Second Gwynedd Councillor joins the WNP
Cllr Peter Read, who represents Abererch ward, has announced that he has joined the Welsh National Party.
He becomes the second Gwynedd Councillor to do so, after Cllr Dylan Bullard joined the party in April.
The WNP was formed at the beginning of this year and already boasts seven Councillors across three local authorities, as well as one member of the Senedd (Welsh Parliament).
Cllr Read stated:
“Joining the WNP is a positive decision to shake up politics in Gwynedd and Wales.
“The Welsh National Party will be seeking amendments to Gwynedd’s Local Development Plan at the earliest opportunity. Planning needs to be at a human scale, not geared towards big developers. It often seems like it’s easier for a person from outside Wales to build a house here, while young people just can’t get a mortgage. And we must stop family homes being converted into yet more holiday homes. Local housing must be there for local people.
“The WNP Gwynedd Council Group is also calling for urgent action to stop the coming influx of visitors this Whitsun holiday, after the relaxation of regulations in England. Road restrictions should be put in place. Those travelling to second homes should be fined and sent home.
“I’m a strong believer in the WNP’s policy of community sovereignty. Communities should decide what happens locally. Because what the Coronavirus pandemic has shown us is that we still have a strong, proud community. When it mattered we could rely on each other and it’s brought us closer, but it’s also shown us the cracks. We can’t go back to the way things were before.
“I joined the WNP because its politics are fresh and clear. Wales and Gwynedd have enormous potential. Now we have a party that can be better for Wales.”
WNP Leader Neil McEvoy MS said,
“There is real momentum behind the WNP now. We’ve got Councillors and members joining across the country and Cllr Read is the latest addition to our excellent team.
“My wife and in-laws are from Gwynedd. It’s a place that I love but somewhere that has been overlooked and let down for too long. We will be putting forward solutions going forward, starting with Gwynedd’s Local Development Plan. We need housing and jobs in Gwynedd that prioritises people who are actually from Gwynedd.
“The WNP is the real Welsh alternative now. The cosy Cardiff Bay consensus is coming to an end as we take power back to the communities in Wales.”
Ail Gynghorydd o Wynedd yn ymuno â’r Blaid Genedlaethol
Mae’r Cynghorydd Peter Read, sy’n cynrychioli ward Abererch, wedi cyhoeddi ei fod wedi ymuno â‘r Blaid Genedlaethol.
Dyma’r ail Gynghorydd o Wynedd i wneud hynny, ar ôl i’r Cynghorydd Dylan Bullard ymuno â’r blaid ym mis Ebrill.
Ffurfiwyd y Blaid Genedlaethol ar ddechrau’r flwyddyn ac mae eisoes yn cynnwys saith Cynghorydd mewn tri awdurdod lleol, yn ogystal ag un aelod o’r Senedd (Senedd Cymru).
Dywedodd y Cynghorydd Read:
“Mae fy mhenderfyniad i ymuno â’r Blaid Genedlaethol yn gam cadarnhaol i ysgwyd gwleidyddiaeth yng Ngwynedd a Chymru.
“Bydd y Blaid Genedlaethol yn ceisio cyflwyno diwygiadau i Gynllun Datblygu Lleol Gwynedd ar y cyfle cyntaf. Mae angen i’r cynllunio fod ar raddfa ddynol, nid wedi’i anelu at ddatblygwyr mawr. Yn aml mae’n ymddangos ei bod hi’n haws i berson o’r tu allan i Gymru adeiladu tŷ yma, tra’i bod bron yn amhosib i bobl ifanc gael morgais. Ac mae angen atal tai a ddylai gartrefu teuluoedd rhag cael eu troi’n fwy fyth o dai haf. Rhaid darparu tai lleol i bobl leol.
“Mae Grŵp y Blaid Genedlaethol ar Gyngor Gwynedd hefyd yn galw am weithredu ar fyrder i atal y mewnlifiad o ymwelwyr sy’n sicr o heidio i’r ardal dros y Sulgwyn, ar ôl llacio rheoliadau yn Lloegr. Dylid rhoi cyfyngiadau ar y ffyrdd. Dylai’r rhai sy’n teithio i dai haf gael dirwy a’u hanfon adref.
“Rwy’n gredwr cryf ym mholisi’r Blaid Genedlaethol o sofraniaeth gymunedol. Dylai cymunedau benderfynu beth sy’n digwydd yn lleol. Oherwydd yr hyn y mae’r pandemig Coronafirws wedi’i ddangos inni yw bod gennym gymuned gref, falch o hyd. Profodd ein bod yn dal i fedru dibynnu ar ein gilydd ac mae wedi dod â ni’n agosach, ond mae hefyd wedi amlygu’r craciau. Ni allwn ddychwelyd i’r hen drefn ar ôl hyn.
“Ymunais â’r Blaid Genedlaethol oherwydd bod ei wleidyddiaeth yn ffres ac yn glir. Mae gan Gymru a Gwynedd botensial enfawr. Nawr mae gennym ni blaid a all gynnig gwell i Gymru.”
Dywedodd Arweinydd y Blaid Genedlaethol, Neil McEvoy AS,
“Mae momentwm go iawn yn perthyn i’r Blaid Genedlaethol yn awr. Mae gennym Gynghorwyr ac aelodau yn ymuno ledled y wlad a’r Cynghorydd Read yw’r diweddaraf i ymuno â’n tîm rhagorol.
“Mae fy ngwraig yn dod o Wynedd a’i theulu yn dal i fyw yno. Mae’n lle rwy’n ei garu ond mae’n ardal sydd wedi cael ei anwybyddu yn rhy hir. Byddwn yn cyflwyno atebion wrth symud ymlaen, gan ddechrau gyda Chynllun Datblygu Lleol Gwynedd. Mae angen tai a swyddi arnom yng Ngwynedd sy’n blaenoriaethu pobl sy’n dod o Wynedd.
“Y Blaid Genedlaethol yw’r dewis amgen Cymreig go iawn yn awr. Mae consesws clyd Bae Caerdydd yn dod i ben wrth i ni roi grym yn ôl yn nwylo ein cymunedau.”
WNP │ YBG
http://www.wnp.wales/
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle