Hud a hwyl ar Ddiwrnod y Tadau

0
483

Mae mynediad am ddim i dadau ar Ddiwrnod y Tadau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, sydd yn cynllunio diwrnod o hud a lledrith gydag anifeiliaid ar gyfer y diwrnod arbennig hwn.

Mae taith o amgylch Gorllewin Cymru y merlod bychain, y Falabellas o Fferm Marchros, yn aros yn yr Ardd, a bydd diwrnod arall rhyfeddol o ‘Gwrdd â’r Mïrgathod’ yn cael ei gynnal – felly, blant, mae Mehefin 15 yn bendant yn ddyddiad i gofio i fynd gyda’ch tad i’r Ardd.

Mae’r swynwr o Fferm Folly, Luke Jugglestruck, hefyd yn ymuno â ni, ac felly bydd sioeau arbennig i’w gweld yn Theatr yr Ardd drwy gydol y diwrnod hefyd.

Mae hyn i gyd yn argoeli bod yr anrheg Diwrnod y Tadau ddelfrydol – i’r teulu i gyd!

Os nad y’ch am golli’r digwyddiadau eraill yn yr Ardd, pam na rowch chi anrheg ychwanegol i Dad a phrynu aelodaeth blynyddol iddo (prisiau’n dechrau o £36)

Mae’r Ardd ar agor rhwng 10yb a 6yh, ac mae mynediad am ddim i dadau (a thadau-cu) ar Ddiwrnod y Tadau.

Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ewch i www.gardenofwales.org.uk , e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk , neu galwch 01558 667149.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle