Mae Cadwch Gymru’n Daclus unwaith eto’n galw ar grwpiau gwirfoddol, ysgolion a mudiadau ledled Cymru i gynnig eu henwau am Wobrau Cymru Daclus. Tybed ai hon fydd y flwyddyn pan fyddwch chi’n dod i’r brig yn un o’r categorïau ac yn ennill gwobr ariannol o £250!
Mae Gwobrau Cymru Daclus yn cydnabod grwpiau o bob rhan o Gymru sydd yn gweithio’n ddiflino i wella eu hamgylchedd lleol. Mae gan yr arwyr cudd hyn hanesion i’n hysbrydoli am y gwahaniaeth mae eu gwaith gwirfoddol wedi ei wneud i wella eu hamgylchedd lleol drwy leihau sbwriel a diogelu cynefinoedd bywyd gwyllt ac, yn ogystal â hynny, am gysylltiadau sydd wedi eu ffurfio o fewn cymunedau gan ddod â phobl at ei gilydd, a lliniaru tlodi mewn rhai achosion.
A yw eich grŵp chi’n haeddu cydnabyddiaeth am yr oriau o waith gwirfoddol mae’r aelodau wedi ei wneud i helpu’r amgylchedd? Os am gyfle i ennill lawrlwythwch ffurflen gais oddi ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus: www.cadwchgymrundaclus.org neu anfonwch e-bost at twa@keepwalestidy.org
Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn edrych ymlaen yn eiddgar i gael gweld beth mae grwpiau Cymru wedi bod yn ei wneud yn ystod y flwyddyn a aeth heibio ac maent yn gwahodd yr holl grwpiau, ysgolion a sefydliadau – boed fach neu fawr – i gyflwyno eu henwau ar gyfer y gystadleuaeth er mwyn iddynt dderbyn y sylw y maent yn ei haeddu.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle