Y’ch chi’n hoff o goed? Nid yw Gŵyl Goed Cymru (Awst 16-17) felly yn ddigwyddiad i’w golli.
Popeth o fynd am dro’n dawel a sgwrs ar bathewod, i ddiasbedain swnllyd diesel yn erbyn y graen y cerfiwr llif gadwyn – dyna sy’n debyg o ddigwydd yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol dros y penwythnos.
Mae’r trefnydd a swyddog dehongli’r Ardd, Bruce Langridge, yn edrych ymlaen i benwythnos arall o goed gogoneddus a phren penigamp. Meddai Bruce: “Mae hwn bob tro yn ddigwyddiad poblogaidd ac yn benwythnos hwyliog, ac mae llawer o bethau nad y’n ni’n gwybod, ac mae angen inni wybod, am goed. Hoffwn feddwl fod gan y digwyddiad hwn rywbeth at ddant pawb.”
Ac edrych ar yr arlwy eleni, mae’n anodd anghytuno: mae sgyrsiau ar bren, helfa chwilod y coed, cerfiwr llwyau caru, gwneuthurwyr offerynnau cerddorol, cerfio ffyn, turnio pren, plethu helyg, ynghyd â theithiau cerdded yng nghoetir rhyfeddol yr Ardd a’r cyffiniau.
Mae pob gweithgaredd yng Ngŵyl Coed Cymru yn rhad ac am ddim gyda’r tâl mynediad arferol i’r Ardd, sy’n £8.50 i oedolion, £7 i’r henoed, £4.50 i blant (5-16), plant o dan 5 am ddim. Mae tocyn deuluol (dau oedolyn ac hyd at bedwar plentyn) yn £21.
Am fwy o wybodaeth am hwn a digwyddiadau eraill yn yr Ardd, ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle