Sioe Ysblennydd Siôn Corn

0
448

Bydd môr-leidr, pengwin, digonedd o goblynnod ac (wrth gwrs!) Siôn Corn yn ‘Sioe Ysblennydd Siôn Corn’ eleni yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Caerfyrddin.

Mae’r sbloet dymhorol flynyddol hon yn addo bod yn gracyr Nadoligaidd o’r iawn ryw, felly byddwch yn barod i logi’ch sedd yn gynnar ar gyfer ‘Y Môr-Leidr a Ddygodd y Nadolig’.

Wedi’i hysgrifennu a’i dawnslunio gan gydlynydd gwirfoddoli’r Ardd, Jane Down, a’i pherfformio gan ei thîm ymroddedig o wirfoddolwyr, bydd y sioe 25-munud hon yn cael ei chynnal yn y Theatr Botanica unigryw â’i llwyfan droi.

Meddai Jane: “Mae’r gwaith y mae’r gwirfoddolwyr yn ei wneud i ddarparu’r Sioe Nadoligaisdd flynyddol yn rhyfeddol. Maen nhw’n gweithio mor ddygn ar y stori, y setiau, y golygfeydd, y gwisgoedd, ac, wrth gwrs, yr actio – a nhw yw gwir sêr y sioe.”

Gellir gweld ‘Y Môr-Leidr a Ddygodd y Nadolig’ yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol ar Ragfyr 13-14 a’r 20-21, am 11.30yb, 12.15yp, 1.45yp, a 2.30yp yn ddyddiol.

Mae seddi’n gyfyngedig, felly os hoffech logi lle ymlaen llaw, galwch 01558 667149.

Mae tocynnau i’r Sioe yn £3, a chodir y taliadau mynediad arferol i’r Ardd (er bod mynediad i blant AM DDIM pan fo Siôn Corn yn yr Ardd).

Am fwy o wybodaeth a newyddion am ddigwyddiadau yn yr Ardd, ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk, neu galwch 01558 667149.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle