Arolwg Cenedlaethol o Ddraenogod

0
625

Mae rhaglenni monitro dros gyfnod maith sy’n cael eu cydlynu gan y People’s Trust for Endangered Species (PTES) ac Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO) wedi rhoi ar ddeall bod niferoedd draenogod wedi lleihau’n sylweddol dros y ddau ddegawd diwethaf ym Mhrydain (Cyflwr Draenogod Prydain 2011), gan beri bod y rhywogaeth yn cael ei rhestru fel rhywogaeth bwysig iawn yng Nghymru (Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006, Adran 42).

Mae’n bosibl bod a wnelo’r lleihad hwn ag amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys:

  • Amaethu dwys: mae’n bosibl bod llai o greaduriaid di-asgwrn-cefn, sy’n fwyd i ddraenogod, ar gael yn sgil colli perthi a chwistrellu cemegion.
  • Cynnydd yn niferoedd moch daear: moch daear yw’r unig rywogaeth sy’n gallu dadrolio draenogod a’u lladd.
  • Cynnydd o ran traffig ar y ffyrdd: sy’n peri bod mwy o ddraenogod yn cael eu lladd gan gerbydau a bod ffyrdd yn rhwystro symudiadau draenogod, gan ei gwneud yn fwy tebygol y bydd poblogaethau ynysig yn darfod amdanynt.
  • Newid yn yr hinsawdd: sy’n lleihau gallu draenogod i grynhoi digon o fraster yn eu cyrff cyn gaeafgysgu; sy’n golygu bod draenogod yn dihuno o’u gaeafgwsg pan nad oes dim neu fawr ddim bwyd ar gael; hefyd mae’n debygol y bydd y cynnydd o ran llifogydd lleol yn fygythiad i ddraenogod sy’n magu neu’n gaeafgysgu.

Mae pwyso a mesur effeithiau rhai o’r ffactorau hyn ar boblogaethau draenogod wedi bod yn anodd hyd yn hyn oherwydd nad oedd techneg ddibynadwy ar gael ar gyfer cynnal arolwg ar y raddfa ofodol briodol. Fodd bynnag, mae astudiaeth brawf yn ddiweddar gan The Mammal Society, Prifysgol Reading a Phrifysgol Nottingham Trent wedi dangos bod defnyddio twneli olion traed yn dechneg ddibynadwy.

Felly mae cyfle bellach i gynnal arolwg o ddraenogod ledled Cymru a Lloegr. Y bwriad cyffredinol yw cynnal arolwg ar draws o leiaf 400 o safleoedd yng Nghymru a Lloegr yn ystod hafau 2014 a 2015.

Cynhelir yr Arolwg Cenedlaethol o Ddraenogod gan Brifysgol Reading a Phrifysgol Nottingham Trent, ar y cyd â’r British Hedgehog Preservation Society a’r People’s Trust for Endangered Species.

Amcanion yr arolwg yw:

  • Penderfynu ymhle y mae draenogod yn bresennol/absennol ar draws cefn gwlad Cymru a Lloegr a hynny drwy ddefnyddio twneli olion troed.
  • Pwyso a mesur pwysigrwydd cymharol y gwahanol ffactorau megis nodweddion cynefin, arferion rheoli tir, a moch daear, o ran presenoldeb/absenoldeb draenogod mewn cynefinoedd gwledig ledled Cymru a Lloegr.
  • Sefydlu llinell sylfaen o ran niferoedd draenogod yng Nghymru a Lloegr y gellir mesur newidiadau yn y dyfodol mewn perthynas â hi.

Gobaith y PTES yw cael cymorth gan wirfoddolwyr er mwyn gallu cynnal yr Arolwg Cenedlaethol o Ddraenogod. Bydd y gwirfoddolwyr hyn yn gyfrifol am gynnal yr arolwg ar safleoedd sydd wedi eu dewis ymlaen llaw ledled Cymru a Lloegr.

I gymryd rhan yn yr arolwg hwn bydd angen ymrwymo i fonitro 10 twnnel olion troed dros bum noson yn olynol mewn sgwaryn 1 cilometr a bennir ichi; hefyd bydd angen un diwrnod ychwanegol arnoch i drefnu eich arolwg gyda’r perchenogion tir.

Gall y gwaith hwn gael ei wneud unrhyw bryd rhwng mis Mai a mis Medi yn ystod 2014 neu 2015. Darperir yr holl offer. Darllenwch ragor am hyn ynghyd â’r Cwestiynau a Ofynnir yn Fynych.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwirfoddoli, anfonwch neges e-bost at Emily Thomas, cydgysylltydd yr arolwg – hedgehogsurvey@ptes.org. Pan fyddwch yn cysylltu â’r PTES, a fyddwch chi gystal â chynnwys eich côd post gan y bydd yn cael ei ddefnyddio i bennu’r sgwaryn sydd agosaf ichi.

From Carmarthenshire Biodiversity Partnership newsletter June to August 2014.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle