Wales returns to the world’s biggest celebration of Celtic cultures/Cymru’n dychwelyd i’r dathliad mwyaf yn y byd o ddiwylliannau Celtaidd

0
502

Wales returns to the world’s biggest celebration of Celtic cultures.

 Following last year’s hugely successful ‘Year of Wales’ at the Festival Interceltique de Lorient in Brittany, Wales is once more represented by a strong delegation of performers in the world’s biggest celebration of Celtic arts and culture, taking place this year between 2nd -11th August.

 Arts Council of Wales, supported by the Welsh Government, has put together a strong programme featuring 10 music acts and an exhibition of photography. The main festival programme includes appearances by The Trials of Cato, NoGood Boyo, harpist Gwen Màiri and Aber Valley Male Voice Choir. They will also be performing at the Wales Pavilion alongside Ofelia, Lowri Evans & Lee Mason, Sera, VRï, Kizzy Crawford and for the first time, the National Youth Folk Ensemble of Wales AVANC. A series of images by award-winning photographer Glenn Edwards, that chart the journey from north to south Wales along the A470, will be displayed in the Euro Celtic Art exhibition.

Antwn Owen-Hicks, Delegation Leader for Wales and project manager for the Welsh Government backed presence said: “Once again, we’re presenting a strong programme of artists that reflects the ongoing confidence and development in our music and culture, providing a great legacy for the Year of Wales in 2018. There’s always a lot of interest in the Welsh artists amongst the Festival’s audiences and our programme this year will provide an opportunity for them to discover some great new music.”

UNESCO has designated 2019 as the International Year of Indigenous Languages. The Arts Council of Wales is supporting the Welsh Government to raise the profile of the Welsh language and other indigenous languages by uniting with UNESCO to protect and celebrate the wide-variety of indigenous languages around the world. Our programme at Lorient will feature Welsh language artists, performing in a variety of styles and genres, to highlight our vibrant, living language.

The Wales Pavilion, in the centre of the Festival, provides visitors with an opportunity to listen to music performances throughout the day and into the early hours, enjoy some Welsh beers and discover Wales as a great tourism destination.

Sera is an artist who was recently been selected for the BBC Gorwelion/Horizons scheme, which is supporting her performances at the Festival. AVANC is a project run by trac, Wales’ folk development agency, which will also be supporting the band’s performances at the Festival.

The Wales Pavilion will be designed and run by Cardiff-based production company Orchard, who will also be making a one-hour programme about the festival for S4C.

Cymru’n dychwelyd i’r dathliad mwyaf yn y byd o ddiwylliannau Celtaidd.

 Yn dilyn llwyddiant ysgubol ‘Blwyddyn Cymru’ y llynedd yn y Festival Interceltique de Lorient yn Llydaw, caiff Cymru ei chynrychioli unwaith eto gan gynrychiolaeth gref o berfformwyr yn y dathliad mwyaf yn y byd o gelf a diwylliant Celtaidd, a fydd yn digwydd eleni rhwng 2 a 11 Awst.

 Mae Cyngor Celfyddydau Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, wedi llunio rhaglen gref sy’n cynnwys 10 act gerddorol ac arddangosfa o ffotograffiaeth. Mae prif raglen yr ŵyl yn cynnwys ymddangosiadau gan The Trials of Cato, NoGood Boyo, y delynores Gwen Màiri a Chôr Meibion Aber Valley. Byddant hefyd yn perfformio ym Mhafiliwn Cymru gydag Ofelia, Lowri Evans a Lee Mason, Sera, VRï, Kizzy Crawford ac, am y tro cyntaf, AVANC, Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru. Bydd cyfres o ddelweddau gan y ffotograffydd Glenn Edwards, sydd wedi ennill llu o wobrau, yn cael eu dangos yn yr arddangosfa Celf Ewro Geltaidd, yn nodi’r daith o’r gogledd i’r de ar hyd yr A470.

Dywedodd Antwn Owen-Hicks, sy’n arwain Cynrychiolaeth Cymru, ac sy’n rheolwr y prosiect a gefnogir gan Lywodraeth Cymru: “Unwaith eto, rydym yn cyflwyno rhaglen gref o artistiaid sy’n adlewyrchu’r hyder parhaus a’r datblygiad yn eich cerddoriaeth a’n diwylliant, sy’n waddol gwych i Flwyddyn Cymru 2018. Mae yna wastad ddiddordeb mewn artistiaid o Gymru ymysg cynulleidfaoedd yr Ŵyl a bydd ein rhaglen eleni yn gyfle iddynt ddarganfod cerddoriaeth newydd wych.”

Mae UNESCO wedi dynodi 2019 yn Flwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cefnogi Llywodraeth Cymru i godi proffil y Gymraeg ac ieithoedd brodorol eraill drwy uno ag UNESCO i ddiogelu a dathlu’r amrywiaeth eang o ieithoedd brodorol o amgylch y byd. Bydd ein rhaglen yn Lorient yn cynnwys artistiaid Cymraeg, yn perfformio mewn amrywiaeth o ddulliau a ffurfiau, er mwyn tynnu sylw at ein hiaith fyw, ffyniannus.

Mae Pafiliwn Cymru, yng nghanol yr Ŵyl, yn cynnig cyfle i ymwelwyr wrando ar berfformiadau cerdd drwy’r dydd tan oriau mân y bore, mwynhau cwrw Cymreig a darganfod Cymru fel cyrchfan wych i dwristiaid.

Mae Sera yn artist a gafodd ei dewis yn ddiweddar ar gyfer cynllun Gorwelion/Horizons y BBC, sy’n cefnogi ei pherfformiadau yn yr Ŵyl. Mae AVANC yn brosiect gan trac, sef asiantaeth datblygu traddodiadau gwerin Cymru, ac a fydd, hefyd, yn cefnogi perfformiadau’r band yn yr Ŵyl.

Caiff Pafiliwn Cymru ei ddylunio a’i weithredu gan y cwmni cynhyrchu Orchard o Gaerdydd, a fydd yn gwneud rhaglen awr o hyd o’r Ŵyl ar gyfer S4C.

 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle