Thousands of Ceredigion residents have successfully completed their census rehearsal questionnaire. But households who missed Sunday’s rehearsal day shouldn’t worry – there is still have plenty of time to get involved.
The census takes place every ten years and hosting an operational rehearsal in key areas like Ceredigion can help ensure that processes run smoothly when it comes to the national event.
In the next few days, census field staff will be out following up with households who have not yet responded, encouraging and advising on different ways people can get the support they need.
“I want to give a big thank you to everyone in Ceredigion who has completed their questionnaire and encourage anyone who hasn’t had a chance to do so this week,” deputy national statistician Iain Bell said.
“The people of Ceredigion who have taken part will all be helping to ensure the overall success of the 2021 Census and so we encourage anyone who hasn’t responded yet to keep an eye out for our census field staff next week.
“They will all carry identity cards so you can be sure they are officially working on the census.”
Ceredigion was chosen as one of just four areas for the census rehearsal, which will enable the ONS to test some of the systems and processes it has put in place ahead of the digital-first 2021 Census.
Completing the census is easy. Households can do it on a computer, phone or tablet and there is help available for those who need it. If people want to respond on a paper questionnaire, they can. Individual forms are also available on request.
For face-to-face assistance completing the census questionnaire online, visit Aberystwyth Library, in Queen’s Square, from 9:30am to 4:30pm Monday to Friday. Or head to Ceredigion Mobile Library Service, which visits towns and villages across the area every week.
The more people who respond now in Ceredigion, the more accurate information the ONS will have to plan for the success of the national event which helps inform vital public services such as the number of children’s school places, hospital and GP services and social care provision.
A range of accessible support is available for members of the public at census.gov.uk. People can also call 0800 141 2021, text 86677 or tweet @census2021help. An interpretation service is also available on 0800 587 2021.
Nid yw’n rhy hwyr i gymryd rhan yn ymarfer y cyfrifiad
Mae miloedd o drigolion Ceredigion wedi cwblhau holiadur ymarfer y cyfrifiad yn llwyddiannus. Ond ni ddylai unrhyw gartrefi a gollodd ddiwrnod yr ymarfer ddydd Sul boeni – mae digonedd o amser i gymryd rhan o hyd.
Mae’r cyfrifiad yn cael ei gynnal bob 10 mlynedd a gall cynnal ymarfer gweithredol mewn ardaloedd allweddol fel Ceredigion helpu i sicrhau bod prosesau’n rhedeg yn esmwyth erbyn y digwyddiad cenedlaethol.
Yn yr ychydig ddyddiau nesaf bydd staff maes y cyfrifiad allan yn gwneud gwaith dilynol gyda chartrefi sydd heb ymateb eto, gan eu hannog a rhoi cyngor iddynt ar wahanol ffyrdd y gall pobl gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
“Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb yng Ngheredigion sydd wedi cwblhau eu holiadur, ac annog unrhyw un sydd heb gael cyfle i’w gwblhau i wneud hynny yr wythnos hon,” meddai’r dirprwy ystadegydd gwladol, Iain Bell.
“Bydd pobl Ceredigion sydd wedi cymryd rhan i gyd yn helpu i sicrhau llwyddiant cyffredinol Cyfrifiad 2021 ac felly rydym yn annog unrhyw un sydd heb ymateb eto i gadw golwg am staff maes y cyfrifiad yr wythnos nesaf.
“Bydd ganddyn nhw gardiau adnabod felly gallwch chi fod yn sicr eu bod nhw’n gweithio ar y cyfrifiad yn swyddogol.”
Cafodd Ceredigion ei dewis fel un o bedair ardal ymarfer y cyfrifiad, a fydd yn galluogi SYG i brofi rhai o’r systemau a’r prosesau y mae wedi’u rhoi ar waith cyn Cyfrifiad digidol yn gyntaf 2021.
Mae cwblhau’r cyfrifiad yn hawdd. Gall cartrefi ei gwblhau ar gyfrifiadur, ffôn neu lechen ac mae help ar gael os bydd angen. Os hoffai pobl ymateb ar holiadur papur, gallan nhw wneud hynny. Mae ffurflenni i unigolion ar gael ar gais hefyd.
I gael cymorth wyneb yn wyneb i gwblhau holiadur y cyfrifiad ar lein, ewch i Lyfrgell Aberystwyth, ym Maes y Frenhines, rhwng 9:30am a 4:30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. Neu ewch at Wasanaeth Llyfrgell Deithiol Ceredigion, sy’n ymweld â threfi a phentrefi ledled yr ardal bob wythnos.
Gorau po fwyaf sy’n ymateb yng Ngheredigion nawr, fel bod gan SYG y wybodaeth fwyaf cywir posibl i gynllunio ar gyfer llwyddiant y digwyddiad cenedlaethol sy’n helpu i lywio gwasanaethau cyhoeddus hanfodol fel nifer y lleoedd i blant mewn ysgolion, gwasanaethau mewn ysbytai a meddygfeydd, a darpariaeth gofal cymdeithasol.
Mae amrywiaeth o gymorth hygyrch ar gael i aelodau o’r cyhoedd yn cyfrifiad.gov.uk. Gall pobl hefyd ffonio 0800 141 2021, anfon neges destun i 86677 neu drydar @helpcyfrifiad2021. Mae gwasanaeth dehongli ar gael hefyd ar 0800 587 2021.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle