Hadau’r Sul yn gwreiddio

0
466

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cynnal ei diwrnod cymunedol cyfnewid hadau cyntaf ar Ddydd Sul, Chwefror 22.

Mae trefnwyr ‘Hadau’r Sul’ yn gobeithio dod â chynilwyr hadau, selogion tyfu llysiau a pherlysiau adref, garddwyr lleol a chymunedol, a pherchnogion lleiniau, at ei gilydd, ynghyd â mudiadau sy’n ymgyrchu dros gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a bio-amrywiaeth.

Meddai Pennaeth Marchnata’r Ardd, David Hardy: “Mae gwahoddiad agored i bawb ddod yma a chyfnewid amrywiaeth traddodiadol o hadau llysiau a dyfwyd yn lleol gyda thyfwyr eraill.”

Canolbwynt y diwrnod fydd y safle ‘Bwrdd Cyfnewid Hadau’, ond fe fydd hefyd arbenigwyr wrth law i siarad am ba hadau i’w harbed, sut i’w harbed, amrywiaethiau o hadau pwysig o ran ein treftadaeth, a mudiadau perthnasol fel ‘Banc Organics’, Offer ar gyfer Hunan-Ddibyniaeth a Thyfu’r Dyfodol. Bydd hefyd gweithgareddau hwyliog i’r teulu yn ymwneud â hadau.

Bydd arbenigwyr o brosiect Tyfu’r Dyfodol yr Ardd yn rhoi dau sgwrs yn ystod y diwrnod. Am 12 canol dydd, y pwnc fydd ‘Llwyddiant gyda Hadau’ – sut i sicrhau y canlybiadau gorau o’r hadau a heuwyd gennych adre; ac am 2yp, bydd sgwrs am ‘Gynilo eich Hadau eich Hun’, gyda chyngor ar sut i ddewis yr hadau gorau ac ym mha amodau y dylid eu cadw.

Ychwanegodd Mr Hardy: “Er mwyn annog pobl i ddod â rhywbeth ar gyfer y Bwrdd Cyfnewid Hadau, bydd mynediad AM DDIM i’r Ardd i unrhyw un sy’n dod â hadau i’w cyfnewid.”

* Rhaid bod yr hadau yn dod o arddwyr a thyfwyr lleol sy’n tyfu amrywiaethau o lysiau a beilliwyd yn agored.

* Mae’r Ardd Fotaneg Genedlaethol ar agor rhwng 10yb a 4.30yp. Am fwy o wybodaeth ewch i www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu galwch 01558 667149.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle