Blas y Nadolig

0
544

Ymbleserwch yn nanteithion Nadoligaidd y Ffair Fwyd Nadolig boblogaidd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ar Ragfyr 14 a 15.

Hoff ardd y genedl yw’r lleoliad ar gyfer dathlu bwyd a diod lleol.

Mae rhywbeth at ddant pawb yn yr hyn a gynigir dros yr Ŵyl yn y Tŷ Gwydr Mawr, o becynnau bwydydd hyfryd i gaws gafr, paté, siytni a chillis, gwirodydd a chig eidion gwartheg hirgorn, cig moch a halltwyd, danteithion llysfwytâol a feganaidd, siocledau Nadolig, a llawer mwy!

Cynhelir Ffair Fwyd y Nadolig yn Y Tŷ Gwydr Mawr ar Ddydd Sadwrn a Dydd Sul, Rhagfyr 20 a 21, rhwng 10yb a 4.30yp ar y ddau ddiwrnod.

Pam na ddewch chi â’r plant i weld y sioe Siôn Corn, ‘Y Môr-Leidr a Ddygodd y Nadolig’, a’i gwneud hi’n ddiwrnod Nadoligaidd go iawn i’r teulu

Mae’r taliadau mynediad arferol i’r Ardd yn gymwys. Mae’r tocynnau ar gyfer y sioe Siôn Corn yn Theatr Botanica yn £3 y sedd, ac mae’r sioe’n digwydd am 11.30yb, 12.15yp, 1.45yp a 2.30yp. Mae parcio am ddim yn yr Ardd.

Am ragor o wybodaeth am hwn a digwyddiadau Nadoligaidd eraill o’r Ardd, galwch 01558 667149, ewch i www.gardenofwales.org.uk neu e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle