Research continues at the heart of patient care across Hywel Dda |Ymchwil yn parhau wrth wraidd gofal cleifion ar draws Hywel Dda

0
794
Hywel Dda Research Team 2020

Research and Development staff across Hywel Dda University Health Board (UHB) in Carmarthenshire, Ceredigion and Pembrokeshire are celebrating International Clinical Trials Day (20 May 2020).

Each of the four acute hospitals in Hywel Dda UHB – Bronglais, Glangwili, Withybush and Prince Philip hospitals – has a research and development team working year-round on studies to allow for improvements in patient care and treatment.

Treatments might be new drugs or new combinations of drugs, new surgical procedures or devices, or new ways to use existing treatments.

Dr Philip Kloer, Medical Director and Deputy Chief Executive of Hywel Dda UHB has paid tribute to those working in research and development across west Wales.

Dr Kloer, said: “The best organisations and those providing the best quality of care are research active and the importance of research to combat a new disease such as COVID-19 cannot be overstated.

“In Hywel Dda we are involved in ten clinical trials aimed at combating-19. Some of those are aimed at testing promising new medications; others are involved in looking at new breathing devices and understanding how the COVID disease affects people.

“I want to thank all of those in our amazing research and development department but also all patients and staff who are involved in clinical trials. Your support and input is really helping us to combat COVID-19.”

Linda O’Brien, is a Research Nurse currently working in a COVID area of Prince Philip Hospital.

Linda said: “The COVID pandemic has really highlighted the importance of research and I’m currently working on two clinical studies.

“The first study is called RECOVERY (Randomised Evaluation of COVID-19 Therapy) and is a national clinical trial, led by the University of Oxford, that aims to identify treatments that may be beneficial for adults hospitalised with confirmed COVID-19.

“The second study I am involved with is called CCP-UK, a study of the COVID-19 disease to better understand its spread and behaviour by analysing biological samples and data from patients with confirmed cases of the disease across the UK.

“Last year on International Clinical Trials Day we were able to invite staff and patients into the department to find out more about the work we do and how to get involved with a clinical study.

“Obviously, we are not able to do that this year, however it has given us more opportunity to go on to the wards a lot more and have more conversations with staff and patients about the work that we do and how they can get involved which is fantastic.”

To find out more about research and development in Hywel Dda University Health Board please visit http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/page/74864.

Linda OBrien Research Nurse PPH
Ymchwil yn parhau wrth wraidd gofal cleifion ar draws Hywel Dda

Mae staff Ymchwil a Datblygu ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Treialon Clinigol (20 Mai 2020).

Mae gan bob un o’r pedwar ysbyty acíwt yn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – ysbytai Bronglais, Glangwili, Llwynhelyg  a’r Tywysog Philip dîm ymchwil a datblygu sy’n gweithio trwy gydol y flwyddyn ar astudiaethau i ganiatáu ar gyfer gwella gofal a thriniaeth cleifion.

Gall triniaethau fod yn gyffuriau newydd neu’n gyfuniadau newydd o gyffuriau, gweithdrefnau neu ddyfeisiau llawfeddygol newydd, neu ffyrdd newydd o ddefnyddio triniaethau sy’n bodoli eisoes.

Mae Dr Philip Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi talu teyrnged i’r rhai sy’n gweithio ym maes ymchwil a datblygu ledled gorllewin Cymru.

Dywedodd Dr Kloer: “Mae’r sefydliadau gorau a’r rhai sy’n darparu gofal o’r ansawdd gorau yn weithredol mewn ymchwil ac ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd ymchwil i frwydro yn erbyn clefyd newydd fel COVID-19.

“Yn Hywel Dda rydym yn cymryd rhan mewn deg treial clinigol gyda’r nod o frwydro yn erbyn COVID-19. Mae rhai o’r rheini wedi’u hanelu at brofi meddyginiaethau newydd addawol; mae eraill yn ymwneud ag edrych ar ddyfeisiau anadlu newydd a deall sut mae’r clefyd COVID yn effeithio ar bobl.

“Rwyf am ddiolch i bawb yn ein hadran ymchwil a datblygu anhygoel ond hefyd i’r holl gleifion a staff sy’n ymwneud â threialon clinigol. Mae eich cefnogaeth a’ch mewnbwn yn wirioneddol yn ein helpu i frwydro yn erbyn COVID-19.”

Mae Linda O’Brien, yn Nyrs Ymchwil sy’n gweithio ar hyn o bryd mewn ardal COVID yn Ysbyty Tywysog Philip.

Meddai Linda: “Mae pandemig COVID wedi tynnu sylw at bwysigrwydd ymchwil ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar ddwy astudiaeth glinigol.

“Enw’r astudiaeth gyntaf yw RECOVERY (Gwerthusiad ar Hap o Therapi COVID-19) ac mae’n dreial clinigol cenedlaethol, dan arweiniad Prifysgol Rhydychen, sydd â’r nod o nodi triniaethau a allai fod yn fuddiol i oedolion sydd yn yr ysbyty â COVID-19.

“Enw’r ail astudiaeth rwy’n ymwneud â hi yw CCP-UK, astudiaeth o’r clefyd COVID-19 i ddeall ei ledaeniad a’i ymddygiad yn well trwy ddadansoddi samplau a data biolegol gan gleifion ag achosion wedi’u cadarnhau o’r clefyd ledled y DU.

“Y llynedd ar Ddiwrnod Rhyngwladol Treialon Clinigol roeddem yn gallu gwahodd staff a chleifion i’r adran i ddarganfod mwy am y gwaith rydym yn ei wneud a sut i gymryd rhan mewn astudiaeth glinigol.

“Yn amlwg, nid ydym yn gallu gwneud hynny eleni, fodd bynnag, mae wedi rhoi mwy o gyfle inni ymweld â wardiau lawer mwy a chael mwy o sgyrsiau gyda staff a chleifion am y gwaith a wnawn a sut y gallant gymryd rhan.”

I ddarganfod mwy am ymchwil a datblygu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ewch i http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/862/tudalen/82343.

***Please note photos taken before COVID-19***


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle