Bydd arddangosfa sy’n tynnu dŵr o ddannedd o fwy na 400 o amrywiaethau yn ganolbwynt i Benwythnos Afalau a Gellyg yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Hydref 18-19.
Mae’r digwyddiad yn ŵyl ddiolchgarwch gwirioneddol, sy’n newyddion da i’r rhai hynny ohonoch chi sydd yn hoff o bethau melys: bydd yno un amrywiaeth o afal sydd â gorchudd o doffi!
Bydd Sefydliad y Merched Llanddarog wrth law eto i ddarparu dulliau coginio gydag afalau, a bydd Bragdy Coles yn cynnig diodydd blasus a chyfle i wasgu eich sudd afal eich hun – dewch â’ch afalau eich hun.
Bydd digonedd o hwyl a gemau yn ogystal, gyda chynllunio crysau-T, dowcio afalau, cwis, a llwybr canfod, a mwy.
Mae’r Ardd Fotaneg Genedlaethol ar agor rhwng 10yb a 4.30yp. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn ac eraill yn yr Ardd, ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle