Carmarthen man says he owes his life to his wife after his COVID experience / Dywed dyn o Gaerfyrddin ei fod yn ddyledus i’w wraig ar ôl ei brofiad COVID

0
453
Derek Edwards

A fit and healthy retired policeman from Carmarthen says his wife and hospital staff saved his life in the face of COVID-19.

Derek Edwards, 58, spent nine days unwell at home, when his wife, a specialist Parkinson’s nurse at Glangwili Hospital, became particularly concerned about his shallow breathing.

“My wife and I had both been unwell and as she is a nurse, she had a test and was confirmed as having COVID-19. On the ninth day, she was really worried about my breathing and we phoned the GP who referred me into the hospital,” said Derek. “By the time I got there I could hardly stand and my saturated oxygen was very low – it really crept up on me.

“I had various treatment over two weeks in hospital, including oxygen, IV paracetamol, steroids, antibiotics, chest x-rays and fluids. I also had to remain in the prone position, lying flat with chest down and back up, as much as possible and this, along with the cough and difficulty breathing, was physically very draining.”

Derek, who now works as an Eye Clinic Liaison Officer for the RNIB as well as a driver with the British Red Cross for hospital transport, said there were several things that kept him going through his experience of the disease.

“I am blessed to have my wife Laura, she saved my life,” he said. “I thought about my family, friends and neighbours who were all fantastic in sending messages of support and I focused on coming home and getting back to routine.”

“The care I had from all the different staff was absolutely fantastic.  From the doctors, nurses, healthcare assistants and domestic staff – they don’t know me and yet they came to work at their risk to care for me and other patients. Without visitors, their friendly voices and care made such a difference each day and I can’t thank them enough. The physiotherapists and occupational therapists were marvellous and got me up and going again with support both in hospital and whilst I am now recovering at home.

“I must also mention the excellent food. I lost a lot of weight, which I could ill afford to do, but as I was recovering I looked forward each day to the food from the hospital. It was a huge help in building my strength and recovery.”

When considering his experience, Derek said his message to others would be: “Don’t under-estimate this disease. Don’t take it for granted that you won’t be affected, please look after yourselves and those around you. Anyone affected badly by COVID-19 can expect many weeks of recovery. I have been home two weeks and any exertion still leaves me breathless. It is improving but I still have the cough and I know it is going to take time and patience.”

Medical Director and Deputy Chief Executive for Hywel Dda University Health Board Dr Philip Kloer said: “We are so pleased to hear that Mr Edwards is continuing his recovery at home. It is heartening to hear his praise for our dedicated staff from the different clinicians to all the necessary support services that keep our NHS doing what it does best, caring for our communities.

“For our patients, our communities and our NHS, we ask the public to keep following Government guidance in Wales, this is the single most important way to support the NHS.”

—————————————————————————————————

Dywed dyn o Gaerfyrddin ei fod yn ddyledus i’w wraig ar ôl ei brofiad COVID

Dywed heddwas ffit a iach o Gaerfyrddin, sydd bellach wedi ymddeol fod ei wraig a staff yr ysbyty wedi achub ei fywyd yn wyneb COVID-19.

Treuliodd Derek Edwards, 58, naw diwrnod yn sâl gartref, pan ddaeth ei wraig, sy’n nyrs Parkinson’s arbenigol yn Ysbyty Glangwili, yn arbennig o bryderus am ei anadlu dwfn.

“Roedd fy ngwraig a minnau wedi bod yn sâl a chan ei bod yn nyrs, cafodd brawf a chadarnhawyd bod ganddi COVID-19. Ar y nawfed diwrnod, roedd hi’n poeni’n fawr am fy anadlu ac fe wnaethon ni ffonio’r meddyg teulu a gyfeiriodd fi i’r ysbyty,” meddai Derek. “Erbyn i mi gyrraedd yno prin y gallwn sefyll ac roedd fy ocsigen yn isel iawn – fe ddaeth yn sydyn.

“Cefais driniaeth amrywiol dros bythefnos yn yr ysbyty, gan gynnwys ocsigen, paracetamol IV, steroidau, gwrthfiotigau, pelydrau-x y frest a hylifau. Roedd yn rhaid i mi orwedd yn wastad gyda’r frest i lawr ar cefn i fyny, cymaint â phosib ac roedd hyn, ynghyd â’r peswch a’r anhawster anadlu, yn straen gorfforol fawr.”

Dywedodd Derek, sydd bellach yn gweithio fel Swyddog Cyswllt Clinig Llygaid i’r RNIB yn ogystal â gyrrwr gyda’r Groes Goch Brydeinig yn cludo pobl i’r ysbyty, fod sawl peth a’i cadwodd i fynd trwy ei brofiad o’r afiechyd.

“Rwy’n falch o gael fy ngwraig Laura, fe achubodd fy mywyd,” meddai.

“Meddyliais am fy nheulu, ffrindiau a chymdogion a oedd i gyd yn wych wrth anfon negeseuon o gefnogaeth a chanolbwyntiais ar ddod adref a dod yn ôl i drefn arferol.”

“Roedd y gofal a gefais gan yr holl staff gwahanol yn hollol wych. Gan y meddygon, nyrsys, cynorthwywyr gofal iechyd a staff domestig – nid ydyn nhw’n fy adnabod ac eto fe wnaethant roi eu bywydau mewn perygl i ofalu amdanaf i a chleifion eraill. Heb ymwelwyr, gwnaeth eu lleisiau a’u gofal cyfeillgar gymaint o wahaniaeth bob dydd ac ni allaf ddiolch digon iddynt.

Roedd y ffisiotherapyddion a’r therapyddion galwedigaethol yn wych wrth fy nghael ar fy nhraed eto a yn fy nghefnogi tra yn yr ysbyty a thra fy mod i nawr yn gwella gartref.

“Rhaid i mi hefyd sôn am y bwyd rhagorol. Collais lawer o bwysau, na allwn fforddio ei wneud, ond gan fy mod yn gwella roeddwn yn edrych ymlaen bob dydd at y bwyd o’r ysbyty. Roedd yn help enfawr i adeiladu fy nerth ac adferiad.”

Wrth ystyried ei brofiad, dywedodd Derek mai ei neges i eraill fyddai: “Peidiwch â chymryd y clefyd hwn yn ysgafn. Peidiwch â chymryd yn ganiataol na chewch eich effeithio, edrychwch ar ôl eich hunain a’r rhai o’ch cwmpas. Gall unrhyw un yr effeithir yn wael arno gan COVID-19 ddisgwyl wythnosau lawer o adferiad. Rwyf wedi bod adref ers pythefnos ac mae unrhyw ymdrech yn dal i fy ngadael yn fyr fy ngwynt. Mae’n gwella ond rwy’n dal i gael y peswch ac rwy’n gwybod y bydd yn cymryd amser ac amynedd.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Dr Philip Kloer: “Rydyn ni mor falch o glywed bod Mr Edwards yn parhau i wella gartref. Mae’n galonogol clywed ei ganmoliaeth i’n staff ymroddedig o’r gwahanol glinigwyr i’r holl wasanaethau cymorth angenrheidiol sy’n cadw ein GIG i wneud yr hyn y mae’n ei wneud orau, gan ofalu am ein cymunedau.

“Ar gyfer ein cleifion, ein cymunedau a’n GIG, gofynnwn i’r cyhoedd barhau i ddilyn arweiniad y Llywodraeth yng Nghymru, dyma’r ffordd bwysicaf i gefnogi’r GIG.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle