Rhyfeddod y gwyfynod yn Ysgol Saron!

0
644

Yn ddiweddar aeth Isabel Macho, y Swyddog Bioamrywiaeth, â thrap gwyfynod i Ysgol Saron. Gyda chymorth ei chydweithiwr, Mat Ridley, dangosodd Isabel i’r disgyblion fod amrywiaeth anferth o wyfynod yn byw ar dir yr ysgol, ond bod y rhan fwyaf ohonynt ynghudd yn ystod y dydd.

Mae gan Ysgol Saron, ger Rhydaman, lecyn natur ar dir yr ysgol ynghyd â grŵp natur brwd iawn. Gosodwyd y trap dros nos, ac erbyn y bore roedd y staff a’r disgyblion yn rhyfeddu at yr helfa – gan fod yno 60 o wahanol rywogaethau o wyfynod a rhyw 200 o wyfynod unigol yn y trap!

Cafodd y disgyblion weld y gwyfynod, a chael rhagor o wybodaeth amdanynt a pham yr oeddynt yn rhan bwysig o’r amgylchedd naturiol. Dangoswyd yr holl wyfynod i’r disgyblion; cawsant hefyd gyfle i drafod rhai o’r gwyfynod megis gwalchwyfynod yr helyglys – y daliwyd rhyw 25 ohonynt yn y trap gan olygu bod digon ohonynt ar gael i’r disgyblion!

Y gobaith yw mynd â’r trap i ysgolion eraill maes o law. Yn ogystal bwriad yr Adain Gadwraeth yw prynu camera y gall ysgolion ei ddefnyddio i gofnodi’r creaduriaid sy’n crwydro ar hyd tiroedd yr ysgolion liw nos, a’r gobaith yw y bydd hynny’n fodd i ddatgelu rhagor o gyfrinachau am y bywyd gwyllt sydd ar hyd y lle dros nos!

From Carmarthenshire Biodiversity Partnership newsletter June to August 2014.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle