Madarch Lledrithiol

0
490

Mae trydydd Diwrnod Blynyddol Ffwng Cymru yn addo bod y mwyaf a’r gorau eto.

Bydd hwn yn digwydd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sul, Hydref 12, ac yn cynnwys rhai o arbenigwyr pennaf Cymru, coginio madarch gwyllt, arddangosfa glytwaith o ffyngau unigryw ac arbennig, ynghyd â gweithgareddau i’r teulu – gan gynnwys paentio madarch o bren , cerflunio, barddoni, a’n harddangosfa o bentref model y tylwyth teg.

Meddai’r Trefnydd, Bruce Langridge: “Mae’n addo bod yn ddigwyddiad rhagorol, gyda phob math o weithgareddau fydd o ddiddordeb i arbenigwyr a’r newyddian chwilfrydig, fel ei gilydd.”

Mae Bruce yn addo cymysgedd o’r difrifol a’r gwyddonol, gyda pheth hwyl a sbri yn ysgafnhau’r cyfan: “Fel y llynedd, bydd rhai o fycolegwyr mwyaf y wlad yn arwain teithiau cerdded drwy’r coed a’r dolydd yn chwilio am ffyngau. Ond hefyd, fel y llynedd, ry’n ni’n cynnig mynediad am ddim i unrhyw un sy’n dod wedi’i wisgo fel tylwythen deg neu ellyll, er mwyn bwrw ychydig o hudoliaeth dros y digwyddiad.”

Mae Diwrnod Ffwng Cymru – rhan o Ddiwrnod Ffwng y DG – hefyd yn cynnwys arddangosfa o lyfrau o Lyfrgell Mycolegol yr Ardd, cyfle i edrych ar fadarch drwy ficrosgop, ac arddangosiad o durnio pren ‘ffyngau’. Bydd hefyd fwydlen ffyngau arbennig yn ein Bwyty, cynigion arbennig yn y Siop Roddion, a chyfle i archwilio ‘O Deyrnas Arall’, prif arddangosfa cyntaf y DG ar ffyngau.

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar agor rhwng 10yb a 4yp.

Mae pob un o ddigwyddiadau Diwrnod Ffwng Cymru yn rhad ac am ddim, gyda thâl mynediad arferol yr Ardd, sy’n £8.50 i oedolion, £7 i’r henoed, £4.50 i blant (5-16), gyda rhai o dan 5 yn cael mynediad yn rhad ac am ddim.

Am fwy o wybodaeth am yr Ardd, ewch i www.gardenofwales.org.uk , e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle