Make your family farm a safer place! Wales Farm Safety Partnership urges farming families to keep children safe on Welsh farms this summer.

0
485

Over the next few months, the Wales Farm Safety Partnership (WFSP), together with all other Farm Safety Partnerships in the UK, will be urging farming families in Wales to implement practical measures that will help keep children safe on farms.  The advice will be relevant to all family members, farm workers, individuals such as vets and trades people as well as members of the public who pass through.

The WFSP, a collaboration of the key agricultural stakeholder organisations in Wales, is working together to raise awareness of farm safety for families this summer in readiness for the light evenings and school holidays.  A new publicity and communications campaign will urge farming families to be aware of the dangers and take the necessary steps to identify and safeguard against the potential risks to children.

Earlier this year, WFSP appointed two new ‘farm safety ambassadors’ whose task is to encourage all those connected with agriculture to acknowledge the risks and implement best practice within their own businesses.   Part of their role will be to encourage all those involved with farming to tap into the support, guidance and training available.   Alun Elidyr, a presenter on S4C’s Ffermio programme and a farmer himself, together with Ceredigion farmer Glyn Davies, through their day to day work and contacts within their own rural communities, are already working with the WFSP partners and farming families throughout Wales urging them to ‘Stop, think and recognise that all farms contain potential hazards, especially for inquisitive children who often don’t realise the dangers.’

Alun Elidyr says that farms are busy working areas, full of serious hazards and although they are first and foremost a working environment, they are also family homes.  He says it’s essential that farmers try to separate work from home life by ensuring that children are never left unattended and are always with responsible adults who are free to focus entirely on their safety and not distracted by farm work.

“People often mistakenly believe that farm children understand farm risks, but most of those involved in on-farm incidents are family members and sadly, every year we hear of tragic or life-changing accidents involving children, in Wales and throughout the UK,” says Alun.

“Farms must never become playgrounds so all children need somewhere secure and safe to play that is away from the workplace and the risks associated with any typical farm environment.

“Livestock and farm animals; moving vehicles such as cars, ATVs and tractors; machinery; dangerous substances; stacks of hay, straw and silage, silos and slurry pits, ladders and gates – there are of course many more – but these are just a few very typical working areas which can prove fatal to a young and enquiring mind.

“If your children need to enter your place of work, please remember that adult supervision is essential, and such boundaries become even more important during the school holidays and weekends when children spend longer daylight hours at home and are often tempted to venture outside unescorted and sometimes unnoticed by adults.”

Glyn Davies, who is one of Farming Connect’s approved farm safety mentors, says that the Wales Farm Safety Partnership, which recently set up its own Facebook and Twitter channels, wants all rural organisations to urge every farming family to tap into the wealth of guidance, support, information and training available on farm safety. Find out more by visiting Farming Connect (www.gov.wales/farmingconnect) which offers training courses as well as fully-funded confidential one-to-one mentoring on farm safety and EASI (www.quadsafety.org), an organisation which offers specialist ATV training courses.

“If we all work together as an industry, spread the word of how essential it is to make sure your farm is safe and that family members each take responsibility for staying within the law and safeguarding children, then we should be able to reduce the number of tragic incidents that happen year after year.”

For further information on making your farm a safe place for children, visit the Health & Safety Executive website at http://www.hse.gov.uk/agriculture/topics/children.htm

Top tips for keeping children safe on the farm and keeping the right side of the law:

  • Keep children out of the workplace – create a dedicated safe and secure fenced outdoor play area for younger children who must be kept off the farm.
  • Ensure children under 16 (including those on work experience or educational visits) are supervised at all times by a responsible adult whose focus is only on them and who is not undertaking farm work at the same time.
  • Don’t allow a child under 13 to ride on or drive any agricultural self-propelled machines (such as tractors and ATVs) or use other farm machinery.  If you do, you are breaking the law. 
  • You need a risk assessment if you employ young people under the age of 18.  You will need to take full account of their inexperience, immaturity and lack of awareness of relevant risks.  If you don’t, you are breaking the law!
  • Prevent access to dangerous areas and height.
  • Keep children away from machinery and vehicles.
  • Keep children at a safe distance from livestock.
  • Keep chemicals and tools properly stored, locked away and out of reach.

Sicrhewch fod eich fferm deuluol yn lle mwy diogel! Mae Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru yn annog teuluoedd fferm i gadw plant yn ddiogel ar ffermydd Cymru yn ystod yr haf eleni.

Dros y misoedd nesaf, bydd Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru (WFSP), ynghyd â’r holl Bartneriaethau Diogelwch Fferm eraill yn y DU, yn annog teuluoedd fferm yng Nghymru i gymryd mesurau ymarferol a fydd yn helpu i gadw plant yn ddiogel ar ffermydd.  Bydd y cyngor yn berthnasol i bob aelod o’r teulu, gweithwyr fferm, unigolion fel milfeddygon a masnachwyr, yn ogystal ag aelodau’r cyhoedd a fydd yn ymweld.

Mae WFSP, partneriaeth rhwng y prif sefydliadau rhanddeiliaid amaethyddol yng Nghymru, yn cydweithio i godi ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y fferm i deuluoedd yn ystod yr haf eleni, cyn y gwyliau ysgol a’r nosweithiau golau.  Bydd ymgyrch gyfathrebu a chyhoeddusrwydd newydd yn annog teuluoedd fferm i fod yn ymwybodol o’r peryglon ac i gymryd y camau angenrheidiol er mwyn nodi’r risgiau posibl i blant a diogelu rhagddynt.

Yn gynharach eleni, penododd WFSP ddau ‘gennad diogelwch ar y fferm’ newydd, y mae gofyn iddynt annog yr holl rai sydd â chyswllt â byd amaeth i gydnabod y risgiau a gweithredu arfer gorau yn eu busnes eu hunain.  Bydd rhan o’u rôl yn cynnwys annog yr holl rai sy’n gysylltiedig ag amaethu i fanteisio ar y cymorth, yr arweiniad a’r hyfforddiant sydd ar gael.  Mae Alun Elidyr, un o gyflwynwyr rhaglen Ffermio ar S4C ac y mae’n ffermwr ei hun, ynghyd â Glyn Davies, ffermwr o Geredigion, eisoes yn gweithio gyda phartneriaid WFSP a theuluoedd fferm ar draws Cymru trwy gyfrwng eu cysylltiadau a’u gwaith o ddydd i ddydd yn eu cymunedau gwledig, gan eu hannog i ‘Stopio, meddwl a chydnabod bod pob fferm yn cynnwys peryglon posibl, yn enwedig i blant chwilfrydig nad ydynt yn aml yn sylweddoli’r peryglon.’

Mae Alun Elidyr yn dweud bod ffermydd yn safleoedd gwaith prysur sy’n llawn peryglon difrifol ac er mai amgylchedd gwaith ydynt yn anad dim, maent yn gartrefi teuluol hefyd.  Mae’n dweud ei bod yn hanfodol bod ffermwyr yn ceisio gwahanu eu bywyd gwaith a’u bywyd cartref trwy sicrhau na fydd plant byth yn cael eu gadael ar eu pen eu hunain a’u bod bob amser yng nghwmni oedolion cyfrifol sy’n rhydd i ganolbwyntio ar eu diogelwch nhw yn llwyr, heb i waith fferm dynnu eu sylw.

“Yn aml, bydd pobl yn credu bod plant sy’n byw ar ffermydd yn deall y risgiau ar ffermydd, ond nid yw hyn yn wir, ac mae’r rhan fwyaf o’r rhai sy’n cael damwain ar y fferm yn aelodau o’r teulu ac mae’n drist nodi ein bod yn clywed bob blwyddyn am ddamweiniau angheuol neu sy’n newid bywyd rhywun ac y maent yn cynnwys plant, yng Nghymru ac ar draws y DU,” dywedodd Alun.

“Ni ddylai ffermydd fyth fod yn lleoedd chwarae, felly mae angen lle diogel i blant chwarae, nad yw’n rhan o’r gweithle a’r risgiau sy’n gysylltiedig ag unrhyw amgylchedd fferm nodweddiadol.

“Da byw ac anifeiliaid fferm;  cerbydau sy’n symud megis ceir, beiciau modur ATV a thractorau;  peiriannau;  sylweddau peryglus;  tasau gwair, gwellt a silwair, seilos a phyllau slyri, ysgolion a gatiau – ac wrth gwrs, mae llawer mwy – ond dyma rai safleoedd gwaith nodweddiadol sy’n gallu bod yn angheuol i feddwl ifanc a chwilfrydig.

“Os bydd angen i’ch plant ddod i’ch man gwaith, cofiwch fod goruchwyliaeth oedolion yn hanfodol, a bydd trefniadau o’r fath yn bwysicach fyth yn ystod y gwyliau ysgol ac ar benwythnosau, pan fydd plant yn treulio mwy o oriau gartref cyn iddi nosi ac yn aml, byddant yn cael eu temtio i fynd allan ar eu pen eu hunain, ac weithiau, ni fydd oedolion yn sylwi arnynt yn mynd.”

 

Dywedodd Glyn Davies, sy’n un o fentoriaid diogelwch fferm cymeradwy Cyswllt Ffermio, bod Partneriaeth Diogelwch Fferm Cymru, sydd wedi sefydlu ei sianelau ei hun ar Facebook a Twitter yn ddiweddar, yn dymuno gweld pob sefydliad gwledig yn annog pob teulu fferm i fanteisio ar swm sylweddol yr arweiniad, y cymorth, y wybodaeth a’r hyfforddiant sydd ar gael ynghylch diogelwch ar y fferm.  I ddarganfod mwy, ewch i wefan Cyswllt Ffermio (www.llyw.cymru/cyswlltffermio) sy’n cynnig cyrsiau hyfforddiant a gwasanaeth mentora un-i-un cyfrinachol ac wedi’i ariannu’n llawn ynghylch diogelwch ar y fferm ac EASI (www.quadsafety.org), sefydliad sy’n cynnig cyrsiau hyfforddiant arbenigol ynghylch beiciau modur ATV.

“Os byddwn oll yn cydweithio fel diwydiant, gan gyfleu’r neges ynghylch pa mor hanfodol yw hi i sicrhau bod eich fferm yn ddiogel a bod aelodau’r teulu yn cymryd cyfrifoldeb dros gydymffurfio â’r gyfraith a diogelu plant, dylem fod yn gallu lleihau nifer y damweiniau trasig sy’n digwydd bob blwyddyn.”

Am wybodaeth bellach ynghylch sicrhau bod eich fferm chi yn lle diogel i blant, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch sef http://www.hse.gov.uk/agriculture/topics/children.htm

Cyngor defnyddiol er mwyn cadw plant yn ddiogel ar y fferm a chydymffurfio â’r gyfraith:

    • Dylid cadw plant allan o’r gweithle – dylech greu lle chwarae diogel penodedig yn yr awyr agored i blant iau, y mae’n rhaid eu cadw oddi ar y fferm, a dylid gosod ffens o’i gwmpas.
    • Dylid sicrhau bod plant dan 16 oed (gan gynnwys y rhai sydd ar brofiad gwaith neu ymweliadau addysgol), yn cael eu goruchwylio bob amser gan oedolyn cyfrifol sy’n canolbwyntio arnyn nhw yn unig ac nad ydynt yn cyflawni gwaith ar y fferm ar yr un pryd.
  • Ni ddylech ganiatáu plentyn dan 13 oed i deithio ar neu yrru unrhyw beiriannau amaethyddol hunanyredig (megis tractorau a beiciau modur ATV) neu ddefnyddio peiriannau eraill ar y fferm. Os byddwch yn gwneud hynny, byddwch yn torri’r gyfraith.
  • Bydd angen i chi gael asesiad risg os byddwch yn cyflogi pobl ifanc dan 18 oed. Bydd angen i chi ystyried eu diffyg profiad, eu hanaeddfedrwydd a’u diffyg ymwybyddiaeth o risgiau perthnasol yn llawn. Os na fyddwch yn gwneud hynny, byddwch yn torri’r gyfraith!
  • Dylid atal mynediad i ardaloedd peryglus ac uchder.
  • Dylid cadw plant i ffwrdd o beiriannau a cherbydau.
  • Dylid cadw plant bellter diogel i ffwrdd o dda byw.

 

  • Dylid storio cemegau ac offer mewn ffordd gywir, dan glo a thu hwnt i gyrraedd.

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle