Census rehearsal raises money for local charities/Ymarfer y cyfrifiad yn codi arian ar gyfer elusennau lleol

0
1398
CAberystwyth mayor Mari Turner, dep national statistician Iain Bell, Hafal manager Wayne Hurley and Hafal service user Gareth Evans

Tens of thousands of households completed a census rehearsal this year – making a real difference as part of planning for the nationwide event in 2021.

The rehearsal was voluntary, with the Office for National Statistics asking residents to give up their time to test the processes and systems ahead of the 2021 Census.

To give something back to the communities, deputy national statistician Iain Bell completed an epic charity cycle ride – all 500 miles from Carlisle to Hackney and Tower Hamlets in East London, via Ceredigion in West Wales.

The feat raised more than ÂŁ2,000 for local charities across the four rehearsal areas and this week he presented Aberystwyth mayor, Mari Turner with a cheque that will go towards her chosen charity Hafal, which helps people recover from serious mental illness.

“I want to take this moment to thank everyone for taking part in the rehearsal,” Iain said. “It has been a great success and will play a key role in making sure we get things right in 2021.

“The census is not just about counting the population, it ensures schools, hospitals and health services can deliver what is needed for the populations up and down the country. And it’s not just about a big distribution of national funding – right across England and Wales, people are using the census to help improve their local community.

“The cycle helped get the census rehearsal off to a flying start and, like I promised, has given something back to the area of Ceredigion by raising money for some good local causes.”

“Aberystwyth was really pleased to be part of the census rehearsal,” added Cllr Turner.

“This money will make an incredible difference to the services Hafal can provide for its clients. We are all truly grateful. Diolch yn fawr.”

Census statistics help paint a picture of the nation and how we live. They provide a detailed snapshot of the population and its characteristics, and underpin funding allocation to provide public services.

The ONS plans to hold the next census on 21st March 2021 – subject to Parliamentary approval.

Ymarfer y cyfrifiad yn codi arian ar gyfer elusennau lleol

Ch-D Maer Aberystwyth, Mari Turner; Iain Bell, y dirprwy ystadegydd gwladol; rheolwr Hafal Wayne Hurley; a Gareth Evans defnyddiwr gwasanaeth

Cwblhaodd degau o filoedd o gartrefi ymarfer y cyfrifiad eleni – gan wneud gwahaniaeth gwirioneddol fel rhan o’r gwaith cynllunio ar gyfer y digwyddiad cenedlaethol yn 2021.

Roedd yr ymarfer yn wirfoddol, gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gofyn i breswylwyr roi o’u hamser i brofi’r prosesau a’r systemau cyn Cyfrifiad 2021.

Er mwyn rhoi rhywbeth yn Ă´l i’r cymunedau, cwblhaodd Iain Bell, y dirprwy ystadegydd gwladol, daith feicio elusennol anhygoel – 500 milltir o Gaerliwelydd i Hackney a Tower Hamlets yn nwyrain Llundain, drwy Geredigion yng ngorllewin Cymru.

Cododd y daith fwy na ÂŁ2,000 ar gyfer elusennau lleol ym mhedair ardal yr ymarfer, ac yr wythnos hon cyflwynodd siec i faer Aberystwyth, Mari Turner, a fydd yn mynd i’w dewis o elusen, sef Hafal, sy’n helpu pobl i wella o salwch meddwl difrifol.

“Rwyf am fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb am gymryd rhan yn yr ymarfer,” meddai Iain. “Mae wedi bod yn llwyddiant mawr a bydd yn chwarae rôl allweddol o ran gwneud yn siŵr bod popeth yn iawn yn 2021.

“Nid yw’r cyfrifiad ond yn ymwneud â chyfrif y boblogaeth; mae’n sicrhau bod ysgolion, ysbytai a gwasanaethau iechyd yn gallu darparu’r hyn sydd ei angen ar y boblogaeth ledled y wlad. Ac nid yw ond yn ymwneud â dosbarthiad mawr o gyllid cenedlaethol ledled Cymru a Lloegr. Mae pobl yn defnyddio’r cyfrifiad i helpu i wella eu cymuned leol.

“Gwnaeth y daith helpu i roi dechrau da i ymarfer y cyfrifiad ac, fel y gwnes i addo, mae wedi rhoi rhywbeth yn ôl i ardal Ceredigion drwy godi arian ar gyfer rhai achosion lleol da.”

“Roedd Aberystwyth yn falch iawn o fod yn rhan o ymarfer y cyfrifiad,” ychwanegodd y Cynghorydd Turner.

“Bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth anhygoel i’r gwasanaethau y gall Hafal eu darparu i’w gleientiaid. Rydym i gyd yn ddiolchgar iawn. Diolch yn fawr.”

Mae ystadegau’r cyfrifiad yn helpu i greu darlun o’n gwlad a’n ffordd o fyw. Maent yn cynnig ciplun manwl o’r boblogaeth a’i nodweddion, ac yn sail i’r broses o ddyrannu cyllid er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn bwriadu cynnal y cyfrifiad nesaf ar 21 Mawrth 2021 – yn amodol ar gymeradwyaeth seneddol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle