National Botanic Garden announces Cardiff partnership
Making world-leading scientific research, top-quality horticultural training and quality Welsh produce accessible to all.
Insole Court has been announced as the Growing the Future project’s flagship partner hub site in South East Wales. A historic house and gardens in the heart of Cardiff, Insole Court offers a diverse range of cultural and community activities to learn, create and play. By removing barriers to participation, this exciting new partnership will make horticultural training, quality Welsh produce and cutting-edge, world-leading scientific research accessible to all in Cardiff and South East Wales.
The Growing the Future Project, a £2.3 million project based at the National Botanic Garden of Wales, works to champion Welsh horticulture, plants for pollinators, the protection of wildlife and the virtues of growing plants for food, fun, health and well-being. It has already delivered more than 60,000 engagements to participants since its launch in late September 2017. The Project seeks to work with organisations who share both the Vision of the Project and the Mission of the National Botanic Garden of Wales.
Insole Court is a Victorian mansion and gardens in Llandaff. Since undergoing a multi-million pound redevelopment, it has become a popular visitor destination and events venue. The site is now run by the Insole Court Trust, a registered charity, and offers daily classes, activities and public events such as concerts and talks. It also features an interactive exhibition, ‘This House is a Stage’ that tells the history of the mansion and the Insole family.
Insole Court’s Outreach Officer, Cassie Crocker commented: “We are delighted to be affiliated with the Natoinal Botanic Garden of Wales through the Growing the Future project. As an inner-city site, there is a real need to make green spaces available to the community, to enhance well-being and escape city noise. We have regular school groups working in the gardens as well as volunteer gardener groups and a community allotment. We anticipate that this collaboration will benefit the whole of Cardiff by bringing the National Botanic Garden’s exciting scientific research to its doorstep.”
Leading the Project’s horticultural training at Insole Court will be Horticultural Trainer, Ben Wilde, a newly-qualified apprentice of the National Botanic Garden. The expertise and knowledge that Ben has gained through working within the Garden’s Horticulture Team will be invaluable in delivering training on a wide range of topics at Insole Court and will undoubtedly help in building the success of the site’s gardens. Ben says: “I am really looking forward to sharing what I’ve learned here at the Garden with the diverse audience at Insole Court and I am eager to get stuck in. I am also excited to work with Insole and see how the grounds flourish in the coming years.”
We are pleased to announce an exciting calendar of child and family courses has been developed. Teaming up with Arty Cooks, pre-school children will have the opportunity to learn basic cookery skills, produce their own dishes, while learning about their ingredients, their different shapes, colours and varieties, and where they grow.
From horticultural training to advice ranging from how to build your own bee hotel from recycled materials to the best plants to grow in your garden or balcony, this partnership will enable the Growing the Future project and the National Botanic Garden of Wales to bring their work and expertise to a new audience.
One space for each adult course will be fully subsidised and candidates can apply to the Growing the Future Project by email or letter to gtfadmin@gardenofwales.org.uk.
Applications to be submitted by a referral letter from GP or registered charity, spaces are offered on a first-come, first-served basis.
Come and join us for the official launch on Friday 1st November and take part in our workshops for individuals and families, for more information on how to take part visit botanicgarden.wales and insolecourt.org.
The Growing the Future Project has received funding through the Welsh Government Rural Communities – Rural Development Programme 2014-2020, which is funded by the European Agricultural Fund for Rural Development and the Welsh Government.
For more information on the Project’s courses and events, please visit botanicgarden.wales/science/growing-the-future, email gtf@gardenofwales.org.uk or call 01558 667150. For more information on Insole Court and the activities offered there, please visit insolecourt.org, email enquiries@insolecourt.org or call 02921 167920.
Follow the Garden on Facebook, Twitter and Instagram
Follow the Growing the Future project on Facebook and Twitter and Instagram
Follow Insole Court on Facebook, Twitter and Instagram
Yr Ardd Fotaneg Genedlaethol yn cyhoeddi partneriaeth yng Nghaerdydd
Darparu ymchwil wyddonol bwysicaf y byd, hyfforddiant garddwriaethol cyfleus a chynnyrch Cymreig o safon yn gyfleus i bawb.
Cyhoeddwyd mai Cwrt Insole yw safle partner arweiniol Prosiect Tyfu’r Dyfodol yn Ne Ddwyrain Cymru. Tŷ a gardd hanesyddol yng nghanol Caerdydd yw Cwrt Insole, ac mae’n cynnig dewis amrywiol o weithgareddau diwylliannol a chymunedol i ddysgu, creu a chwarae. Drwy ddileu pethau sy’n rhwystro cymryd rhan, bydd y bartneriaeth newydd gyffrous hon yn darparu hyfforddiant garddwriaethol, cynnyrch Cymreig o safon ac ymchwil wyddonol ddiweddaraf a blaenaf y byd i bawb yng Nghaerdydd a De Ddwyrain Cymru.
Mae Prosiect Tyfu’r Dyfodol, sef prosiect gwerth £2.3 miliwn sy’n seiliedig yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, yn gweithio i hyrwyddo garddwriaeth Cymru, planhigion ar gyfer peillwyr, diogelu bwyd gwyllt, a rhinweddau tyfu planhigion ar gyfer bwyd, hwyl, iechyd a lles, ac mae eisoes wedi darparu dros 60,000 o ddigwyddiadau i bobl gymryd rhan ers ei lansio ym mis Medi 2017. Mae’r Prosiect yn ceisio gweithio gyda sefydliadau sydd â’r un Weledigaeth â’r Prosiect a Chenhadaeth Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Plasty a gerddi o gyfnod Victoria yn Llandaf yw Cwrt Insole. Ers gwario miliynau o bunnau ar ei adnewyddu, mae wedi dod yn gyrchfan boblogaidd ar gyfer ymwelwyr a digwyddiadau. Caiff y safle ei redeg nawr gan Ymddiriedolaeth Cwrt Insole, sy’n elusen gofrestredig, ac mae’n cynnig dosbarthiadau bob dydd, gweithgareddau a digwyddiadau cyhoeddus fel cyngherddau a sgyrsiau. Mae yna hefyd arddangosfa ryngweithiol ‘Mae’r Tŷ Hwn yn Llwyfan’, sy’n adrodd hanes y plasty a’r teulu Insole.
Dyma ddywedodd Swyddog Allestyn Cwrt Insole, Cassie Crocker: “Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn gysylltiedig â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru drwy Brosiect Tyfu’r Dyfodol. Fel safle yng nghanol dinas, mae yn angen gwirioneddol am ddarparu mannau gwyrdd i’r gymuned, i wella lles ac i ddianc rhag sŵn y ddinas. Mae gennym grwpiau ysgol rheolaidd yn gweithio yn y gerddi yn ogystal â grwpiau o arddwyr gwirfoddol a llain gymunedol. Rydyn ni’n rhagweld y bydd y cydweithrediad hwn o les i Gaerdydd yn gyfan drwy ddod â gwaith ymchwil gwyddonol cyffrous yr Ardd Fotaneg Genedlaethol at ein drws.”
Arweinydd Garddwriaethol y Prosiect yng Nghwrt Insole fydd Ben Wilde, sydd newydd orffen ei brentisiaeth yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol. Bydd yr arbenigedd a’r wybodaeth mae Ben wedi eu dysgu drwy weithio yn Nhîm Garddwriaeth yr Ardd yn werthfawr iawn wrth ddarparu hyfforddiant mewn amrywiaeth helaeth o bynciau yng Nghwrt Insole, ac mae’n siŵr y bydd o help wrth sicrhau llwyddiant gerddi’r safle. Meddai Ben, “Rwy’n wir yn edrych ymlaen at rannu’r hyn rwyf wedi’i ddysgu yma yn yr Ardd gyda’r gynulleidfa amrywiol yng Nghwrt Insole, ac rwy’n awyddus iawn i ddechrau gweithio. Rwyf hefyd yn teimlo’n gyffrous i fod yn gweithio yng Nghwrt Insole a gweld sut bydd y tir yn ffynnu yn y blynyddoedd i ddod.”
Rydyn ni’n falch cael cyhoeddi hefyd fod calendr cyffrous o gyrsiau i blant a theuluoedd wedi ei ddatblygu. Drwy gyfuno ag Arty Cooks, caiff plant cyn oedran ysgol gyfle i ddysgu sgiliau coginio sylfaenol a chynhyrchu eu prydau bwyd eu hunain, gan ddysgu am eu cynhwysion, eu gwahanol ffurfiau, lliwiau ac amrywiadau, a ble maen nhw’n tyfu.
O hyfforddiant garddwriaethol i gyngor yn amrywio o’r ffordd i adeiladu eich gwesty eich hun i wenyn o ddefnyddiau wedi’u hailgylchu i’r planhigion gorau i’w tyfu yn eich gardd neu ar falcon, bydd y bartneriaeth hon yn galluogi Prosiect Tyfu’r Dyfodol a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru i ddod â’u gwaith a’u harbenigedd i gynulleidfa newydd.
Bydd un lle ar bob cwrs i oedolion yn cael ei noddi’n llawn, a gall ymgeiswyr wneud cais i Brosiect Tyfu’r Dyfodol drwy e-bost neu lythyr i gtfadmin@gardenofwales.org.uk.
Dylid cyflwyno ceisiadau drwy lythyr atgyfeirio oddi wrth feddyg teulu neu elusen gofrestredig. Cynigir lleoedd ar y sail mai’r cyntaf i’r felin gaiff falu.
Dewch i ymuno â ni yn y lansio swyddogol ddydd Gwener 1 Tachwedd a chymryd rhan yn ein gweithdai i unigolion a theuluoedd. I gael mwy o wybodaeth sut i gymryd rhan, ewch i garddfotaneg.cymru ac insolecourt.org.
Mae Prosiect Tyfu’r Dyfodol wedi derbyn cyllid trwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 – Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Ardaloedd Gwledig, a Llywodraeth Cymru.
Am fwy o wybodaeth am gyrsiau a digwyddiadau’r Prosiect, ewch i garddfotaneg.cymru/gwyddoniaeth/tyfur-dyfodol, e-bostiwch gtf@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667150 os gwelwch yn dda. Am fwy o wybodaeth am Gwrt Insole a’r gweithgareddau a gynigir yno, ewch i insolecourt.org, e-bostiwch enquiries@insolecourt.org, neu ffoniwch 02921 167920 os gwelwch yn dda.
Dilynwch yr Ardd ar Facebook, Twitter ac Instagram
Dilynwch y prosiect Tyfu’r Dyfodol ar Facebook a Twitter ac Instagram
Dilynwch Gwrt Insole ar Facebook, Twitter ac Instagram
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle