Bluestone joins Hywel Dda University Health Board & Pembrokeshire County Council in the battle against COVID-19 | Bluestone yn ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Sir Benfro yn y frwydr yn erbyn COVID-19

0
505
DCIM100MEDIADJI_0005.JPG

This morning (27 March 2020) it was announced that Bluestone National Park Resort is to become a Recovery Centre for patients in Pembrokeshire, in response to the COVID-19 pandemic.

In the wake of the ongoing public health emergency, part of Bluestone’s extensive facilities, as well as open spaces, will be utilised to help treat those in need and those recovering from the virus. Bluestone is joining a local, regional, and national effort to do everything possible to prepare for the unfolding outbreak – and ultimately save as many lives as possible.

Bluestone provides a significant addition to the resources and facilities of Hywel Dda University Health Board, which is responsible for the health and wellbeing of the residents of Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire.

Members of the Bluestone Team will continue to provide security and management of some of the facilities on the site, while the Health Board will manage the addition of medical resources, and Pembrokeshire County Council will lead work on the site. The details of additional personnel required to support the effort, under the full guidance of the Health Board, are currently being worked up, and the facility will available to those in need as soon as possible.

Dr Phil Kloer, Medical Director and Deputy Chief Executive at Hywel Dda, said: “We have followed the situation in Italy closely to learn where possible and to help our planning. Our European colleagues have provided feedback that patient flow and throughput is a critical factor in response to COVID-19 pressures. Delivering these additional beds for patients will therefore be essential to help us manage patient flow over the coming weeks. We are extremely grateful for all of the support that we are receiving from Bluestone and Pembrokeshire County Council to help make this happen and am confident this facility will offer a good environment in which our patients can recover.”

Speaking following the announcement, William McNamara, CEO of Bluestone said: “We are living and operating in previously unimaginable circumstances. It is moments like these that it’s vital we come together to support each other – as family, as friends and as a community.

“It is right that Bluestone is utilised in this time of great national need. We all want – and need – to do whatever we can to make a difference and contribute to tackling the unfolding coronavirus emergency.

“Our thoughts and deepest sympathies are with those who are personally affected by this unfolding situation.”

Cllr David Simpson, Leader of Pembrokeshire County Council, added: ”We are very grateful to William and the Bluestone Team for coming forward and making the Bluestone site available. The facilities are going to provide significant additional resources to the local area as we battle the ongoing coronavirus outbreak.

“I know that this is an uncertain and worrying time for residents across Pembrokeshire and Hywel Dda. The community is doing a truly heartening job of pulling together – and we will get through this together.”

Bluestone yn ymuno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Sir Benfro yn y frwydr yn erbyn COVID-19

Y bore yma (27ain Mawrth) cyhoeddwyd y bydd Cyrchfan Parc Cenedlaethol Bluestone yn dod yn Ganolfan Adferiad i gleifion yn Sir Benfro, mewn ymateb i bandemig COVID-19.

Yn sgil yr argyfwng iechyd cyhoeddus parhaus, bydd rhan o gyfleusterau helaeth Bluestone, yn ogystal â mannau agored, yn cael eu defnyddio i helpu i drin y rhai mewn angen a’r rhai sy’n gwella o’r firws. Mae Bluestone yn ymuno ag ymdrech leol, ranbarthol a chenedlaethol i wneud popeth posibl i baratoi ar gyfer yr achosion sy’n datblygu – ac yn y pen draw arbed cymaint o fywydau â phosib.

Mae Bluestone yn ychwanegiad sylweddol at adnoddau a chyfleusterau Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy’n gyfrifol am iechyd a lles trigolion Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Bydd aelodau tîm Bluestone yn parhau i ddarparu diogelwch a rheolaeth ar rai o’r cyfleusterau ar y safle, tra bydd y Bwrdd Iechyd yn rheoli ychwanegu adnoddau meddygol, a bydd Cyngor Sir Penfro yn arwain gwaith ar y safle. Mae manylion y personél ychwanegol sy’n ofynnol i gefnogi’r ymdrech, o dan arweiniad llawn y Bwrdd Iechyd, yn cael ei drefnu ar hyn o bryd, a bydd y cyfleuster ar gael i’r rhai mewn angen cyn gynted â phosibl.

Dywedodd Dr Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Weithredwr yn Hywel Dda: “Rydyn ni wedi dilyn esiampl y sefyllfa yn yr Eidal yn agos i ddysgu ac i helpu gyda’n cynllunio. Mae ein cydweithwyr yn Ewrop wedi darparu adborth bod llif cleifion yn ffactor hanfodol mewn ymateb i bwysau COVID-19. Felly bydd cyflwyno’r gwelyau ychwanegol hyn i gleifion yn hanfodol i’n helpu i reoli llif cleifion dros yr wythnosau nesaf. Rydym yn hynod ddiolchgar am yr holl gefnogaeth yr ydym yn ei derbyn gan Bluestone a Chyngor Sir Penfro i helpu i wneud i hyn ddigwydd ac rwy’n hyderus y bydd y cyfleuster hwn yn cynnig amgylchedd da lle gall ein cleifion wella.”

Wrth siarad yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd William McNamara, Prif Swyddog Gweithredol Bluestone: “Rydym yn byw ac yn gweithredu mewn amgylchiadau a oedd gynt yn annirnadwy. Mewn adegau fel hyn mae’n hanfodol ein bod yn dod at ein gilydd i gefnogi ein gilydd – fel teulu, fel ffrindiau ac fel cymuned.

“Mae’n briodol fod Bluestone yn cael ei defnyddio yn yr amser hwn o angen cenedlaethol mawr. Mae pawb ohonom eisiau – ac angen – gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud gwahaniaeth a chyfrannu at fynd i’r afael â’r argyfwng coronafirws sy’n datblygu.

“Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad dwysaf gyda’r rhai sy’n cael eu heffeithio’n bersonol gan y sefyllfa hon sy’n datblygu.”

Ychwanegodd y Cynghorydd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro: “Rydym yn ddiolchgar iawn i William a Thîm Bluestone am gamu ymlaen a sicrhau bod safle Bluestone ar gael. Mae’r cyfleusterau’n mynd i ddarparu adnoddau ychwanegol sylweddol i’r ardal leol wrth i ni frwydro yn erbyn yr achosion parhaus o coronafirws.

“Gwn fod hwn yn gyfnod ansicr a phryderus i drigolion ledled Sir Benfro a Hywel Dda. Mae’r gymuned yn gwneud gwaith gwirioneddol galonogol o dynnu ynghyd – a byddwn yn dod trwy hyn gyda’n gilydd.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle