Mae amrywiaeth o leoliadau yn hoffi brolio am eu lliwiau hydrefol bendigedig, ond ni all neb ddod yn agos at ysblander gogoneddus Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Ymhlith a sgarladau tanbaid a’r aur ysblennydd, mae’r masarn gwych yn yr Ardd Siapaneaidd yn sefyll allan, fel y mae’r olyfga o liwefr, yr aralia syfrdanol ar y Llechwedd Llechi ger y llynnoedd, a’r cwyrwiail lliwgar ar draws yr Ardd.
Meddai’r Curadur, Simon Goodenough: “Efallai nad yw’r maint a’r raddfa o ddeiliant hydrefol gennym y byddech yn disgwyl eu gweld mewn gardd goed aeddfed, ond mae yma, yn yr Ardd, dasgiadau o liwiau godidog rownd pob cornel, ar draws ein 568 o erwau.”
Mae Simon yn credu bod yr atyniad hwn yn Sir Gaerfyrddin yn Ardd i bob tymor, ac mae digon ganddi i gynnig i ymwelwyr yn ystod yr hydref: “Gallwn ymffrostio mewm amrywiaeth ryfeddol o bennau hadau ar y glaswelltau niferus sy’n tyfu yn yr ardd wyllt, sy’n cynnig palet anarferol o liwiau hydrefol prydferth a chynnil, rhai siapiau pensaernïol hyfryd a gweadau aruchel.”
Mae’r Ardd Fotaneg Genedlaethol ar agor rhwng 10yb a 6yp. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu galwch 01558 667149.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle