Whatever tomorrow looks like, it’s time to plan for the future now! Visit us at the Royal Welsh Show to have your say!

0
503
Royal Welsh Show 2017: Generic scenes and images from the 2017 Royal Welsh Show in Builth Wells, Powys. Specifically, the Farming Connect & WAG stands, the showing of livestock, the woodland & forestry display areas, crowds in attendance and generic images illustrating the yearly gathering of agricultural related industries and the farming community. Pic by: RICHARD STANTON. Tel: (01432) 358215 / Mob: (07774) 286733. Email: Rich5@compuserve.com All rights 25/07/17, (please see terms of repro use). www.stantonphotographic.com FOR FULL PRESS RELEASE PLEASE CALL: Manon Llwyd Rowlands, Marketing and Communications Manager - Farming Connect on 01248 660078 / 07985 379903 / manon.llwyd@menterabusnes.co.uk

Farming Connect’s focus at this year’s Royal Welsh Show (22-25 July, Llanelwedd) will be to showcase the support, guidance, training and mentoring that’s available to farmers and foresters in Wales through its unique ‘one stop shop’ multi-faceted programme.  With most services either fully-funded or subsidised by up to 80%, this is an opportunity which more than 10,000 businesses have benefited from.

Eirwen Williams, director of rural programmes with Menter a Busnes, which together with Lantra Wales, delivers Farming Connect on behalf of the Welsh Government,  says that with the current political and economic uncertainties, there has never been a more important time for the industry, especially business owners, to prepare for the future and ensure that every business achieves its potential across all areas of working.

“At this year’s Royal Welsh Show, we will be launching the names and locations of the recently recruited demonstration site network businesses.

“We hope you’ll visit us at the Lantra Building (Avenue K) where our technical teams and regional development officers will be seeking industry feedback as we plan the next round of trials and projects for the new demonstration network to undertake as part of its three-year delivery cycle.

“Trial different systems now so that you can implement them with confidence and knowledge in the furture” will be our mantra as we plan a comprehensive programme of open days and events to ensure the industry keeps abreast of up to date research, cutting edge technologies and innovative, more efficient and profitable ways of working,” says Mrs Williams.

If you have any suggestions or ideas on how agriculture can contribute to the Welsh Government’s target of a million Welsh speakers by 2050 and an opinion about the ‘best things’ in rural Wales, you should take a few minutes to visit the Farming Connect Agri-Booth, also in the Lantra building.  Part of Farming Connect’s ‘Iaith y pridd/Language of the land’ initiative which encourages Welsh businesses to add value to their produce through use of the Welsh language and heritage, and is an opportunity to enjoy ‘lights, camera, action’ as you make your views known to help shape the future delivery of Welsh language services for the industry.

You have the opportunity to ‘meet a mentor’ each day of the show at 2.30pm, which Farming Connect hopes will encourage you to apply for up to 22.5 hours of fully-funded independent support on any particular challenges or concerns you might have.  Visit the Farming Connect website to find out more about this popular initiative.

The stand will include information leaflets, podcasts and videos which will bring you up to speed with a wide range of topics, as well as booklets on farm health and safety.

“Unfortunately, farming has the highest number of workplace accidents than almost any other sector. We encourage you to take home our handy booklets, and if you or even just one family member spends a few minutes reading it and takes a few simple precautions, you’ll have helped reduce the risks of an on-farm accident. Families may also want to seek out the popular ‘kids’ corner’ which will run daily competitions to help children identify potential danger areas on farms,” said Mrs Williams.

Farming Connect is delivered by Menter a Busnes and Lantra Wales and funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.

Farming Connect, which is delivered by Menter a Busnes and Lantra, is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and Welsh Government.

Waeth sut fydd yfory, mae’n bryd cynllunio ar gyfer y dyfodol nawr! Dewch i’n gweld yn Sioe Frenhinol Cymru i ddweud eich dweud!

 Pwyslais Cyswllt Ffermio yn y Sioe Frenhinol eleni (22-25 Gorffennaf, Llanelwedd) fydd dangos y gefnogaeth, cyfarwyddyd, hyfforddiant a mentora sydd ar gael i ffermwyr a choedwigwyr yng Nghymru trwy ei raglen ‘siop un stop’ amlochrog unigryw.  Gyda’r rhan fwyaf o’r gwasanaethau naill ai wedi eu hariannu’n llawn neu gyda chymhorthdal o hyd at 80%, mae hwn yn gyfle y mae dros 10,000 o fusnesau wedi cael budd ohono.

O ystyried yr ansicrwydd economaidd a gwleidyddol presennol, mae Eirwen Williams, cyfarwyddwr rhaglenni gwledig gyda Menter a Busnes, sy’n darparu Cyswllt Ffermio gyda Lantra Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, yn dweud na fu amser pwysicach erioed i’r diwydiant, perchenogion busnes yn arbennig, baratoi ar gyfer y dyfodol a sicrhau bod pob busnes yn cyflawni ei botensial ar draws pob maes.

“Yn y Sioe Frenhinol eleni, byddwn yn lansio enwau a lleoliadau’r rhwydwaith o fusnesau a recriwtiwyd fel safleoedd arddangos.

“Rydym yn gobeithio y byddwch yn dod i’n gweld yn Adeilad Lantra (Rhes K) lle bydd ein timau technegol a’n swyddogion datblygu rhanbarthol yn ceisio cael ymateb y diwydiant wrth i ni gynllunio’r rownd nesaf o dreialon a phrosiectau ar gyfer y rhwydwaith arddangos fel rhan o’r cylch cyflwyno tair blynedd.

“Profwch heddiw y gwahanol systemau y gallwch eu gweithredu yn hyderus a gwybodus yfory” fydd ein mantra wrth i ni gynllunio rhaglen gynhwysfawr o ddyddiau agored a digwyddiadau i sicrhau bod y diwydiant yn dysgu oddi wrth yr ymchwil mwyaf cyfredol, y dechnoleg fwyaf blaengar a ffyrdd arloesol, mwy effeithlon a phroffidiol o weithio,” dywedodd Mrs Williams.

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau ar sut y gall amaethyddiaeth gyfrannu at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a barn am y ‘pethau gorau’ yn y Gymru wledig, dylech roi eich amser i ymweld â Bwth Amaeth Cyswllt Ffermio, yn adeilad Lantra hefyd.  Mae’n rhan o gynllun ‘Iaith y pridd’ Cyswllt Ffermio sy’n annog busnesau Cymru i ychwanegu gwerth at eu cynnyrch trwy ddefnyddio’r iaith a’r dreftadaeth Gymreig, mae’n gyfle i chi roi eich barn i helpu i siapio’r gwasanaethau Cymraeg a roddir i’r diwydiant yn y dyfodol.

Bydd cyfle i chi ‘gyfarfod mentor’ bob dydd yn y sioe am 2.30pm, ac mae Cyswllt Ffermio yn gobeithio y bydd hyn yn eich annog i ymgeisio am hyd at 22.5 awr o gefnogaeth annibynnol wedi ei hariannu yn llawn ar unrhyw sialensiau penodol neu bryderon all fod gennych.  Ewch i wefan Cyswllt Ffermio i ddysgu rhagor am y cynllun poblogaidd hwn.

Bydd y stondin yn cynnwys taflenni gwybodaeth, podlediadau a fideos a fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am amrediad o faterion, yn ogystal â llyfrynnau am iechyd a diogelwch ar y fferm.

“Yn anffodus, mae gan amaethyddiaeth nifer uwch o ddamweiniau yn y gweithle na bron unrhyw sector arall. Rydym yn eich annog i ddod i’r stondin a chymryd un o’n llyfrynnau defnyddiol. Hyd yn oed os mai dim ond un o aelodau eich teulu fydd yn darllen ac yn cymryd rhai camau syml, byddwch wedi helpu i leihau’r risg o ddamwain ar y fferm.  Yn ogystal, efallai y bydd teuluoedd yn dymuno troi at y ‘gornel blant’ boblogaidd, lle y cynhelir cystadlaethau dyddiol er mwyn helpu plant i adnabod safleoedd peryglus posibl ar ffermydd,” dywedodd Mrs Williams.

Darperir Cyswllt Ffermio gan Menter a Busnes a Lantra Cymru ac fe’i ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Mae Cyswllt Ffermio, sy’n cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle