Rydym yn chwilio am yrwyr gwirfoddol i yrru bws mini hygyrch i helpu pobl i deithio o amgylch Maes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Bydd y bws mini yn darparu gwasanaeth ar gyfer pobl anabl, yr henoed a phobl eraill sydd yn cael anhawster symud o gwmpas y Maes.
Mae’n rhaid i’r gyrwyr gael trwydded yrru lawn gyda chategori D1 ond rhoddir hyfforddiant a bydd yn rhaid i chi fynychu asesiad gyrru. Bydd angen gwirfoddolwyr o 9:30 y bore tan 22:30 yr hwyr am yr wythnos gyfan. Bydd gwirfoddolwyr yn derbyn tocynnau mynediad yn rhad ac am ddim a thocynnau bwyd.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli ddanfon neges at iaithgymraeg@sirgar.gov.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle