Pollinator festival – Gŵyl y Peillwyr

0
533
Michael Hodgins at Pexels

Festival focuses on protecting pollinators

There’s another wild weekend of bank holiday fun in store with a special focus on bees, butterflies and other crucial pollinating insects at the National Botanic Garden of Wales’ Pollinator Festival on Saturday August 24th to Monday August 26th.

Pollinating insect numbers have dropped dramatically over the past 30 years, if not longer.  As a centre of world-leading pollinator research and home to approximately half a million honey bees in our Bee Garden a kaleidoscope of tropical butterflies in our Butterfly House – Plas Pilipala, as well as thousands of insect pollinator species, the Botanic Garden is working tirelessly to reverse this worrying trend, and is a natural place to come and learn about bees, butterflies, moths, hoverflies and a host of other fascinating pollinator species.

The Garden’s Pollinator Festival will highlight the work being done to combat this crisis, across Wales and at the Garden, which includes the PhD research being undertaken by Abigail Lowe, Laura Jones and Lucy Witter, under the leadership of the Garden’s Head of Science, Dr Natasha de Vere.  Their work mostly concentrates on which flowers are best for hungry pollinators by collecting samples of pollen from their bodies.

As a member of the Pollinator Taskforce created as part of the Welsh Government Action Plan for Pollinators and a member of the Welsh Beekeepers’ Association, the Garden has a great team of experts to pass on their knowledge.  With around 5,500 different types of native and non-native flowering plants, the National Botanic Garden of Wales is a great outdoor science lab to scientifically test which plants attract particular pollinators, knowledge that can help gardeners and conservationists look after our pollinators now and in the future.

Visitors to the Pollinator Festival will enjoy a packed programme of activities, talks, guided walks, information and trade stands.  The Garden’s Science Team will be holding a ‘BioBlitz’ from the Canolfan Tyfu classrooms and adjacent hay meadow, which forms part of the Waun Las National Nature Reserve, as well as discussing their research projects and showing collected specimens.  Activities for All – activities for adults, children and families – will include bee hotel making sessions, as well as pollinator-themed art and crafts fun.  Organisations joining us for Pollinator Festival include the Wildlife Trust, the Bumblebee Conservation Trust, the Woodland Trust and more, as well as small, local businesses selling products inspired by or by working with pollinators, such as local honey and honey products by Bee Dazzled, cider by Afal y Graig Cider and many more.

The Garden’s Head of Science, Dr Natasha de Vere, said: “Here at the National Botanic Garden of Wales, we love our pollinating insects. So much that we have a whole festival devoted to them! Come and find out all about the organisations that are working hard to help Wales’ pollinators, with stands, talks and workshops, plus a ‘Bioblitz’ for everyone to take part in.  You can also explore our pollinator-themed craft fair with goods and gifts ranging from local honey to handmade ‘bug hotels’.”

Learn more on pollinator-friendly plants to plant in your garden, as well as the most suitable peat-free compost with the help of Growing the Future’s Science Officer, Dr Kevin McGinn, who will be based in the Garden’s Y Pot Blodyn Garden Centre.  The Garden’s volunteer beekeepers will be on hand in the Garden’s iconic Great Glasshouse to tell visitors why we keep bees at the Botanic Garden and to give information on Growing the Future’s courses to any budding beekeepers and fledgling growers.  Pollinator Festival will also be the last opportunity this year to get your hands on some of the Garden’s very own delicious honey, Garden’s Gold, as a limited supply will be made especially available for this event, but when it’s all gone – it’s gone!

Visit the Garden’s Gallery and be amazed by the work of Welsh artist, designer and maker from Cardiff, Annette Marie Townsend.  Annette’s ‘For Safekeeping’ exhibition features wax botanical sculptures of wildflowers and original drawings on copper plates of preserved insect specimens from a museum collection.  She is widely known for her expertise in wax botanical model making and her scientific drawings and sculptures are held in the collections of Amgueddfa Cymru – National Museum Wales.

For any enquiries during the event, there’ll be a dedicated Growing the Future information point based within the Garden, with some amazing supersized, 3D-printed pollen grain models, created in partnership with Cardiff University’s Bioimaging Research Hub.  These pollen models give a fascinating insight into the different structures of pollen from a variety of plants.

The Garden is open from 10am to 6pm with last entry at 5pm.  Admission to the Garden is £14.50 (including Gift Aid) for adults and this includes entry to the British Bird of Prey Centre. Under 5s are free and parking is free for all.

For more information about this or other events, please call 01558 667149 or email gtf@gardenofwales.org.uk.

This event is part of the National Botanic Garden of Wales’ Growing the Future project.  This project has received funding through the Welsh Government Rural Communities – Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.

Follow the Garden onFacebook,Twitter andInstagram

Follow the Growing the Future project onFacebook andTwitter andInstagram

Gŵyl y Peillwyr

Gŵyl sy’n canolbwyntio ar amddiffyn peillwyr

Mae penwythnos gwyllt arall o hwyl gŵyl banc ar y gweill, gyda ffocws arbennig ar wenyn, gloÿnnod byw a phryfed peillio hanfodol eraill, a hynny yng Ngŵyl y Peillwyr Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, a gynhelir ddydd Sadwrn 24 Awst tan ddydd Llun 26 Awst.

Mae nifer y pryfed sy’n peillio wedi gostwng mewn modd dramatig gydol y 30 mlynedd diwethaf, os nad am gyfnod hirach na hynny. A ninnau’n ganolfan sy’n arwain y byd o ran ymchwil i beillwyr, ac yn gartref i oddeutu hanner miliwn o wenyn mêl yn ein Gardd Gwenyn, caleidosgop o loÿnnod byw trofannol yn ein Tŷ Gloÿnnod Byw – Plas Pilipala, a miloedd o rywogaethau o bryfed peillio, mae’r Ardd Fotaneg yn gweithio’n ddiflino i wrthdroi’r duedd bryderus hon. Mae’n lle naturiol i ddod i ddysgu am wenyn, gloÿnnod byw, gwyfynod, pryfed hofran a lliaws o rywogaethau o bryfed peillio eraill.

Bydd Gŵyl y Peillwyr yn tynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfwng hwn, ledled Cymru ac yn yr Ardd, ac sy’n cynnwys ymchwil ddoethuriaeth Abigail Lowe, Laura Jones a Lucy Witter, o dan arweinyddiaeth Pennaeth Gwyddoniaeth yr Ardd, Dr Natasha de Vere. Mae eu gwaith yn canolbwyntio’n bennaf ar ddarganfod pa flodau sydd orau ar gyfer peillwyr llwglyd, ac mae’n cael ei gyflawni trwy gasglu samplau o baill o’u cyrff.

A hithau’n aelod o’r Tasglu Pryfed Peillio a grëwyd yn rhan o Gynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Peillwyr ac yn aelod o Gymdeithas Gwenynwyr Cymru, mae gan yr Ardd dîm gwych o arbenigwyr i drosglwyddo eu gwybodaeth. Gyda tua 5,500 o fathau gwahanol o blanhigion blodeuol brodorol ac anfrodorol ynddi, mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn labordy gwyddoniaeth awyr agored gwych i brofi, mewn modd gwyddonol, pa blanhigion sy’n denu peillwyr penodol, gan ddarparu gwybodaeth a all helpu garddwyr a chadwraethwyr i ofalu am ein peillwyr nawr ac yn y dyfodol.

Bydd ymwelwyr â Gŵyl y Peillwyr yn mwynhau rhaglen lawn dop o weithgareddau, sgyrsiau, teithiau cerdded tywysedig, gwybodaeth a stondinau masnach. Bydd Tîm Gwyddoniaeth yr Ardd yn cynnal ‘BlitsBio’, a gynhelir yn ystafelloedd dosbarth a dôl wair gyfagos y Ganolfan Tyfu sy’n ffurfio rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, yn ogystal â thrafod eu prosiectau ymchwil a dangos sbesimenau yn eu casgliadau. Bydd Gweithgareddau i Bawb – sef gweithgareddau ar gyfer oedolion, plant a theuluoedd – yn cynnwys sesiynau gwneud gwesty gwenyn, yn ogystal â hwyl celf a chrefft ar y thema peillwyr. Mae’r sefydliadau a fydd yn ymuno â ni ar gyfer Gŵyl y Peillwyr yn cynnwys yr Ymddiriedolaeth Natur, Ymddiriedolaeth Gadwraeth Cacwn, Coed Cadw a rhagor, yn ogystal â busnesau bach, lleol a fydd yn gwerthu cynnyrch sydd wedi’u hysbrydoli gan beillwyr neu trwy weithio gyda pheillwyr. Mae enghreifftiau’n cynnwys mêl a chynnyrch mêl gan Bee Dazzled, seidr gan Seidr Afal y Graig, a llawer rhagor.

Dywedodd Pennaeth Gwyddoniaeth yr Ardd, Dr Natasha de Vere: “Yma yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, rydym yn caru ein pryfed peillio, a hynny i’r fath raddau fel bod gennym ŵyl gyfan wedi ei neilltuo ar eu cyfer! Dewch draw i gael gwybod am y sefydliadau sy’n gweithio’n galed i helpu peillwyr Cymru. Bydd yna stondinau, sgyrsiau a gweithdai, yn ogystal â ‘BlitsBio’ i bawb gymryd rhan ynddo. Gallwch hefyd archwilio ein ffair grefftau ar y thema peillwyr, lle bydd nwyddau ac anrhegion ar gael a fydd yn amrywio o fêl lleol i ‘westai bygiau’ wedi eu gwneud â llaw”.

Dysgwch fwy am blanhigion cyfeillgar i beillwyr i’w plannu yn eich gardd, yn ogystal ag am y compost di-fawn mwyaf addas, a hynny gyda chymorth y Swyddog Gwyddoniaeth Tyfu’r Dyfodol, Dr Kevin McGinn, a fydd yng Nghanolfan Arddio y Pot Blodyn yn yr Ardd. Bydd gwenynwyr gwirfoddol yr Ardd wrth law yn y tŷ gwydr eiconig, Y Tŷ Gwydr Mawr, i ddweud wrth ymwelwyr pam yr ydym yn cadw gwenyn yn yr Ardd Fotaneg ac i roi gwybodaeth am gyrsiau Tyfu’r Dyfodol i unrhyw egin-wenynwyr a thyfwyr newydd. Gŵyl y Peillwyr hefyd fydd y cyfle olaf eleni i gael gafael ar beth o fêl blasus yr Ardd, Aur yr Ardd. Bydd cyflenwad cyfyngedig yn cael ei ddarparu’n arbennig ar gyfer y digwyddiad, a phan fydd hwnnw wedi mynd, bydd y cyfan wedi mynd!

Ewch i ymweld ag Oriel yr Ardd a chael eich syfrdanu gan waith y Gymraes o Gaerdydd, Annette Marie Townsend – yr artist, y dylunydd a’r wneuthurwraig. Mae arddangosfa Annette, ‘For Safekeeping’ yn cynnwys cerfluniau botanegol cwyr o flodau gwyllt, a darluniau gwreiddiol ar blatiau copr o sbesimenau pryfed cadw o gasgliad amgueddfa. Mae Annette yn adnabyddus am ei harbenigedd mewn llunio modelau botanegol o gŵyr, ac mae ei darluniau a cherfluniau gwyddonol yn cael eu cadw yng nghasgliadau Amgueddfa Cymru.

Bydd yna fan gwybodaeth Tyfu’r Dyfodol pwrpasol wedi’i leoli yn yr Ardd ar gyfer unrhyw ymholiadau yn ystod y digwyddiad, a bydd yn cynnwys modelau enfawr 3D printiedig o rawn paill, wedi’u creu mewn partneriaeth â Hwb Ymchwil Bioddelweddu Prifysgol Caerdydd. Mae’r modelau hyn o baill yn rhoi darlun cyfareddol o’r adeileddau gwahanol sy’n perthyn i baill o amrywiaeth o blanhigion.

Bydd yr Ardd yn agored rhwng 10am a 6pm, a bydd y mynediad olaf am 5pm. Y Pris Mynediad i’r Ardd ar gyfer oedolion fydd £14.50 (yn cynnwys Cymorth Rhodd), ac mae hyn hefyd yn cynnwys mynediad i  Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydain. Mae mynediad i blant dan 5 oed am ddim, ac mae parcio hefyd yn rhad ac am ddim i bawb.

I gael rhagor o wybodaeth am hyn neu ddigwyddiadau eraill, ffoniwch 01558 667149 neu anfonwch neges e-bost i gtf@gardenofwales.org.uk.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o brosiect Tyfu’r Dyfodol Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae’r prosiect wedi cael cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

 

Dilynwch yr Ardd ar Facebook, Twitter ac Instagram

Dilynwch y prosiect Tyfu’r Dyfodol ar Facebook a Twitter ac Instagram


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle