Dyma gyfle prin i gwrdd ag awdur a darlunwraig gwych, Jackie Morris, yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ddydd Sadwrn, Rhagfyr 6.
Bydd Jackie yn ‘arlunydd mewn preswyl’ yn Oriel yr Ardd am ddiwrnod rhwng 10yb a 4yp, a bydd hi’n paentio, sgyrsio ac arwyddo’i llyfrau ar gyfer edmygwyr ei gwaith rhyfeddol.
Dangosir ei harddangosfa, Cân y Sgwarnog Aur, yn yr Oriel tan Ionawr 13, sy’n dangos darluniadau o’i gwaith diweddaraf, a’i hoff straeon, a chreaduraiaid o restr hir o’i llyfrau hynod o drawiadol a phoblogaidd.
Bydd Jackie yn hapus i ateb cwestiynau am ei bywyd, gwaith, a’r hyn sy’n ei cymell i ysgrifennu a darlunio, ynghyd ag arwyddo ei llyfrau, felly dewch i ddweud helô wrthi, a chael eich hoff lyfr wedi’i arwyddo gan un o brif awduron/darlunwyr Cymru.
Er mwyn cael cipolwg ar sut y mae hi’n mynd o gwmpas creu storïau a chelfwaith mor gywrain, edrychwch ar ei blog sy’n cynnig cyfle prin ichi ddilyn y broses gelfyddydol.
http://www.jackiemorris.co.uk/blog/book-list/song-of-the-golden-hare/
Y tâl mynediad i’r Ardd yw £8.50 i oedolion, £7 i gonsesiynau a £4.50 i blant. Mae tocyn teuluol (2 oedolyn ac hyd at 4 o blant) yn £21.
Mae’r Ardd Fotaneg Genedlaethol ar agor rhwng 10yb a 4yp. Am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn a digwyddiadau eraill yn yr Ardd, ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle