 1600au, pan sefydlwyd y Neuadd Middleton gyntaf ar sail cyfoeth yr anturiaethwyr morwrol a fasnachai sbeisys yn India’r Dwyrain (Mai 3-4).

Nid pawb sy’n gwybod heddiw bod ystad yr Ardd bresennol wedi’i seilio ar yr elw a wnaethpwyd o brynu a gwerthu nytmeg, mês a chlofs, fwy na phedair canrif yn ôl, a byddwn yn adrodd stori teulu’r Middleton o gyfoeth anhygoel, dewrder a thrychineb yn y frwydr yn erbyn y pla.

Mae’r digwyddiad hwn, sy’n teithio drwy amser, yn cymryd hoe ym 1824, pan fo ystad Raglywiaethol Middleton yn cael ei gwerthu’n dilyn marwolaeth Syr William Paxton, a greodd nifer o’r nodweddion ry’n ni’n eu gweld yn yr Ardd heddiw (Mai 10-11). Cyflwynodd blanhigion newydd ac ecsotig i’r Ardd, ffrwythau anarferol i’r cyfnod a llwyni a fewnforwyd, ynghyd â phînafalau chwedlonol Paxton, a oedd yn fwy o gywreinbethau a thestun sgwrs na danteithion blasus.

Ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Mai 17-18, ymlwybrwch o amgylch yr Ardd er mwyn cyfarfod â phobl, llefydd a phlanhigion a gysylltir â chyfnod 1914, pan oedd y lle’n ferw gwyllt o newyddion am y rhyfel oedd i ddod. Yn y cyfnod hwnnw hefyd, yn y dyddiau cyn-benisilin hynny, roedd planhigion i chwarae rhan ganolog, meddyginiaethol, yn y gyflafan oedd i ddod, pan oedd triniaethau traddodiadol gymaint yn fwy na ‘choelion gwrachod.’

Mae gwerth mis cyfan o sgyrsiau, llwybrau, hwyl a gemau – ond y tro yn y gynffon hon yw penwythnos ‘Bod yn Garedig i Ddynad’ (Mai 24-25) pan allwch ymuno â’r meddyg llysieuol modern, Nicola Dee Kelly, a darganfod y defnyddiau rhyfeddol o lysiau’r Urtica dioica. Pam na brofwch chi darten sawrus ddynad Nicola a cheisio bragu cwrw dynad?

Mae gennym hefyd rysáit ryfeddol y chwilotwraig, yr awdur a’r arbenwraig o Aberhonddu, Adele Nozedar:

Pwdin Briwsion Madarch Dynad

Cynhwysion

  • 900g (2bwys) pennau dynad
  • 225g (8 owns) madarch
  • Olew’r Olewydd
  • 300ml (1/2 peint) saws gwyn
  • Sesnin
  • 100g (4 owns) briwsion bara
  • 50g (2 owns) cnau cymysg wedi’u hollti
  • 2 ewin garlleg wedi’u gwasgu
  • 50g (2 owns) caws wedi’i gratio
  • Talp mawr o fenyn.

Dull

  1. Cynheswch y ffwrn ymlaen llaw i 180c.
  2. Coginiwch y dynad fel y byddech yn coginio sbigoglys, gan ei thwymo gan gymaint ddŵr i’w gorchuddio’n unig. Draeniwch ef, ac wedyn ffrio’n ysgafn y madarch wedi’u hollti yn yr olew. Cymysgwch y madarch, y dynad a’r saws gwyn gyda’i gilydd, ac ychwanegu pinsiad o nytmeg. Sesnwch a’i llwyo i ddysgl sy’n dal gwres.
  3. Cymysgwch weddill y cynhwysion gyda’i gilydd a gorchuddio’r gymysgfa ddynad. Sesnwch unwaith eto ac wedyn eu pobi am tua hanner awr neu tan i’r topin euro a chodi.

A dyma rai o ffeithiau hynod Adele am ddynad:

  • Mae dynad yn llawn protein a fitamin C
  • Mae colyn y ddynad yn cael ei ddileu drwy ei goginio
  • Ystyrir bod y colyn yn effeithiol yn gwrthsefyll gwynegon a llid y cymalau.
  • Cynaeafwch y pennau ifainc yn unig.
  • Defnyddiwch fenig bob amser wrth gynaeafu.
  • Profwch nhw wedi’u hollti mewn omled (gyda dail garlleg gwyllt)
  • Neu mewn parseli ffilo arddull Groegaidd gyda chaws ffeta
  • Defnyddiwyd ffeibrau dynad er mwyn gwneud gwisg byddin yr Almaenwyr yn y Rhyfel Mawr.

*Am fwy o ryseitiau dynad a thriniaethau a defodau’n ymwneud â planhigion, prynwch lyfr Adele The Hedgerow Handbook – y cydymaith delfrydol ar gyfer cerdded yn y wlad a chwilota’r gwrychoedd

* Meddyginiaethau yn Mis Mai yn cael ei gefnogi gan Cyfoeth Naturiol Cymru


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle