Shw Mae, Gymydog!

0
425

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru wedi datgan Dydd Gwener, Med12, 2014, yn ‘Ddiwrnod Cwrdd â’ch Cymydog’, sy’n golygu mynediad AM DDIM i bawb sy’n gallu profi eu bod nhw’n byw yn ardal côd post SA31.

Mae’r fenter ‘Diwrnod Côd Post ‘ arbennig hon yn cynnwys sgyrsiau allweddol gan staff yr Ardd, a theithiau cerdded ‘y tu ôl i’r llenni’.

Meddai’r Pennaeth Marchnata, David Hardy: “Ry’n ni wedi cynnal diwrnodau arbennig i bobl sy’n byw yn SA32, SA14, a SA15, ac maen nhw wedi bod yn boblogaidd dros ben. Ac mae nifer o bobl sy’n byw ger yr Ardd mewn ardaloedd côd post gwahanol wedi gofyn, yn hollol gyfiawn, ‘Beth amdanon ni?’. Felly ry’n ni’n gobeithio y bydd Diwrnod SA31 yn helpu i ateb y broblem honno.”

Ychwanegodd Mr Hardy: “Y syniad yw cysylltu’n go iawn â phobl sy’n byw yn ymyl yr Ardd, a’u cynnwys nhw yn ein cynlluniau. Mae llawer o bethau yn digwydd yma ar hyn o bryd, ac, er mwyn hysbysu pobl am hyn, ry’n ni wedi trefnu rhestr hir o sgyrsiau, teithiau cerdded a gweithgareddau eraill sy’n para diwrnod cyfan – gan gynnwys rhai nad ydyn nhw nhw ar gael i’r ymwelydd cyffredin.”

Rhai o uchafbwyntiau ‘SA31’ yw: taith gerdded ‘O Dan y Tŷ Gwydr Mawr’, sesiwn o ‘Gwrdd â’r Cyfarwyddwraig’, ‘Mynd am Dro yn y Canoldir’, a sgwrs a thaith gerdded o amgylch ein harddangosfa o‘Graig yr Oesoedd’. Er mwyn hawlio eich mynediad AM DDIM, dewch â’ch bil treth Cyngor gyda chi, a phrawf arall (gyda llun os yn bosibl) o’ch hunaniaeth.”

Mae’r Ardd ar agor o 10yb tan 6yh. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle