Brithegion y Gors ym Mharc Natur Ynysdawela unwaith eto!

0
523

Ar ôl bwlch o flynyddoedd lawer mae brithegion y gors wedi eu cofnodi unwaith eto ym Mharc Natur Ynysdawela, ger Brynaman. Yn gynharach eleni gwnaed gwaith yno i reoli’r glaswelltiroedd, a hynny fel cam cyntaf tuag at adfer y cynefin a gwella’r rheolaeth ar y safle dros gyfnod hir. Y bwriad maes o law yw llunio cynllun rheoli ar gyfer y safle.

Ar ben hynny, ac ar sail y gwaith asesu cynefinoedd ar gyfer brithegion y gors a’r gwaith monitro rhywogaethau a gychwynnwyd yn yr ardal rhwng Rhyd-y-fro a Brynaman, ar ochr Castell-nedd Port Talbot i’r ffin sirol, mae cyllid Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol / Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei ddefnyddio i wneud gwaith tebyg yn ystod yr haf ar safleoedd cyfagos ar ochr Sir Gaerfyrddin i’r ffin sirol.

Gwyddom eisoes am un boblogaeth fawr o frithegion y gors yng Ngwm-gors, a daethpwyd o hyd i safle arall y llynedd. Ein nod ar ochr Sir Gaerfyrddin i’r ffin yw crynhoi gwybodaeth am faint, cadernid, a phatrwm gweithredu unrhyw fetaboblogaeth brithegion y gors, er mwyn targedu gwaith cadwraeth ac er mwyn sicrhau bod data ar gael ar gyfer y broses gynllunio. Hefyd bydd hyn yn ein helpu i astudio sut mae’r fetaboblogaeth yn y man hwn yn gysylltiedig â’r fetaboblogaeth yn ardal Cross Hands.

Gwyddom bellach fod poblogaeth brithegion y gors Sir Gaerfyrddin ymhlith y rhai pwysicaf yng Nghymru, os nad y bwysicaf oll, felly mae’r gwaith hwn yn holl bwysig o ran ein helpu i sicrhau bod dyfodol gan y rhywogaeth hon yn y tymor hir.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle